Cyhoeddwyd 28/10/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
28 Hydref 2015
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_3972" align="alignnone" width="682"]
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding AC, yn siarad yn ystod lawnsiad yr adroddiad[/caption]
Ar 8 Hydref, cyhoeddodd
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr adroddiad ar ei ymchwiliad i
Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad.
Cylch gorchwyl
Dechreuodd yr ymchwiliad yng ngwanwyn 2014, a'r
cylch gorchwyl oedd ystyried sut y mae deddfau yn cael eu gwneud yn y Pedwerydd Cynulliad, yn benodol drwy:
- ystyried yr egwyddorion a ddefnyddir wrth ddrafftio Biliau Llywodraeth Cymru a Biliau Aelodau, a gwelliannau, ar gyfer y Cynulliad;
- ystyried effaith cymhwysedd deddfwriaethol ar ddrafftio Biliau (gan gynnwys effaith bosibl ffyrdd amgen o ddiffinio cymhwysedd deddfwriaethol);
- adolygu diben ac effaith Memoranda Esboniadol, sy'n cyd-fynd â Biliau, a mathau eraill o ddeunydd esboniadol neu gefndirol;
- adolygu effeithiolrwydd y cyfleoedd a ddarperir gan y Rheolau Sefydlog i graffu ar Filiau;
- ystyried yr amser a neilltuir ar gyfer craffu ar Filiau, a materion eraill sy'n ymwneud â gweithdrefn Biliau;
- adolygu cwmpas ac effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer Biliau sy'n destun llwybr carlam o fewn gweithdrefnau presennol y Cynulliad;
- ystyried capasiti Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu;
- ystyried materion sy'n ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei rhaglen ddeddfwriaethol;
- ystyried unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â'r broses ddeddfu;
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymarfer ymgynghori cychwynnol a chyhoeddodd alwad am dystiolaeth gan ofyn cwestiynau cyffredinol a manwl yn ymwneud â'r materion uchod. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2014.
Cynghorwyd y Pwyllgor ar ei waith gan Daniel Greenberg, bargyfreithiwr sy'n arbenigo mewn deddfwriaeth.
Ym mis Hydref 2014, cynhaliodd y Pwyllgor
ddigwyddiad i randdeiliaid i ystyried y pynciau a ganlyn:
- technegau drafftio;
- datblygu ac egluro polisïau;
- y cydbwysedd rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth; a gwaith craffu'r Cynulliad.
Yna, cynhaliodd y Pwyllgor
sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn a thymor yr haf 2015.
Yn dilyn y broses o gasglu tystiolaeth, rhannodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a'r canfyddiadau cychwynnol gyda
phanel o arbenigwyr.
Canfyddiadau
Mae'r adroddiad yn gwneud
34 o argymhellion, sy'n cynnwys:
- Argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad trylwyr o'i phroses datblygu a'r broses fewnol o gydgysylltu'r rhaglen ddeddfwriaethol, ac yn eu hailwampio ac yn sicrhau bod systemau cynllunio strategol effeithiol, monitro, cyflawni a rheoli ansawdd yn eu lle i sicrhau bod Biliau cyflawn sydd wedi'u hystyried yn drwyadl yn cael eu cyflwyno i'r Cynulliad graffu arnynt.
- Y dylid bod rhagdybiaeth o blaid cyhoeddi Biliau drafft. Mae'r argymhelliad hwn yn gymwys i Lywodraeth Cymru ac i Aelodau Cynulliad sydd wedi cael caniatâd i gyflwyno Biliau.
- Dylai'r Memorandwm Esboniadol i Fil a gyflwynwyd gynnwys crynodeb manwl o sut y mae Bil a gyflwynwyd wedi ei ddiwygio ers y Bil drafft, a'r rhesymau dros unrhyw newidiadau a fabwysiadwyd.
- Bod memorandwm ariannol yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r holl Filiau drafft, sy'n cynnwys gwybodaeth am gostau'r polisi dan sylw, y sefyllfa ddeddfwriaethol a'r costau ar ôl gwneud y ddeddfwriaeth.
- Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei dull o ran Memoranda Esboniadol a chyhoeddi canlyniad yr adolygiad hwnnw yn barod ar gyfer y Pumed Cynulliad.
- O ystyried bod y Cynulliad yn ddeddfwrfa un siambr, rydym yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn paratoi cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad i ddarparu Cyfnod Adrodd gorfodol ar gyfer craffu ar bob Bil, oni bai bod y Cynulliad, drwy benderfyniad o fwyafrif o ddwy ran o dair, yn penderfynu fel arall.
- Bod Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Gyfraith, yn datblygu cynllun hirdymor ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru.
Ar ôl lansio'r adroddiad, dywedodd
David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
'Fel un siambr, mae'n hollbwysig bod gan y Cynulliad ddigon o amser a chyfle i ystyried yn fanwl ac ychwanegu gwerth at gyfraith arfaethedig, felly hoffem weld cyfnod adroddiad gorfodol, a hoffem dynnu sylw at bwysigrwydd craffu cyn deddfu.
Mae hefyd yn hanfodol bod gan bobl y cyfle i lunio'r cyfreithiau hyn a gweld budd o'u cyfraniadau. Felly, mae cyfreithiau clir, cyfunol, sy'n seiliedig ar bolisi cadarn, a ystyriwyd yn drylwyr, yn hanfodol wrth i Gymru symud i gyfnod newydd o ddatganoli.'
Nododd yr adroddiad y canlynol mewn perthynas â'r Pwyllgor:
'[...] gwnaethom ganfod sawl rheswm i gredu y gallwn wneud rhagor i sicrhau proses esmwyth o ymgysylltu rhwng dinasyddion, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad wrth lunio deddfwriaeth, ac mae hynny'n sail i thema arall sy'n cysylltu nifer o'n hargymhellion. Er enghraifft, mae craffu cyn deddfu yn gyfle i Lywodraeth Cymru fodloni'r Cynulliad fod cynnig yn barod i'w gyflwyno fel Bil, ond mae hefyd yn gyfle i'r Cynulliad fodloni ei hun bod buddiannau a phryderon rhanddeiliaid wedi'u nodi a'u hadlewyrchu wrth ddatblygu polisïau. Yn yr un modd, mae ein hargymhellion ynghylch cydgrynhoi llyfr statud Cymru, ac ynghylch gwella cynnwys Memoranda Esboniadol, wedi'u hanelu at wella mynediad i'r gyfraith i bobl Cymru.'
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg