Dechrau ffres i wasanaethau deintyddiaeth?

Cyhoeddwyd 30/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Pam y mae llawer o ddeintyddion yng Nghymru wedi bod yn galw am newid i’w contract? A oes problemau o ran cael mynediad at wasanaethau orthodontig? A yw pobl ifanc yn cael y gwasanaethau deintyddol sydd eu hangen arnynt?

Dyma rai o'r materion a ystyriwyd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddeintyddiaeth. Roedd adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019, yn nodi ei ganfyddiadau, a chaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Hydref 2019.

Y contract deintyddol presennol

Daeth Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG i rym yn 2006 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r contract yn talu swm blynyddol i ddeintyddion am eu gwaith gyda’r GIG drwy system Unedau Gweithgarwch Deintyddol (UDA).

Mae'r system hon yn cynnwys tri band sy'n pennu’r gost a godir ar glaf am ei driniaeth a’r gyfran o hynny sy’n cael ei thalu wedyn i’r practis deintyddol:

  • Mae Band 1 yn cynnwys diagnosis, asesu a chynhaliaeth;
  • Mae Band 2 yn cynnwys yr hyn a gwmpesir gan Fand 1 ynghyd â thriniaeth ychwanegol fel llenwadau, therapi sianel y gwreiddyn, ac echdyniadau;
  • Mae Band 3 yn cynnwys yr hyn a gwmpesir gan Fand 1 a 2 ynghyd â thriniaethau mwy cymhleth fel pontydd, coronau a dannedd gosod.

Mae'r taliad yr un peth pa un a yw deintydd yn gwneud un neu fwy o driniaethau tebyg. Dywedwyd wrth y Pwyllgor oherwydd hyn nad oedd unrhyw gymhelliant i ddeintyddion dderbyn cleifion sydd ag anghenion dwys, gan y byddent yn cael eu talu’r un swm am wneud mwy o waith.

Mae llawer o ddeintyddion wedi bod yn anfodlon â’r contract presennol, a mynegwyd yr angen am newid yn glir gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru, gan ddweud wrth y Pwyllgor yr hoffai deintyddion gael gwared ar y system UDA yn llwyr.

Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor y gallai'r system UDA bresennol annog rhai deintyddion i beidio â derbyn cleifion sydd ag anghenion dwys, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae eisoes yn anos cael gafael ar wasanaethau deintyddol.

Ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu i newid y ffordd y mae deintyddion yn cael eu talu, gan honni bod hyn wedi achosi argyfwng o ran cael mynediad.

Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain waith ymchwil a oedd yn dangos mai dim ond 15.5 y cant o bractisau ar draws Cymru (55 allan o 355 practis) a oedd yn gallu cynnig apwyntiadau i gleifion newydd y GIG, a dim ond 27 y cant (96) o bractisau a oedd yn derbyn plant newydd drwy’r GIG.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i'r model sy'n seiliedig ar UDA yn y gorffennol, argymhellodd y Pwyllgor ddisodli’r targedau UDA presennol. Mae’r Pwyllgor yn credu y byddai creu system newydd yn fuddiol i ddeintyddion a chleifion, yn ogystal â rhoi hwb i ysbryd pobl yn y sector.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn argymhelliad y Pwyllgor, gan ddweud ei bod yn “cael gwared ar Unedau Gweithgarwch Deintyddol gwerth isel o'r system a hefyd yn cyflwyno mesurau mwy ystyrlon sy’n seiliedig ar ansawdd, mynediad, risg ac angen ar lefel practis”.

Gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed wrth ddiwygio contractau ym mis Tachwedd 2019, chwe mis ar ôl cyhoeddi ei adroddiad. Bydd y Pwyllgor yn monitro camau Llywodraeth Cymru yn agos i werthuso pa mor arwyddocaol yw'r diwygiadau i'r contract ac a ydynt yn mynd yn ddigon pell i fodloni disgwyliadau'r Pwyllgor a rhanddeiliaid.

Iechyd y geg ymhlith plant a phobl ifanc

Yn ei adroddiad, cydnabu'r Pwyllgor effaith gadarnhaol rhaglen y Cynllun Gwên (D2S), sef y rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor bryderon ynghylch newid pwyslais rhaglen y Cynllun Gwên, gan roi mwy o bwyslais ar blant rhwng 0 a 5 mlwydd oed a symudiad posibl oddi wrth blant dros yr oedran hwnnw.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ariannu rhaglen y Cynllun Gwên yn ddigonol i sicrhau bod plant dros 5 oed yn gallu manteisio arni. Wrth dderbyn yr argymhelliad, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at y camsyniad ymddangosiadol nad yw plant rhwng 6 a 7 oed wedi gallu manteisio ar fuddion y rhaglen. Dywedodd nad yw hyn yn wir oherwydd cynigir y cyfle i ysgolion gynnwys plant ym Mlwyddyn 1 a 2 (rhwng 5 a 7 mlwydd oed) yn y rhaglen.

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglenni presennol sy’n ymwneud â gwella iechyd y geg er mwyn gwella a mynd i’r afael ag iechyd y geg ymhlith plant hŷn a phlant ifanc yn eu harddegau. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan dynnu sylw at y ffaith bod adnoddau wedi'u datblygu i gefnogi gwersi plant ysgolion cynradd hŷn er mwyn atgyfnerthu neges rhaglen y Cynllun Gwên.

Comisiynwyd astudiaeth epidemiolegol sydd â’r nod o asesu a deall anghenion y grŵp oedran rhwng 12 a 21 mlwydd oed, ac i helpu i lywio dulliau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu anghenion y grŵp hwn.

Clywodd y Pwyllgor y gall problemau iechyd y geg ymhlith plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau arwain at golli dannedd parhaol. Mewn rhai achosion, caiff llawer o ddannedd eu colli, ac mae'r Pwyllgor yn disgwyl y bydd camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn.

Gwasanaethau orthodontig

Clywodd y Pwyllgor hefyd y gall atgyfeiriadau amhriodol at wasanaethau orthodontig roi pwysau ar wasanaethau a gwaethygu problemau amseroedd aros. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â byrddau iechyd i ddatblygu strategaeth glir i sicrhau bod y system atgyfeiriadau electronig ar gyfer gwasanaethau orthodontig yn cael effaith gadarnhaol wrth sicrhau y ceir atgyfeiriadau priodol, wrth flaenoriaethu cleifion ac wrth leihau amseroedd aros. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad, gan roi sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai'n monitro atgyfeiriadau.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru holl argymhellion y Pwyllgor. Nid yw’n hysbys eto a fydd y camau a ddisgrifir yn ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigon i ddatrys y problemau o ran mynediad cleifion at wasanaethau deintyddol, ac anniddigrwydd hirfaith y proffesiwn â’r system contract.


Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru