|
Cymorth cyfreithiol yw cyllid cyhoeddus ar gyfer costau cyfreithiol, gan gynnwys cost cyngor neu gynrychiolaeth gyfreithiol i bobl na allant fforddio talu amdano eu hunain. Mae cynlluniau ar wahân yn bodoli ar gyfer cymorth cyfreithiol sifil (megis anghydfodau teuluol neu faterion tai) a chymorth cyfreithiol troseddol. Mae'r erthygl hon yn edrych ar fynediad at gymorth cyfreithiol sifil. |
Mynediad at gyngor cyfreithiol sifil yw un o gonglfeini cymdeithas deg. I lawer o bobl, gall cyngor cyfreithiol wneud y gwahaniaeth rhwng cadw cartref, amddiffyn perthnasoedd teuluol, dianc rhag cam-drin, neu lywio rheolau mewnfudo cymhleth. Ac eto ledled Cymru, mae bylchau cynyddol yn y ddarpariaeth – neu ddiffeithdir cymorth cyfreithiol – yn gadael pobl agored i niwed heb y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos menywod mudol a grwpiau eraill agored i niwed sy'n aml yn wynebu rhwystrau lluosog sy'n gorgyffwrdd, o ran cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Twf mewn diffeithdiroedd cyngor cyfreithiol
Cymorth cyfreithiol sifil yw'r prif lwybr o hyd ar gyfer pobl sy’n methu fforddio ffioedd cyfreithiol preifat. Gall gynnwys cyngor a chynrychiolaeth mewn llysoedd neu dribiwnlysoedd a mathau eraill o gymorth fel cyfryngu teuluol. Mae manylion ynghylch pwy sy’n gymwys a lefel y cymorth yn cael eu pennu gan fframwaith cymorth cyfreithiol y DU a chaiff hyn ei weinyddu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA).
Gwnaeth Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO) ddiwygiadau i'r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys lleihau cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol. Nododd Cymdeithas y Gyfraith fod y toriadau hyn mewn cyllid yn golygu bod llai o bobl yn gallu cael mynediad at gyngor cyfreithiol sifil. Yn 2022, canfu Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd fod LASPO wedi cyfrannu at “ddiffyg cyngor cyfreithiol arbenigol sylfaenol ym maes cyfraith lles cymdeithasol ledled Cymru, a ddarperir gan y rhai â hyfforddiant cyfreithiol”.
Dros y degawd ers LASPO, mae arolygon a dadansoddiadau cenedlaethol dangos bod rhai rhannau o Loegr a Chymru bellach yn ddiffeithdiroedd cyngor cyfreithiol, lle nad oes fawr ddim mynediad, os o gwbl, at gyngor cyfreithiol wyneb yn wyneb lleol, a ariennir gan gymorth cyfreithiol. Er bod hyn hefyd yn effeithio ar rannau o Loegr, mae mwy o ardaloedd gwledig a dwysedd is o ran cyfreithwyr yn gwaethygu'r broblem, gan ei gwneud yn anoddach i bobl gael mynediad at gyngor wyneb yn wyneb mewn rhai ardaloedd.
Mae rhai grwpiau yn fwy agored i niwed
Dengys arolygon a dadansoddiadau cenedlaethol nad oes gan rannau helaeth o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr fynediad at gymorth cyfreithiol sifil. Er y dylai diffyg mynediad fod yn bryder i bob un ohonom, mae rhai grwpiau'n arbennig o agored i niwed.
Hawlwyr budd-daliadau lles
Mae'r system les yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd hawlwyr budd-daliadau yn herio penderfyniadau y maent yn teimlo sy'n anghywir neu y maent yn anhapus yn eu cylch. Mae mynediad at gymorth cyfreithiol sifil wedi’i gyfyngu i'r rhai sy'n apelio penderfyniadau lles, gyda dim ond un darparwr yng Nghymru (sydd yng Nghaerdydd). Dywed Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot nad yw capasiti cyngor arbenigol ar fudd-daliadau lles erioed wedi adfer i’r lefelau cyn LASPO.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid drwy ei Chronfa Gynghori Sengl, i gefnogi gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol am ddim i gleientiaid. Fodd bynnag, canfu ymchwil i effeithiolrwydd y gronfa hon dystiolaeth gymysg ynghylch ei gallu i ddiwallu’r galw, gyda Mick Antoniw AS yn disgrifio’r gronfa fel ffordd annigonol o wneud iawn am wendid ein system cymorth cyfreithiol bresennol.
Pobl sy'n wynebu digartrefedd
Gall cymorth cyfreithiol sifil helpu gyda phroblemau tai difrifol fel troi allan. Fel rhan o'i waith graffu ar y Bil Digartrefedd (Cymru), clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd sut mae gwasanaethau cyngor tai a digartrefedd yn cael eu gorymestyn. Yn 2021, canfu adroddiad gan Ombwdsmon Cyhoeddus Cymru fod rhwystrau o ran cael mynediad at gyngor/cynrychiolaeth a ariennir gan gymorth cyfreithiol i gynorthwyo gydag adolygiadau ac apeliadau yn erbyn penderfyniadau digartrefedd.
Pobl sy’n derbyn gofal
Yn aml, mae angen cyngor cyfreithiol ar unigolion sy'n derbyn gofal, er enghraifft pan fyddant am aros yn eu cartref eu hunain. Roedd mynediad at gymorth cyfreithiol ar gyfer gofal cymunedol yn un o'r prin feysydd cymorth cyfreithiol nad oedd yn dod o dan LAPSO, ond mae wedi gweld gostyngiad o hyd o ran nifer y darparwyr.
Ym mis Mehefin 2025, adroddodd Cymdeithas y Gyfraith mai cyfanswm o bum gwasanaeth cymorth cyfreithiol gofal cymunedol sydd yng Nghymru (tri darparwr yng Nghaerdydd ac un yr un yng Ngwynedd a Bro Morgannwg).
Mewnfudwyr a'r rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus
Mae cyfraith mewnfudo a lloches yn gymhleth ac yn newid yn gyson. Er bod yr achosion hyn yn parhau i fod yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus a chyngor arbenigol, mae'r galw'n fwy na'r cyflenwad mewn sawl rhan o Gymru. Canfu adroddiad ar gyfer Justice Together yn 2025 mai dim ond pedair swyddfa sydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac un yr un yn Abertawe a Wrecsam.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gynyddu mynediad at gyngor am ddim. Mae hefyd wedi cefnogi'r Sefydliad Bevan i greu strategaeth ar gyfer datblygu'r sector cyfreithiol mewnfudo am ddim pan fydd ei angen yng Nghymru. Fodd bynnag, dywed y Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol, er bod sefydliadau wedi camu i mewn i ddarparu mwy o gefnogaeth, nid oes ganddynt y capasiti i ymdopi â maint yr her.
Menywod mudol: cudd, mewn perygl ac yn aml heb hawl i gymorth ariannol
Yn 2022, canfu adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd fod menywod mudol sy’n dioddef trais ar sail rhywedd yn aml yn wynebu rhwystrau croestoriadol o ran cael mynediad at gyngor sifil cyfreithiol, gan gynnwys: iaith; statws mewnfudo ansicr, dim hawl neu hawl gyfyngedig i arian cyhoeddus (NRPF), ofn cael eu halltudio a stigmâu diwylliannol penodol. Efallai nad yw llawer yn gwybod eu hawliau neu byddant yn amharod i gysylltu â gwasanaethau statudol fel yr heddlu oherwydd ofn canlyniadau o ran statws mewnfudo.
Mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor i sefydlu cronfa argyfwng i gefnogi menywod mudol, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot yn 2023. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi galw am i'r gronfa fod yn barhaol, gyda chyllid pwrpasol wedi'i glustnodi ar gyfer sefydliadau sy'n cefnogi goroeswyr.
Dyfodol cymorth cyfreithiol sifil
Fe wnaeth adolygiad o gymorth cyfreithiol sifil, a gwblhawyd eleni, asesu opsiynau diwygio hirdymor i greu system fwy cynaliadwy. Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd y Llywodraeth gynnydd mewn ffioedd cymorth cyfreithiol sifil ym meysydd tai a mewnfudo a lloches. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi sefydlu Grŵp Cyflawni Strategaeth Cymorth Cyfreithiol i nodi’r ffordd orau o ddarparu cyngor cyfreithiol i bobl â phroblemau cyfreithiol o ran lles cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae cyrff proffesiynol, gan gynnwys Cymdeithas y Gyfraith, yn dadlau bod lefelau cyllido yn parhau i fod ymhell islaw'r hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â'r dirywiad strwythurol. Yn ddiweddar, daeth adroddiad Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi i’r casgliad, er bod cynnydd mewn ffioedd cymorth cyfreithiol i’w groesawu, fod angen i'r Llywodraeth fabwysiadu dull mwy arloesol o ddiwygio'r system cymorth a chyngor cyfreithiol.
|
Os oes angen help a chymorth arnoch gyda materion cyfreithiol, mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi canllaw i etholwyr, sy'n cyfeirio at ffynonellau cyngor cyfreithiol. |
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Diffeithdir: mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru (Rhan 1)