|
Cymorth cyfreithiol yw cyllid cyhoeddus ar gyfer costau cyfreithiol, gan gynnwys cost cyngor neu gynrychiolaeth gyfreithiol i bobl na allant fforddio talu amdano eu hunain. Mae cynlluniau ar wahân yn bodoli ar gyfer cymorth cyfreithiol sifil (megis anghydfodau teuluol neu faterion tai) a chymorth cyfreithiol troseddol. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar sut y gall pobl gael mynediad at gymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol. Mae erthygl aral yn edrych ar gymorth cyfreithiol sifil. |
Mae mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yn ddull hanfodol o ddiogelu cymdeithas ddemocrataidd. Mae'n sicrhau bod unrhyw un sy’n cael ei gyhuddo o drosedd yn gallu cael cymorth cyfreithiol, cynrychiolaeth ac achos teg - waeth beth fo'u sefyllfa ariannol. Fodd bynnag, mae'r egwyddor hon dan bwysau cynyddol. Pan fydd mynediad yn gyfyngedig, gall y rhai sy'n cael eu cyhuddo o droseddau gael eu cyfweld gan yr heddlu neu fynd i wrandawiad llys heb ddeall eu hawliau. Mae'r rhai sydd ar incwm isel neu gymedrol sydd ychydig uwchben y trothwy prawf modd yn aml yn cael eu gorfodi i’w cynrychioli eu hunain. Daeth adroddiad diweddar gan Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi i’r casgliad, fod y system bresennol o gymorth cyfreithiol yn golygu bod pobl yn methu cael mynediad at gymorth cyfreithiol ac yn methu fforddio talu am wasanaethau cyfreithiol yn breifat.
A all cyflenwad sy'n crebachu ddiwallu'r galw sy’n cynyddu?
Mae cymorth cyfreithiol troseddol yn darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i bobl sydd wedi’u cyhuddo o droseddau mewn gorsaf heddlu, cynrychiolaeth yn llysoedd yr ynadon a’r goron, cymorth yn y carchar a chefnogaeth i wneud apêl. Mae manylion ynghylch pwy sy’n gymwys a lefel y cymorth yn cael eu pennu gan fframwaith cymorth cyfreithiol y DU a chaiff hyn ei weinyddu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA).
Gwnaeth Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO) ddiwygiadau i'r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys lleihau cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol. Newidiadau i drefniadau ffioedd o dan LASPO, cyflog isel ac ôl-groniad o ran gwaith llys yw rhai o blith llawer o'r materion sydd wedi rhoi pwysau ar gwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol, gan orfodi llawer ohonynt i gau eu drysau.
Ar adeg o galw cynyddol am gyfreithwyr cymorth cyfreithiol troseddol, mae’r nifer sy'n ymarfer yng Nghymru wedi gostwng o 113 yn 2014-15 i 63 yn 2023-24. Bu’r dirywiad hwn yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig a rhannau o ogledd Cymru, lle’n aml nad oes fawr ddim mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir gan gymorth cyfreithiol, os o gwbl. Gall y diffyg hwn o ran darparwyr cymorth cyfreithiol troseddol lleol roi pwysau ar gyfreithwyr sy'n gwasanaethu ardal fawr yn aml, ac maent yn wynebu teithiau hir i fynd i’r llys.
Oes rhywun ar ddyletswydd?
Mae cyfreithwyr dyletswydd yn cyflawni swyddogaeth hanfodol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae gan unrhyw un sy'n cael ei arestio neu ei gyfweld gan yr heddlu yr hawl i gael cyfreithiwr ar ddyletswydd. Nid yw'r gwasanaeth hwn yn destun prawf modd ond unwaith y bydd person wedi'i gyhuddo a bod ei achos yn mynd i'r llys, caiff y modd (incwm a chynilion) a'r rhinweddau (difrifoldeb y cyhuddiad) eu hasesu i benderfynu a yw'n gymwys i gael cynrychiolaeth wedi'i hariannu.
Fodd bynnag, fel y nodir gan Gymdeithas y Gyfraith yn 'Reimagining Justice in Wales 2030' mae nifer y cyfreithwyr ar ddyletswydd a chwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru wedi gostwng yn gyson ers LASPO.
Yn ôl data a gasglwyd gan Gymdeithas y Gyfraith, mae chwe chynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd ar draws Cymru sydd â phrinder difrifol (gyda llai na saith aelod), sy’n golygu bod gwasanaeth 24/7 bron yn amhosibl. I lawer o bobl sy’n wynebu cyhuddiad, gall hyn olygu aros am oriau am gynrychiolaeth neu gael cyngor dros y ffôn yn unig.
Mae disgwyl i nifer y cyfreithwyr ar ddyletswydd sy'n gweithredu ar draws heddluoedd Cymru ddirywio ymhellach, gyda Chymdeithas y Gyfraith yn rhagweld cwymp ar raddfa eang o gynlluniau cyfreithwyr ar ddyletswydd.
|
Ardal heddlu |
2017 |
2023 |
2027 |
Newid a ragwelir rhwng 2023 a 2027 (%) |
|
Dyfed Powys |
40 |
34 |
72 |
-24& |
|
Gwent |
56 |
37 |
32 |
-14% |
|
Gogledd Cymru |
96 |
82 |
76 |
-4% |
|
De Cymru |
161 |
104 |
82 |
-24% |
Ffynhonnell: Dadansoddiad Cymdeithas y Gyfraith o ystadegau'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
A oes angen ymateb penodol i Gymru?
Nid yw cymorth cyfreithiol wedi'i ddatganoli, felly mae'r prif ddulliau ar gyfer diwygio yn nwylo Llywodraeth y DU. Daeth yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol (CLAIR) yn 2021 i’r casgliad, heb gynnydd sylweddol mewn cyllid, fod risg uchel na fydd y system yn gallu ymdopi â’r heriau sydd o’n blaenau.
Mae mesurau diweddar Llywodraeth y DU wedi’u anelu at gryfhau'r system cymorth cyfreithiol troseddol:
- Ddiwedd 2024, cyhoeddodd Llywodraeth newydd y DU £18.5m ychwanegol ar gyfer cyfreithwyr ar ddyletswydd mewn gorsafoedd heddlu, ac y bydd ffioedd cymorth cyfreithiol troseddol yn cynyddu gan 12%, sef cyfanswm o 24% ers CLAIR.
- Ym mis Ebrill 2025, cadarnhaodd hyd at £92m yn fwy y flwyddyn ar gyfer cyfreithwyr cymorth cyfreithiol troseddol, ac lansiwyd ymgynghoriad yn nodi cynigion ar gyfer diwygio cynllun ffioedd cyfreithwyr.
Croesawodd Cymdeithas y Gyfraith y cyllid ond rhybuddiodd fod chwyddiant yn golygu y bydd cwmnïau'n dal i gael trafferth yn ariannol.
Er nad yw cymorth cyfreithiol wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro ynghylch sgil-effeithiau toriadau i gymorth cyfreithiol. Mae hefyd wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau lle mae ganddi'r dulliau i wneud hynny, gan gynnwys cymryd camau i gefnogi datblygiad y gweithlu a darparu cefnogaeth i gwmnïau cyfreithiol drwy Busnes Cymru.
Fodd bynnag, dywedodd Cymdeithas y Gyfraith nad yw'r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r materion penodol sy'n wynebu'r sector cyfreithiol yng Nghymru. Fe wnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru argymell:
Dylai polisi cymorth cyfreithiol troseddol a'r broses o'i roi ar waith gael eu llunio yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion ledled Cymru a bod yn seiliedig ar y ffordd y rhoddir cynlluniau amddiffynwyr cyhoeddus ar waith yn y gwledydd Nordig.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ'r Arglwyddi, eglurodd Mick Antoniw MS fod modd defnyddio cymorth cyfreithiol yn fwy effeithiol pe bai’n cael ei gymhwyso’n lleol—ar yr amod bod y cyllid priodol ynghlwm â hyn. Er bod y ddadl wedi’i chyflwyno o blaid datganoli, mae cymorth cyfreithiol yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU.
A all y sector wrthsefyll heriau’r dyfodol?
Er gwaethaf y diwygiadau diweddar, mae Cymdeithas y Gyfraith wedi galw ar gwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol i adolygu hyfywedd cyflawni'r gwaith hwn. Daw hyn ar adeg pan allai heriau a phwysau yn y dyfodol ar draws y system cyfiawnder troseddol osod gofynion pellach ar y sector:
- Mae ôl-groniad gwaith llys yn golygu bod oedi o ran gwrandawiadau ac achosion. Gyda niferoedd cyfyngedig, mae llawer o gyfreithwyr yn gweithio oriau anghynaladwy i gadw achosion yn symud ymlaen.
- Mae'r gweithlu amddiffyn troseddol yn heneiddio. Yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae 60% o gyfreithwyr troseddol ar ddyletswydd dros 50 oed. Heb gynnydd yn y niferoedd sy'n ymuno â'r proffesiwn, bydd y sector yn wynebu dirywiad pellach.
- Mae llai o gyfreithwyr ifanc yn dewis gyrfa mewn cyfraith droseddol. Mae hyn yn arwain at weithlu sy'n crebachu fwyfwy. Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaeth Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Gyflawni, gydnabod y mater hwn, gan ddadlau: "mae gwneud bywoliaeth drwy gymorth cyfreithiol yn anodd iawn, ac mae'r rhan fwyaf o'r practisau cymorth cyfreithiol wedi cau oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gwneud felly".
Yn ei hanfod, mae mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yn fater o gydraddoldeb: dylai pob person allu cael ei hawl i achos teg a chynrychiolaeth gyfreithiol. Heb fuddsoddiad pendant, mae'r egwyddor honno mewn perygl o ddod yn addewid mewn enw yn unig.
|
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres yn edrych ar agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, o'r setliad datganoli presennol a gweithio rhynglywodraethol, i’r gwasanaeth prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona. Os oes angen help a chymorth arnoch gyda materion cyfreithiol, mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi canllaw i etholwyr, sy'n cyfeirio at ffynonellau cyngor cyfreithiol. |
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Diwygio prawf yng Nghymru: sefydlogrwydd yn gyntaf, datganoli yn ddiweddarach
Diffeithdir: mynediad at gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru (Rhan 2)