Deintyddiaeth Rhan 2 – Y bwlch o ran iechyd y geg yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yn yr ail erthygl hon ar ddeintyddiaeth, rydym yn edrych ar atal a mynediad at raglenni deintyddiaeth yn y gymuned. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn rhybuddio bod y bwlch o ran iechyd y geg yng Nghymru ar fin ehangu oni bai bod sylw’n cael ei roi i’r anghydraddoldebau.

Nid yw hyn yn ymwneud ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd yn unig (sef yr hyn a gafodd ei drafod yn ein herthygl gyntaf). Mae'n ymwneud ag atal clefydau deintyddol, drwy addysgu pobl am hylendid y geg da a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal llawer o grwpiau rhag sefydlu ymddygiadau da yn ymwneud ag iechyd y geg.

Rhaglenni iechyd y geg

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod atal yn allweddol i iechyd y geg da, ac mai’r ffordd orau o ofalu am eich dannedd a'ch ceg yw:

  • Dilyn ffordd iach o fyw - bwyta diet heb lawer o siwgr, peidio ag ysmygu a chael dim/ychydig o alcohol;
  • Cynnal hylendid y geg da o ddydd i ddydd - brwsio’ch dannedd yn dda gyda phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd; a
  • Gwneud y defnydd gorau o wasanaethau iechyd - cael archwiliadau rheolaidd mewn practis deintyddol.

Fe wnaeth rhaglenni iechyd y cyhoedd fel Cynllun Gwên, a’r rhaglen i gartrefi gofal dros Gymru gyfan (Gwên am Byth), ddod i ben dros dro yn ystod y pandemig ac nid ydynt wedi ailddechrau’n llawn. 

Cynllun Gwên

Rhaglen ataliol i blant yw Cynllun Gwên. Ei nod yw helpu i ddechrau arferion da yn gynnar, ac mae'n cynnwys cyflwyno rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid mewn meithrinfeydd ac ysgolion i blant er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydredd.

Mae mwy na thraean o blant yng Nghymru yn dioddef o bydredd dannedd erbyn iddynt gyrraedd yr ysgol gynradd (Blwyddyn 1). Mae'r rhai mewn cymunedau mwy difreintiedig yn dioddef baich afiechyd uwch. Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, er enghraifft, bron deirgwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu dannedd wedi’u tynnu o dan anesthetig cyffredinol, na phlant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sef ardal fwy cefnog.

Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, cyn COVID-19, ni wnaeth traean o blant ymweld â deintydd y GIG dros gyfnod o ddwy flynedd. Ar ôl y pandemig, bydd y ffigurau hyn wedi gwaethygu. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud bod yr angen am atal hyd yn oed yn fwy erbyn hyn.

Ffigur 1: Nifer y cyrsiau o driniaeth ddeintyddol a roddir i blant bob chwarter 2009-2021 fesul band triniaeth

Ffynhonnell: StatsCymru, Cyrsiau o driniaeth yn ôl band triniaeth, math o glaf, bwrdd iechyd lleol a chwarter.

Ffigur 2: Newid yn nifer y cyrsiau o driniaethau ataliol¹ a roddwyd i blant rhwng 2019-20 a 2020-21

Ffynhonnell: Ystadegau deintyddol y GIG yng Nghymru, 2020-21. ¹Mae selio tyllau, farnais fflworid ac archwiliadau yn driniaethau ataliol a dargedir gan y Cynllun Gwên sydd â’r nod o wella iechyd y geg plant.

Gwên am Byth

Mae Gwên am Byth yn rhaglen gwella iechyd y geg genedlaethol a ddarperir gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (CDS) i wella iechyd a hylendid y geg ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. 

Mae llawer o bobl hŷn bellach yn cadw eu dannedd naturiol, ond yn aml mae ganddynt anghenion cymhleth a all olygu bod hyd yn oed gofal sylfaenol fel brwsio dannedd yn heriol. Mae'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn darparu hyfforddiant i staff cartrefi gofal, ac yn eu galluogi i asesu a darparu gofal ceg diogel i breswylwyr. Targedwyd 340 o 650 o gartrefi gofal yng Nghymru ar gyfer y rhaglen hon, ac roedd 278 yn cymryd rhan yn llawn yn 2019.

Ffigur 3: Lefel cyfranogiad yn y rhaglen Gwên am Byth cyn y pandemig

Ffynhonnell: Gwên am Byth: a programme introduced to improve oral health of older people living in care homes in wales – from anecdote, through policy into action.*Mae’r cyfanswm yn cynnwys hyrwyddwyr iechyd y geg – staff cartrefi gofal sydd wedi’u hyfforddi gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (GDC) i ddarparu hyfforddiant i aelodau newydd o staff.

Nid oes data diweddar ar iechyd y geg preswylwyr cartrefi gofal na statws y rhaglen Gwên am Byth ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae mynediad at driniaeth yn y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ar gyfer cleifion bregus wedi cael ei daro’n galed gan y pandemig.

Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mae’r ôl-groniad o driniaethau ar gyfer y cleifion hyn hyd yn oed yn fwy na mewn practisau deintyddol prif ffrwd (gan fod deintyddion Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol wedi’u lleoli yn y Canolfannau Gofal Deintyddol Brys). Mae'n dweud:

… inadequate dental care for at-risk groups is storing up immense problems for the future.

At hynny, rydym yn gwybod y bydd deiet nad yw’n iach a phoblogaeth sy’n heneiddio yn arwain at fwy o bwysau ar wasanaethau deintyddol sylfaenol a chymunedol.

Setiau data ar ddeintyddiaeth

Mae Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) yn gorff hyd braich o Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Mae’n cadw’r holl ddata gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol ac yn darparu adroddiadau i Fyrddau Iechyd a phractisau deintyddol, ond nid yw’r rhain ar gael i’r cyhoedd. Mae'r adroddiadau a gynhyrchir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn canolbwyntio'n bennaf ar berfformiad, ansawdd a rheoli risg. Gall sefydliadau sector cyhoeddus a thimau ymchwil wneud ceisiadau am ddata.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau data chwarterol ar wasanaethau deintyddol y GIG. Mae hyn yn cynnwys nifer y cleifion sy’n cael triniaeth ddeintyddol gan y GIG, y mathau o driniaethau a ddarperir a niferoedd deintyddion y GIG.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd yn flynyddol ar nifer y triniaethau deintyddol gydag anaesthesia cyffredinol a gynhaliwyd ar blant 0-17 oed yng Nghymru. Ond cwestiynwyd y fethodoleg ar gyfer casglu data ar gyfer yr adroddiad hwn ac mae angen ei gwella (a amlygwyd yn yr adroddiad ei hun). Ni chasglwyd data yn ystod y pandemig ac felly ni ddisgwylir adroddiadau mwy newydd.

Mae gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru lincs i nifer o adroddiadau, gan gynnwys; adroddiadau monitro Cynllun Gwên, proffiliau iechyd y geg Byrddau Iechyd Lleol a chanlyniadau arolygon. Ond prin yw’r wybodaeth gyfredol sydd ar gael, gan nad oedd arolygon yn bosibl yn ystod y pandemig. Mae rhywfaint o waith arolygu yn ailddechrau.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes deintyddiaeth

Mae'r BDA yn pwysleisio bod teuluoedd ledled Cymru wedi gweld sut beth yw bywyd heb ddeintyddiaeth ac efallai y bydd effaith y pandemig yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod. Dywed:

The sad fact is that the real progress we’ve made on tackling unacceptable health inequalities now risks going into reverse.

Mae angen deall yr anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth a’r defnydd o wasanaethau deintyddol y GIG gan grwpiau difreintiedig a thrwy gydol bywydau pobl er mwyn cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sydd eisiau ei ddefnyddio. Mae angen gwneud gwelliannau i setiau data deintyddol os ydym am ddeall anghydraddoldebau’n llawn mewn ffordd fwy ystyrlon. 

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymgynghoriad ar ddeintyddiaeth yr wythnos hon. Mae manylion am sut i ymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar y wefan.


Erthygl gan Katie Devenish, Sarah Hatherley and Sam Jones Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru