Deddf Coronafeirws 2020: beth nesaf?

Cyhoeddwyd 08/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Derbyniodd Deddf Coronafeirws 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020 wedi hynt gyflym o bedwar diwrnod trwy Senedd y DU. Rhoddodd y Cynulliad ei gydsyniad i'r Bil ar 24 Mawrth. Roedd angen y cydsyniad hwn am fod y Bil yn ymdrin â meysydd datganoledig yn ogystal â meysydd nas datganolwyd.

Yn ystod y ddadl yn y Cynulliad ar y Bil ar 24 Mawrth 2020, dywedodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y Bil yn cynnwys “extraordinary measures for the extraordinary times that we face”. Nododd Aelodau'r Cynulliad y pwerau sylweddol ac eithriadol y byddai’r Bil yn eu rhoi i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar ryddidau unigol, ond roeddent yn cytuno bod angen y pwerau yn y Bil ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Ar 23 Mawrth 2020 cyhoeddodd Ymchwil y Senedd ei grynodeb o'r Bil yn amlinellu prif ddarpariaethau'r Bil. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r newidiadau a wnaed i'r Bil yn ystod ei hynt trwy Senedd y DU a'r hyn a ddywedodd Aelodau'r Cynulliad am y Bil yn ystod y ddadl yn y Cynulliad ar 24 Mawrth.

Mae hefyd yn trafod beth sy'n digwydd nawr bod y Ddeddf wedi cael ei phasio.

Sut cafodd y Bil ei newid wrth iddo fynd trwy Senedd y DU?

Roedd llawer o'r diwygiadau i'r Bil yn rhai technegol. Roeddent yn cynnwys: pwerau i ymestyn y cyfnodau y gellir cadw olion bysedd a phroffiliau DNA (cymal 24); datgymhwyso cyfyngiadau ar gymorth ariannol i fusnesau (cymal 75); darpariaeth ar gyfer ehangu swyddogaethau Cyllid a Thollau EM (cymal 76); darpariaeth ar gyfer cynyddu Credyd Treth Gwaith (cymal 77); diogelu tenantiaethau busnes rhag troi allan (cymalau 82-83); a phwerau i ohirio etholiadau Synod Cyffredinol Eglwys Loegr (cymal 84).

Roedd un newid sylweddol i bwerau Gweinidogion y DU. Yn wreiddiol, nododd y Bil y byddai mwyafrif ei ddarpariaethau’n para am gyfnod o ddwy flynedd ac y gellid ymestyn y cyfnod hwn am chwe mis ychwanegol yn dilyn pleidlais yn neddfwrfa berthnasol y DU.

Mewnosodwyd cymal newydd yn y Bil (cymal 98) i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU, bob chwe mis, gael cymeradwyaeth Senedd y DU ar gyfer rhai o ddarpariaethau dros dro’r Ddeddf mewn meysydd nas datganolwyd. Bydd unrhyw fesurau perthnasol a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf yn parhau i fod yn berthnasol am ddwy flynedd i ddechrau, ac am gyfnodau o chwe mis wedi hynny os bydd angen, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid rhoi terfyn arnynt cyn hynny.

Cyhoeddodd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin erthygl ar 25 Mawrth 2020, 'Bil Coronafeirws: Terfynau amser diwygiedig ac adolygiad ar ôl deddfu' (Saesneg yn unig), sy'n edrych ar y darpariaethau newydd sy'n gosod terfynau amser ar y ddeddfwriaeth frys, ac yn esbonio'r mesurau sydd wedi cael eu cynnwys i Senedd y DU adolygu'r ddeddfwriaeth.

Ceir trosolwg defnyddiol o ddarpariaethau’r Ddeddf a'u pwrpas gan y Sefydliad Llywodraeth - 'Deddf Coronafeirws 2020' [Saesneg yn unig].

Beth ddywedodd Aelodau'r Cynulliad yn y ddadl ar y Bil?

Gofynnwyd i'r Cynulliad roi cydsyniad i'r Bil yn ffurfiol oherwydd bod y Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus mewn meysydd datganoledig. Cynhaliwyd y ddadl ar y Bil ac a ddylai'r Cynulliad roi cydsyniad ai peidio ar 24 Mawrth 2020.

Wrth agor y ddadl, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

The purpose of the coronavirus Bill is to enable all four Governments across the UK to respond to an emergency situation and to manage the effects of the COVID-19 pandemic. The powers being taken are intended to protect life and the nation's public health.

[..]

The Bill contains temporary measures designed to either amend existing legislation or to introduce new statutory powers that are designed to mitigate those impacts. This Bill ensures that the agencies and services involved—schools, hospitals, the police and more—have the tools and powers that they need.

Cytunodd Aelodau'r Cynulliad fod angen y pwerau helaeth ac eang yn y Bil, ond fe wnaethant alw am oruchwyliaeth briodol dros ddefnydd Llywodraeth Cymru o'r pwerau. Hefyd, galwyd ar i Lywodraeth y DU sicrhau ei bod yn darparu adroddiadau rheolaidd i'r Cynulliad ar ei defnydd hi o’r darpariaethau yn y Bil.

Yn y ddadl, tynnodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder, sylw at y ffaith na fyddai’r gofynion cyfreithiol yn y Bil ynghylch goruchwylio seneddol o Weinidogion y DU yn berthnasol i Weinidogion Cymru. Galwodd ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu adroddiadau i'r Cynulliad ar ei defnydd hi o'r pwerau a chaniatáu i'r Cynulliad adolygu yn rheolaidd unrhyw fesurau a roddir ar waith.

Wrth ymateb i'r sylwadau am atebolrwydd a goruchwyliaeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

I'm happy to give an undertaking on the record about the Welsh Government reporting to this Assembly on the use of powers on a regular basis. In practical terms, I think that in reality we'll be making public statements about the use of powers every time we use them, but then to want to gather together in one place a report on what's been done over a period of time. I'm happy to give that undertaking.

The one note of caution I'd give in regard to some other responses provided to other Members is that, first of all, it’s then for this institution to decide how it wants to use that report in terms of scrutiny or otherwise.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru eisoes wedi defnyddio'r pwerau a roddwyd iddynt o dan y Ddeddf i gyflwyno gofynion, newidiadau a chyfyngiadau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys pwerau i gadw pobl yn gaeth lle y credir eu bod wedi'u heintio, cyfyngu ar symudiad unigolion, a chau rhai busnesau dros dro.

Bydd Ymchwil y Senedd yn dilyn a monitro'r pwerau sy'n cael eu defnyddio a lle bo hynny'n bosibl, bydd yn cynhyrchu blogiau ar yr hyn maen nhw'n ei olygu i'r Cynulliad, ac i bobl, busnesau a sefydliadau yng Nghymru. Bydd ein blog cyntaf ar y darpariaethau coronafeirws cyfreithiol newydd yn cael ei gyhoeddi yfory.


Erthygl gan Nia Moss a Sarah Hatherley Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.