Dedfryd Gudd? Plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu

Cyhoeddwyd 13/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

13 Mai 2014 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1196" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Heddiw caiff Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy'n dioddef gan fod eu rhieni wedi'u carcharu ei lansio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Un o brif nodau’r Grŵp fydd tynnu sylw at yr effaith sydd ar blant, ac anghenion penodol plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.

Amcangyfrifir bod carcharu rhieni yn effeithio ar 200,000 o blant yng Nghymru a Lloegr. Dywed Barnardo’s Cymru nad oes ffigurau manwl gywir ar gyfer Cymru. Maent yn galw am i ystadegau gael eu casglu ar nifer y plant sy’n dioddef yng Nghymru, ac am sicrhau bod yr ystadegau hynny ar gael. O ran nifer y plant y mae hyn yn effeithio arnynt, clywodd cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol, er enghraifft, fod hyd at 2000 o blant bob mis yn mynychu'r ganolfan ymweld yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ychydig o waith ymchwil sydd wedi’i gyflawni yng Nghymru na’r Deyrnas Unedig i’r effaith ar blant carcharorion. Nod y Grŵp Trawsbleidiol yw dod â’r amrywiaeth o broblemau a brofir gan blant a theuluoedd sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, ynghyd. Yng nghyd-destun pwerau datganoledig, bydd y Grŵp hefyd yn ystyried argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae rôl addysg ac ysgolion, i adnabod a chefnogi plant a theuluoedd sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, yn debygol o fod o ddiddordeb penodol; a’r effaith ar blant a theuluoedd sy’n dioddef pan fydd troseddwyr benywaidd o Gymru yn cael eu carcharu y tu allan i Gymru; a hefyd, effaith ariannol carcharu rhieni/ofalwr.

Er bod y data ystadegol yn brin, ceir rhagor o wybodaeth ar y Canolbwynt gwybodaeth am Deuluoedd a phlant Troseddwyr a gwefan PACT Cymru. Ar 30 Ebrill 2014, fe wnaeth Christine Chapman arwain dadl fer yn dwyn y teitl '200,000 o blant tawel? Ystyried anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu'. Amlinellodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, rai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn. Gellir gweld y ddadl ar Senedd TV. Gall Aelodau’r Cynulliad sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymchwilio i unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Cynulliad. Bydd nifer o’r Grwpiau Trawsbleidiol a sefydlwyd yn edrych yn fanwl ar faterion sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, ac mae nifer ohonynt yn canolbwyntio’n benodol ar blant: sef y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant; y Grŵp Trawsbleidiol ar Rywioldeb Plant - Rhywioli a Chydraddoldeb ; y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal; a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant.