Diddymu Anghenion Addysgol Arbennig o'r Bil Addysg (Cymru)

Cyhoeddwyd 07/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

7 Ionawr 2014 Erthygl gan Michael Dauncey, National Assembly for Wales Research Service Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi'r cynnig i ddiddymu Rhan 3 y Bil Addysg (Cymru) sydd ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2 o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad.  Mae Rhan 3 yn ymwneud â'r elfennau sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA), yn enwedig y broses ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion annibynnol, ac asesu anghenion pobl ifanc dros 16 oed a darparu ar eu cyfer. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn Datganiad Cabinet ar 6 Ionawr 2014 gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cyfeiriodd datganiad y Gweinidog at y rôl a chwaraeodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wrth graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.  Yn ei adroddiad Cyfnod 1, dadleuodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y byddai manteision o gynnwys yr holl ddiwygiadau AAA mewn un darn o ddeddfwriaeth, cyn belled ag y gellir gwneud hyn mewn dull amserol, ac argymhellodd y dylid ailystyried cynnwys rhai o'r rhain yn y Bil Addysg (Cymru). Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth y dylai'r newidiadau i'r ddarpariaeth AAA yng Nghymru gael eu gwneud fel rhan o un eitem gyffredinol o ddeddfwriaeth, yn hytrach na bod newidiadau’n cael eu gwneud i faes sydd eisoes yn destun newidiadau sylweddol - llawer ohonynt yn rhai nad ydynt wedi’u gwneud hyd yma.  Er enghraifft, mae amrywiaeth eang yn y defnydd y mae awdurdodau lleol Cymru yn ei wneud o ddatganiadau AAA (er nad yw hyn, o reidrwydd, yn cyfateb i safonau darpariaeth), ac mae rhai awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau addasu eu harferion yn unol â chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol. Mae cynlluniau ar y gweill i wneud diwygiadau ehangach i'r fframwaith AAA, yr ymgynghorwyd arno yn 2012, cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2016.  Mae'r diwygiadau hyn yn cynnwys dileu'r ymadrodd 'anghenion addysgol arbennig (AAA)', a rhoi 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)' yn ei le, gan fod hynny'n fwy hyblyg.  Maent hefyd yn cynnwys defnyddio 'Cynlluniau Datblygu Unigol' yn lle 'datganiadau o AAA'.  Yn ei ddatganiad, dywedodd y Gweinidog y bydd y newidiadau i AAA (neu ADY) yn digwydd mewn deddfwriaeth 'gydlynus' a 'holistaidd'. Un o'r pryderon penodol a fynegwyd am y Bil yn ystod proses graffu’r Pwyllgor oedd na fyddai gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu anghenion addysg a hyfforddiant dysgwr ôl-16 onid oedd gan y dysgwr hwnnw ddatganiad AAA eisoes, er gwaethaf y diffyg cysondeb yn y modd y defnyddir y datganiadau hynny.  Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai hyn arwain at ganlyniadau anghyfartal i ddysgwyr.  Amlygwyd materion o'r fath yn y ddadl Cyfnod 1 ynghylch egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Rhagfyr 2013. Yng Nghyfnod 2, sydd i'w gynnal ar 23 Ionawr 2014, bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn trafod gwelliannau i'r Bil.  Yn amodol ar bleidlais y Pwyllgor ar y gwelliannau hynny, bydd fersiwn ddiwygiedig o'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 3, sef y cyfnod diwygio yn y Cyfarfod Llawn cyn i fersiwn derfynol o'r Bil gael ei phasio yng Nghyfnod 4.  Mae rhagor o wybodaeth am broses ddeddfwriaethol y Cynulliad i’w chael yma.