Mae llawer o bobl yn cael trafferth i gael y gofal a’r driniaeth ddeintyddol sydd eu hangen arnynt, yn ôl corff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG yng Nghymru.
Mae adroddiadau a wnaed gan Gynghorau Iechyd Cymuned (CIC) ledled Cymru (e.e. CIC Bae Abertawe a CIC Hywel Dda) yn dweud bod dod o hyd i ddeintydd y GIG yn “amhosibl” i lawer o bobl. Mae nhw’n dweud bod hyn yn cael effaith sylweddol ar iechyd deintyddol pobl, ac mae llawer yn teimlo pwysau i dalu'n breifat am ofal neu yn peidio â chael triniaeth ddeintyddol o gwbl.
Bydd safbwyntiau gwahanol o ran ystyr mynediad at ddeintyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, ac o ran ei ystyr i’r cyhoedd / cleifion neu’r hyn y maent yn rhoi gwerth arno.
Mewn cyfres o ddwy erthygl, byddwn yn edrych ar fynediad at ddeintyddiaeth o ran cydraddoldeb. Mae'r erthygl gyntaf hon yn edrych ar ba grwpiau sy'n cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau. Bydd ein hail erthygl yn edrych ar atal anawsterau, ac ar fynediad at raglenni deintyddol cymunedol.
Mynediad mwy cyfyngedig at ofal deintyddol
Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, ac mae’n debygol o gymryd peth amser i ymdrin â’r ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol.
Dywed Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) yng Nghymru bod bron i ddwy filiwn o driniaethau wedi'u colli yn ystod 2020-21.
Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) yn egluro mai dim ond gwasanaethau brys oedd ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf. Ers ailagor ym mis Mehefin 2020, mae deintyddion wedi dweud bod ganddynt lai o gapasiti o ganlyniad i ragor o gau, a bod angen camau rheoli heintiau, fel glanhau ychwanegol ac amser rhwng triniaethau.
Mae’r cyfryngau wedi adrodd am achosion pan fu cleifion wedi’u gorfodi i gynnal eu gofal deintyddol eu hunain, fel prynu citiau llenwi dros dro, a thrin eu hunain oherwydd na allai practisau ddarparu apwyntiadau.
Mae Ffigur 1 (isod) yn dangos effaith y pandemig ar ddeintyddiaeth. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn rhybuddio:
… patients across Wales will now inevitably face worse outcomes, with opportunities lost to act on the early signs of tooth decay, gum disease and even oral cancer.
Mae hefyd yn dangos, fodd bynnag, mai dim ond tua 55 y cant o'r boblogaeth oedd yn gallu cael mynediad at ofal deintyddol y GIG, hyd yn oed cyn y pandemig. Nid yw'n hysbys pa grwpiau o’r boblogaeth a oedd yn cael archwiliadau deintyddol rheolaidd a pha grwpiau oedd yn cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau a thriniaeth.
Ffigur 1: Canran y boblogaeth sy'n defnyddio gofal deintyddol y GIG o fewn y cyfnod archwilio 2 flynedd a argymhellir ¹
Ffynhonnell: StatsCymru, Cleifion y GIG a gaiff eu trin, o ran oedolion a phlant, yn ôl bwrdd iechyd lleol.
¹ Darperir data bob chwarter ac mae'n cyfeirio at ganran y boblogaeth a aeth at y deintydd o leiaf unwaith yn y ddwy flynedd flaenorol.
Rhennir triniaethau deintyddol yn fandiau, yn dibynnu ar lefel y cymhlethdod, sydd hefyd yn pennu'r gost:
- Mae Band 1 yn cynnwys archwiliadau a thriniaethau syml, fel pelydrau-x a chrafu cen a glanhau;
- Mae Band 2 yn cynnwys triniaethau mwy clinigol fel llenwadau, tynnu dannedd a chaneli gwreiddiau;
- Mae Band 3 yn cynnwys triniaethau mwy cymhleth (e.e. coronau, pontydd a dannedd gosod); a
- Mae’r band Brys yn cyfeirio at driniaeth frys, tymor byr i atal poen neu i atal dirywiad pellach.
Dengys Ffigur 2 bod gwasanaethau deintyddol wedi bod yn araf o ran cael eu hadfer. Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 roedd nifer y cyrsiau triniaeth Band 1 (sy’n cynnwys archwiliadau arferol) 70 y cant yn is na chyfartaledd 2009-2019 ar gyfer yr un cyfnod.
Ffigur 2: Nifer y cyrsiau o driniaeth ddeintyddol a roddwyd i oedolion bob chwarter o 2009 i 2021 fesul band triniaeth
Ffynhonnell: StatsCymru, Cyrsiau triniaeth fesul band triniaeth, math o glaf, bwrdd iechyd lleol a chwarter.
Teimlir yr effaith hefyd mewn gofal eilaidd, lle mae amrywiaeth o arbenigeddau deintyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar hyn drwy StatsCymru (gweler Ffigur 3):
- Llawdriniaethau geneuol; sy’n ymwneud â llawdriniaeth i'r dannedd, y genau a'r deintgig;
- Deintyddiaeth bediatrig; gofalu am anghenion deintyddol cymhleth plant; ac
- Orthodonteg; darparu weiren i sythu dannedd a darparu gwasanaethau yn bennaf i blant ar y GIG.
