Deddfwriaeth dull carlam

Cyhoeddwyd 02/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

2 Hydref 2013 Ddydd Llun, 30 Medi 2013, cyflwynodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), a fydd yn destun y broses ddeddfu ‘dull carlam’ yn y Cynulliad. Cyflwynwyd y Bil yng ngoleuni argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dylid rhoi mwy o hyblygrwydd i’r GIG reoli ei gyllid o’r naill flwyddyn ariannol i’r llall. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y Bil yn osgoi’r cam o gael ei ystyried yn fanwl gan bwyllgor yn y Cynulliad yng Nghyfnod 1, ac yn lle hynny bydd yn mynd yn syth at y cam o gynnal dadl a phleidlais ar ei egwyddorion cyffredinol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf, 8 Hydref. Pe bai’r bleidlais honno’n cael ei phasio, bydd y Bil yn symud i drafodion Cyfnod 2, a fydd yn cael eu cynnal dair wythnos yn ddiweddarach, gyda thrafodion Cyfnod 3 a 4 i ddilyn yn y Cyfarfod Llawn dair wythnos wedi hynny. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2014 ac y daw i rym ar 1 Ebrill 2014. Nid dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad ystyried deddfwriaeth gan ddefnyddio gweithdrefn dull carlam o’r math hwn. Yn ystod y Trydydd Cynulliad (2007-2011), mabwysiadwyd dull tebyg gan Lywodraeth Cymru ar y pryd, mewn cysylltiad â’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Ni chafwyd gwaith craffu manwl gan bwyllgor ar y Mesur, a chynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn yn syth ar ôl ei gyflwyno ym mis Ebrill 2008. Cyfiawnhad y Llywodraeth dros ei dull gweithredu ar y pryd oedd bod Pwyllgor Menter a Dysgu’r Trydydd Cynulliad eisoes wedi craffu arno cyn y broses ddeddfu, drwy edrych ar fersiwn ddrafft o’r Mesur, ac roedd wedi clywed tystiolaeth yn ei gylch ac wedi cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2007. Fodd bynnag, nid y weithdrefn dull carlam yw’r unig ddull sydd ar gael o brysuro prosesau deddfu’r Cynulliad. Mae gweithdrefn Biliau Brys y Cynulliad yn galluogi Llywodraeth Cymru, mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol, i basio Bil gan ddefnyddio gweithdrefnau wedi’u symleiddio. Gallai hyn olygu bod Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad o fewn wythnos i’w gyflwyno. Defnyddiwyd y broses hon am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru cyn toriad yr haf, mewn cysylltiad â Bil Sector Amaethyddol (Cymru).  Cyflwynwyd y Bil fel Bil brys ar 8 Gorffennaf a chynhaliwyd dadl arno yng Nghyfnod 1 ar 9 Gorffennaf. Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 ar 16 Gorffennaf, ac yna trafodion Cyfnod 3 a 4 ar y diwrnod canlynol, sef 17 Gorffennaf. Erthygl gan Owain Roberts.