Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar effeithiolrwydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Nod y Ddeddf yw cefnogi yng Nghymru ‘sector amaethyddol gwydn, cynaliadwy, ac wedi’i hyfforddi’n dda’, ac, yn arbennig, mae’n rheoleiddio cyflogau amaethyddol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys ‘cymal machlud’, sy’n golygu y bydd yn peidio â chael effaith ar ôl 30 Gorffennaf 2018 os na wneir deddfwriaeth newydd i’w chadw. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniad yr ymgynghoriad i’w helpu i benderfynu pa un a ddylid cynnal y Ddeddf, ei diwygio neu ddod â hi i ben.
Mae’r Ddeddf wedi bod yn bwnc llosg yn yr amser byr mae wedi bodoli. Yn gyntaf, cafwyd anghytuno ymysg rhanddeiliaid ynghylch a oedd angen y ddeddfwriaeth o gwbl. Yn ail, aeth y Bil ar gyfer y Ddeddf drwy’r Cynulliad ar ffurf Bil Brys yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2012 a diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Cafodd y penderfyniad i ddefnyddio’r weithdrefn frys ei feirniadu gan Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau. Yn drydydd, cododd hynt y Bil gwestiynau cyfansoddiadol gan ei fod yn ymwneud â meysydd datganoledig a meysydd nas datganolwyd. Yn dilyn brwydr gyfreithiol, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan ddod â phwerau i bennu cyflogau amaethyddol i Weinidogion Cymru. O ganlyniad, mae’r Ddeddf wedi effeithio ar y ffordd y mae’r setliad datganoli presennol yn cael ei ddehongli.
Amaethyddiaeth yng Nghymru
Mae’n gyfnod o ansicrwydd i amaethyddiaeth yng Nghymru. Gyda Brexit ar y gorwel, mae disgwyl i bolisi a deddfwriaeth amaethyddol newid gan na fydd y DU yn cyfranogi o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar ôl gadael yr UE. Archwiliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad y goblygiadau o adael yr UE i’r diwydiant yn ei ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig, gan lunio argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’r argymhellion yn cynnwys: gwarantu y caiff ffermwyr gyllid priodol yn absenoldeb cymorth PAC; sicrhau mynediad digonol i lafur yng ngoleuni’r gostyngiadau posibl o ran llafur mudol; ac y dylai unrhyw fframweithiau’r DU gael eu cytuno gan bob un o’r cenhedloedd cyfansoddol.
Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn cyflogi 4.1 y cant o’r boblogaeth weithio; y ffigur ar gyfer y DU yw 1.4 y cant. Yr hyn sy’n nodweddu gwaith yn y sector amaethyddol yw ei natur gorfforol, y cyflogau isel, ystyriaethau o ran iechyd a diogelwch a’r nifer sylweddol o gontractwyr hunangyflogedig.
Prif ardaloedd cynnyrch Cymru yw cig coch – mae 29 y cant o gig oen y DU ac 11 y cant o gig eidion y DU yn dod o Gymru – a chynnyrch llaeth, gan fod 12 y cant o gynnyrch llaeth y DU yn dod o Gymru ac mae 13 y cant o fuches y DU yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys Bwyd a Ffermio fel ‘Sector Blaenoriaeth’ ac mae ei gweledigaeth ar gyfer y sector ar ôl Brexit yw ‘diwydiant amaeth ffyniannus, cryf sy’n hyrwyddo llesiant Cymru yn awr ac yn y dyfodol’.
Deddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014
Mae’r Ddeddf yn sefydlu cyfundrefn sy’n gosod telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pennu isafswm cyflog a hawliau o ran salwch a gwyliau, ac mae’n hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth. Yn benodol:
- mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion yn pennu telerau ac amodau amaethyddol megis isafswm cyfraddau cyflog yr awr;
- mae’n sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth i Gymru a chanddo gylch gorchwyl i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth, paratoi Gorchmynion cyflogau amaethyddol drafft i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol; ac
- mae’n caniatáu ar gyfer sefydlu is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant y Panel Cynghori ar Amaethyddol i gefnogi proffesiynoldeb yn y diwydiant, a hyrwyddo gwella sgiliau.
Mae adran 14 o’r Ddeddf yn cynnwys ‘cymal machlud’, sy’n golygu y bydd y Ddeddf yn peidio â chael effaith ar ôl 30 Gorffennaf 2018 os na wneir deddfwriaeth newydd i’w chadw.
Yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 12 Mehefin a 4 mis Medi, ac yn gofyn am sylwadau ar unrhyw agwedd ar weithrediad ac effeithiolrwydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Dyma rai o’r cwestiynau:
- Ydych chi’n meddwl y dylid cadw’r Ddeddf?
- Ydych chi o’r farn bod y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth wedi cyflawni ei holl ddyletswyddau ers ei sefydlu?
- Ydych chi o’r farn bod gorchmynion cyflogau amaethyddol sy’n pennu lefelau isaf o gyfraddau tâl wrth yr awr ac amodau’n fuddiol i’r diwydiant amaethyddol?
Mae adolygiad ehangach o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi bod yn rhedeg er 30 Gorffennaf 2014; bydd yn cau ddiwedd y mis hwn. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru osod adroddiad ar weithrediad ac effeithiolrwydd y Ddeddf gerbron y Cynulliad ‘cyn gynted ag y bo’n ymarferol’ ar ôl y cyfnod adolygu. Bydd yr ymgynghoriad presennol yn llywio’r adroddiad. Os penderfynir y dylai darpariaethau’r Ddeddf barhau i fod mewn grym, mae’n rhaid i’r Gorchymyn a fydd yn cadw’r Ddeddf fod yn ei le erbyn 30 Gorffennaf 2018.
Y Bil Brys
Aeth y Bil drwy’r Cynulliad fel ‘Bill Brys’ (PDF 184KB). Mae Biliau Brys yn dilyn proses ddeddfwriaethol gota i alluogi deddfu yn gyflym ar gyfer darpariaethau cyfreithiol brys. Cyflwynwyd y Bil mewn ymateb i Lywodraeth y DU yn diddymu’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2012 a diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (y Bwrdd) yng Nghymru a Lloegr.
Cyflwynwyd y Bil gyda’r nod o gadw’r ddarpariaeth statudol o dan Orchymyn 2012 a’r Bwrdd i reoleiddio cyfraddau cyflog ac amodau. Beirniadodd Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau’r defnydd o’r weithdrefn frys gan fod y broses hon yn cyfyngu ar y gallu i graffu. Holltodd y Bil farn yr undebau ffermio. Dadleuodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) fod angen y Bil, gan ddweud bod y Bwrdd yn ‘vital means of persuading high calibre people to remain in or enter the industry.’ Roedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) o’r farn bod y Bil yn ddiangen yn sgil datblygiadau, fel yr isafswm cyflog cenedlaethol, rheoliadau amser gweithio a mesurau diogelu deddfwriaethol eraill.
Pwerau’r Cynulliad
Codwyd materion cyfansoddiadol yn ystod hynt y Bil. Dadleuodd Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU ar y pryd mai mater o gyfraith gyflogaeth ydoedd yn hytrach nag amaethyddiaeth ac felly nid oedd o fewn cwmpas pwerau deddfwriaethol y Cynulliad. Cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol y Bil i’r Goruchaf Lys o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Roedd barnwyr y Goruchaf Lys yn unfrydol yn eu casgliad (PDF 101KB) bod y Bil o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Roedd i’r dyfarniad oblygiadau o ran dehongli cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae’n gosod y cynsail nad oes rhaid i Fil fod yn gyfyngedig i bynciau datganoledig iddo fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun o flickr gan DVIDSHUB. Licensed under Creative Commons.
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diogelu gweithwyr amaethyddol yng Nghymru (PDF, 163KB)