- Deintyddiaeth adferol: sy’n canolbwyntio ar reoli afiechydon ceudod y geg, y dannedd a’r strwythurau cynnal; a
- Meddygaeth ddeintyddol: sef cangen o iechyd y geg.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth wedi cynyddu ar gyfer pob arbenigedd ar wahân i lawfeddygaeth adferol rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022. Er bod y canran o gleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos am driniaeth wedi gostwng ar gyfer y mwyafrif o arbenigeddau (ac eithrio meddygaeth ddeintyddol) dros y cyfnod hwn, mae’r amseroedd aros yn parhau’n hir ar gyfer triniaethau orthodontig, meddygaeth ddeintyddol a llawdriniaethau’r geg. Ym mis Ebrill 2022, mae 50 y cant o gleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am lawdriniaeth y geg.
Ffigur 3: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ysbyty ym mis Ebrill 2022 o gymharu â mis Ebrill 2021 yn ôl arbenigedd deintyddol ac amser aros.
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, fesul wythnosau wedi'u grwpio a fesul triniaeth, o Ionawr 2021 ymlaen
Adfer gwasanaethau deintyddol
Ddwy flynedd er dechrau'r pandemig, nododd CIC Bae Abertawe ym mis Chwefror 2022 fod nifer sylweddol o bobl yn dal i fethu â chael gofal a thriniaeth ddeintyddol y GIG. Mae'n dweud naill ai nad oes gan bractisau apwyntiadau ar gael, neu nad ydyn nhw'n cymryd cleifion newydd y GIG.
Gosododd Llywodraeth Cymru ddisgwyliad ar gyfer 2021/22 sef bod gan holl bractisau deintyddol y GIG gyfrifoldeb i weld cleifion newydd. Ond data cyfyngedig sydd ar gael o ran pa wasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd ac i gleifion. Yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Gorffennaf , dywedodd y Prif Weinidog:
… ein huchelgais yw sicrhau bod deintyddiaeth y GIG ar gael i bawb sy'n dymuno manteisio arno.
Anghydraddoldebau iechyd meddwl
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynghylch pa rannau o'r boblogaeth sydd naill ai'n amharod i gael mynediad at wasanaethau deintyddol, neu sy'n methu â’u cael. Efallai y bydd rhai pobl yn dewis defnyddio deintyddiaeth breifat.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) yn amlygu bod gweithwyr deintyddol proffesiynol yn pryderu bod y gostyngiad o ran capasiti deintyddol yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio ar:
- Y rhai a oedd yn hynod agored i niwed yn glinigol i COVID-19 (54 y cant);
- Pobl na allant fforddio triniaeth ddeintyddol (48 y cant); a
- Phobl hŷn (43 y cant)
Dengys data y caewyd 16 o bractisau deintyddol y GIG yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mehefin 2022. Wrth i bractisau gau, bydd angen i rai pobl deithio ymhellach i gael triniaeth ddeintyddol, sy’n creu anawsterau penodol i bobl mewn ardaloedd gwledig, pobl sydd â symudedd cyfyngedig neu bobl sydd ar incwm isel.
Ffigur 4: Cyfran y boblogaeth o fewn pellteroedd teithio amrywiol i'w deintydd agosaf yn ôl natur wledig eu cartref a lefel amddifadedd
Ffynonellau: Data Practisau Deintyddol Cyffredinol, Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2020, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, Dosbarthiad gwledig-trefol yr ONS.
Mae Ffigur 4 yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru (61 y cant) yn byw o fewn 1 filltir i’w practis deintyddol agosaf. Nid yw’n syndod bod trigolion gwledig yn tueddu i fyw ymhellach o’r practis deintyddol agosaf, ac mae 25 y cant o drigolion cefn gwlad yn teithio mwy na 5 milltir i’r practis agosaf. Mae gan drigolion yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy’n tueddu i fod mewn ardaloedd trefol, well mynediad corfforol at bractisau deintyddol na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ffigur 5: Pellter teithio i ddeintyddfa agosaf y GIG
Ffynonellau: Data Practisau Deintyddol Cyffredinol, Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2020, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, Dosbarthiad gwledig-trefol yr ONS. Rhwydwaith ffyrdd. Mae’r pellteroedd yn adlewyrchu pellter teithio gwirioneddol ar hyd y rhwydwaith ffyrdd.
Y tu hwnt i fesurau pellter syml, nid yw’n bosibl gwneud dadansoddiad fesul grwpiau poblogaeth o ran pwy sy'n gallu cael mynediad at driniaeth ddeintyddol a'i fforddio. Nid yw'r data ychwaith yn cynnwys grwpiau sy'n agored i niwed a allai gael mynediad at ofal deintyddol drwy'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (edrychir ar y mater hwn ymhellach yn ein hail erthygl). Er mwyn deall mynediad at ofal deintyddol o safbwynt cydraddoldeb yn well, mae angen cronfeydd data a dadansoddiadau integredig y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDS) a Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (CDS).
Erthygl gan Katie Devenish, Sarah Hatherley and Sam Jones Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru