Digartrefedd: o argyfwng i gyfle

Cyhoeddwyd 20/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

A yw’r pandemig wedi rhoi cyfle i Gymru roi diwedd ar ddigartrefedd?

Roedd digartrefedd a chysgu allan yn barod yn uchel ar yr agenda wleidyddol yn ystod y Bumed Senedd. Cafodd deddfwriaeth newydd ei phasio gyda mwy o bwyslais ar gamau ataliol, cafodd ymchwiliad i ddigartrefedd ei gynnal gan un o bwyllgorau’r Senedd, cafodd strategaeth newydd ar ddigartrefedd ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a chafodd cynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd ei gyhoeddi gan Crisis.

Erbyn 2019, roedd grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd yn cynghori’r Llywodraeth a chafodd adolygiad ei gomisiynu i ymchwilio i’r prawf ‘blaenoriaeth angen’ sy’n penderfynu faint o gymorth y mae person digartref yn ei gael. Roedd ymgyrch dros yr hawl gyfreithiol i dai addas ar y gweill. Roedd y trywydd, felly, yn glir. Fodd bynnag, yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd wedi cyflymu’r daith.

Gwneud pethau’n wahanol

Sbardunodd £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2020 yr ymateb brys i ddigartrefedd yn ystod y pandemig. Roedd canllawiau statudol newydd ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi y dylai pobl gael llety dros dro yn ôl yr angen, a rhoddwyd cyllid ychwanegol i sicrhau bod hynny’n digwydd. Roedd y canllawiau newydd yn glir y dylai awdurdodau lleol wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod digartrefedd “yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw’n digwydd eto”. Yn y bôn, roedd y canllawiau hyn yn dileu’r rhwystrau cyfreithiol a oedd yn y gorffennol wedi cyfyngu ar bwy oedd â’r hawl i gael cymorth. Roedd Julie James, y Gweinidog perthnasol ar y pryd, yn glir na ddylai unrhyw un fod heb lety a chymorth addas.

Rhywle i fod yn ddiogel

Erbyn mis Mehefin 2020, roedd dros 2,000 o bobl wedi’u symud i mewn i lety brys dros dro. Ynghyd â’r bobl hynny yr oeddent wedi’u hystyried yn flaenoriaeth cyn y pandemig, fel teuluoedd â phlant, cafodd grwpiau eraill loches hefyd. Felly, cynigiwyd cartref dros dro a chymorth i bobl yr oeddent yn cysgu allan neu’n byw mewn llety anaddas, anniogel ac ansicr. Rhoddwyd y gorau i gynnig lle i gysgu ar y llawr mewn lloches nos neu i rannu ystafell mewn hostel. Nid ‘syrffio soffas’ oedd yr opsiwn gorau oedd yn agored i bobl mwyach.

Bu awdurdodau lleol yn gweithio gyda chymdeithasau tai, sefydliadau’r trydydd sector a landlordiaid preifat i helpu pobl i mewn i lety ac i ddarparu’r gwasanaethau cymorth oedd eu hangen arnynt. Drwy weithio gyda phartneriaid newydd, llwyddodd awdurdodau lleol i sicrhau llety hunangynhwysol mewn gwestai, llety gwyliau a llety myfyrwyr – llety y byddai fel arall wedi bod ar gau oherwydd y cyfyngiadau COVID-19.

Mae’n ymddangos bod yr ymdrech cychwynnol i achub bywydau wedi talu yn ôl ar ei ganfed. Hyd at 26 Mehefin 2020, canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd unrhyw farwolaethau oherwydd COVID-19 wedi’u cofrestru yng Nghymru ymhlith pobl oedd yn datgan eu bod yn ddigartref. Fodd bynnag, mae dod o hyd i gartrefi i gymaint o bobl wedi rhoi pwysau aruthrol ar lety dros dro.

Erbyn diwedd mis Chwefror 2021, roedd ychydig dros 6,000 o bobl digartref (gan gynnwys bron i 1,300 o blant dibynnol o dan 16 oed) mewn llety dros dro.

Digartrefedd: Nifer yr unigolion mewn llety dros dro ar ddiwedd pob mis, nifer yr unigolion sydd wedi symud mewn i lety hirdymor addas yn ystod y mis a nifer y bobl sydd wedi’u rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis

Mae cyfanswm y bobl ddigartref sy’n byw mewn llety dros dro yn parhau i gynyddu. Cynyddodd cyfanswm o 3,577 ym mis Awst 2020 i 5,952 ym mis Ionawr 2021. Mae nifer y bobl ddigartref sy’n cael eu rhoi mewn llety dros dro bob mis hefyd wedi cynyddu, o 976 ym mis Awst 2020 i 1,296 ym mis Ionawr 2021. Mae nifer yr unigolion sydd wedi symud i lety tymor hir addas wedi amrywio rhwng 427 ym mis Awst 2020, 666 ym mis Hydref 2020 a 469 ym mis Ionawr 2021.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan. Nid yw’r data hyn wedi bod drwy’r un prosesau gwirio ag ystadegau swyddogol, felly byddant o bosibl yn cael eu hadolygu yn y dyfodol.

Datrysiad hirdymor

Nid dim ond tai sy’n bwysig wrth drafod digartrefedd. Fodd bynnag, mae cynyddu cyflenwad y tai fforddiadwy yn hanfodol i ryddhau’r pwysau ar lety dros dro ac atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae angen rhagor o gartrefi fforddiadwy arnom, o’r maint cywir yn y mannau cywir, gan gynnwys cartrefi rhent cymdeithasol. Mae’n rhaid cael  cartrefi llai ar gyfer y nifer fawr o bobl sengl sy’n wynebu digartrefedd ynghyd â’r cartrefi mwy sydd eu hangen ar deuluoedd estynedig. Hefyd, mae’n rhaid cael rhagor o gartrefi sy’n diwallu anghenion pobl anabl.

Bydd cynyddu cyflenwad y tai fforddiadwy yn galw am ystod o ddatrysiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n ymdrin ag anghenion penodol y cymunedau perthnasol. Gall datrysiadau fel mentrau hunan-adeiladu helpu mewn cymunedau gwledig lle dim ond ychydig o dai newydd sy’n cael eu hadeiladu a lle y gallai nifer fawr o ail gartrefi arwain at bwysau lleol. Hefyd, gall datrysiadau sydd wedi’u harwain gan y gymuned, fel modelau cydweithredol, weithio mewn cyd-destunau gwledig a threfol.

Mae’n bosibl bod y pandemig wedi cynnig cyfle i roi diwedd ar ddigartrefedd a rhoi tai wrth galon yr adferiad. Byddai adferiad o’r fath yn arwain at dai modern a fforddiadwy sy’n effeithlon o ran ynni ac yn garbon isel; yn gwella’r stoc tai presennol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat; ac yn galluogi tai gwag i gael eu defnyddio eto. Gallai hyn arwain at greu rhagor o swyddi a chyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â rhagor o gartrefi.

Sut gellir mynd ati i roi diwedd ar ddigartrefedd?

Yn 2019, sefydlodd Llywodraeth flaenorol Cymru grŵp arbenigol i ateb y cwestiwn hwn. Gwnaeth y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ymgysylltu â’r sector, darparwyr cymorth, academyddion a’r bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd yn ystod eu bywydau.

Roedd ail adroddiad y Grŵp Gweithredu, sef ei brif adroddiad, yn cynnwys fframwaith o bolisïau, dulliau a chynlluniau gyda’r nod o roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae’n glir bod gwaith y grŵp hwn wedi helpu i lywio’r ymateb i’r pandemig.

Erbyn mis Gorffennaf 2020, mae £50 miliwn yn ychwanegol wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ail gymal yr ymateb i ddigartrefedd a thrawsnewid gwasanaethau. Y nod oedd symud i ffwrdd oddi wrth y ddibyniaeth ar lety anaddas dros dro a thuag at ddull sy’n seiliedig ar ailgartrefu cyflym, sef yr hyn y galwodd y Grŵp Gweithredu amdano.

Beth yw ailgartrefu cyflym? Symud pobl i mewn i gartrefi sefydlog, diogel ac addas cyn gynted â phosibl fel datrysiad diofyn pan nad yw’n bosibl atal digartrefedd.

Gan bwysleisio’r cysylltiadau rhwng digartrefedd a materion cymdeithasol ehangach, mae argymhellion y Grŵp Gweithredu yn galw am gamau ataliol cynhwysol. Mae’r dull hwn wedi’i seilio ar y syniad nad yw digartrefedd yn fater sy’n codi ar ei ben ei hun; yn hytrach, mae’n rhaid ymdrin â ffactorau eraill fel tlodi ac ystod eang o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i osod y sylfeini ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd.

Mae’r Grŵp Gweithredu yn gofyn bod camau ataliol yn cael eu targedu at grwpiau penodol sydd wedi’u profi i fod yn fwy agored i niwed, fel pobl ifanc bregus a phobl sy’n gadael gofal neu garchar. Hefyd, mae’n gofyn bod y ddyletswydd gyfreithiol i atal digartrefedd yn cael ei hymestyn ar draws y sector cyhoeddus ehangach, a hynny heb adael i wasanaethau tai ysgwyddo’r baich cyfan.

Yn ei drydydd adroddiad, sef yr adroddiad terfynol, mae’r Grŵp Gweithredu yn cyflwyno argymhellion ymarferol sydd â’r nod o roi ailgartrefu cyflym wrth galon y system ar gyfer ymdrin â digartrefedd, gan adeiladu ar yr ymateb yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar y partneriaethau sy’n rhaid eu sefydlu ar draws gwasanaethau cyhoeddus i roi diwedd ar ddigartrefedd mewn modd strategol sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw, gan bwysleisio hefyd effaith polisi ar lefel y Deyrnas Unedig, fel diwygio’r gyfundrefn les.

Heriau newydd

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd wedi nodi’r camau y mae’n credu sy’n rhaid eu cymryd i roi diwedd ar ddigartrefedd. A fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ceisio gweithredu’r argymhellion hynny drwy gynllun gweithredu, neu a fydd yn cyflwyno cynigion amgen? A all y Llywodraeth newydd adeiladu ar lwyddiannau’r flwyddyn ddiwethaf?

Bydd nifer o heriau mawr yn codi yn y maes polisi hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf; er enghraifft:

  • A fydd cynnydd mawr yn y galw am wasanaethau digartrefedd pan fydd y gwaharddiad presennol ar droi pobl allan o’u cartrefi yn dod i ben?
  • A fydd effaith economaidd lawn y pandemig yn arwain at ragor o ddiswyddiadau a digartrefedd?
  • Sut y bydd awdurdodau lleol yn rheoli’r pwysau cynyddol ar lety dros dro?
  • A fydd yn rhaid dychwelyd at yr arfer cyn y pandemig o ddogni mynediad at lety dros dro?

Mae yna gydnabyddiaeth eang bod digartrefedd a thai anaddas yn effeithio’n uniongyrchol ar anghydraddoldebau, iechyd, addysg a chyfleoedd bywyd y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yr her sy’n wynebu Llywodraeth nesaf Cymru yw cynnig yr arweinyddiaeth y mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn galwi amdani i ddarparu’r cartrefi, y camau ataliol a’r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnom.

Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y dylid sicrhau bod digartrefedd “yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto”. Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi cynnig y cyfle gorau i wireddu’r dyhead hwnnw. Y cwestiwn mawr yw a ellir cyflawni hyn mewn modd ystyrlon yn ystod y Chweched Senedd.


Erthygl gan Megan Jones a Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru