Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol – trosolwg

Cyhoeddwyd 03/07/2024   |   Amser darllen munud

Math o AI sy'n gallu creu cynnwys newydd yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol), sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, yn enwedig ers rhyddhau ChatGPT ym mis Tachwedd 2022.

Mae AI cynhyrchiol yn cynnig cyfleoedd i wella'r gwasanaethau a ddarperir gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae allbynnau AI cynhyrchiol yn dibynnu ar safon y data a ddefnyddir i hyfforddi modelau. Ar wahân i gyfyngiadau technegol, mae’r risgiau eraill sy'n peri pryder i randdeiliaid yn cynnwys y diffyg trefniadau rheoleiddio presennol, yr effeithiau ar swyddi, preifatrwydd a materion hawlfraint.

Ym mis Tachwedd 2023, arweiniodd y DU Uwchgynhadledd Ryngwladol ar Ddiogelwch Deallusrwydd Artiffisial (AI), lle cafodd Datganiad Bletchley ei lofnodi gan 28 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r datganiad hwn yn cydnabod bod llawer o risgiau sy’n rhyngwladol eu natur, ac felly mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â hwy yw drwy gydweithrediad rhyngwladol.

Darllenwch ein papur briffio i ddarganfod mwy am y cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag AI cynhyrchiol yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â'r rheoliadau presennol yng Nghymru ac o amgylch y byd a'r heriau o ran eu gweithredu.


Erthygl gan Amandine Debus, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.