Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: cyfleoedd i Gymru

Cyhoeddwyd 31/01/2025   |   Amser darllen munudau

Paratowyd yr erthygl wadd hon gan Dr David Dowell, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol St Andrews, Dr Robert Bowen, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd a Dr Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Aberystwyth.

Mae deallusrwydd artiffisial wedi cael effaith yn gynt nag unrhyw dechnoleg arall ar draws ystod eang o sectorau busnes. Yn 2023, nododd Cyngor Technoleg Forbes mai deallusrwydd artiffisial yw’r dechnoleg a fabwysiadwyd gyflymaf erioed gan fyd busnes.

Daw hyn yn sgil blynyddoedd lawer o ymchwil ac o ddatblygu cynhyrchion fel ChatGPT, a arweiniodd y ffordd.

Deallusrwydd artiffisial yw lle mae technoleg a pheiriannau yn gallu dynwared tasgau dynol. Yn y DU, amcangyfrifir bod y farchnad deallusrwydd artiffisial yn werth £16.8 biliwn. Yn fyd-eang, mae lefelau buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial yn amrywio'n fawr, yn bennaf oherwydd bod llawer yn derbyn y bydd yn sicr o gael effaith ar swyddi.

Mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU yn ei Chynllun Gweithredu Cyfleoedd AI y DU fel agwedd bwysig ar dyfu economi’r DU, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a gwella bywydau pobl. Mae cyfleoedd wedi'u nodi yng Nghymru, fel y campws canolfan ddata a grëwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan fusnesau bach a chanolig ac yn nodi canfyddiadau ein hymchwil i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau) gwledig yng Nghymru. Rydym yn cloi drwy dynnu sylw at ystyriaethau ar gyfer llunwyr polisïau.

Defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan BBaChau

Mae cyfraddau mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ymhlith busnesau bach a chanolig yn llawer is na'r gyfradd mewn sefydliadau mwy o faint.

Mae Astudiaeth Arloesedd y DU 2023 yn dangos mai 9% o BBaChau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer prosesau cynhyrchu, yn wahanol i sefydliadau mwy o faint lle mae’r ffigur yn 23.3%. Ar gyfer 'arloeswyr ehangach' (BBaChau sy'n arloesi), mae'r anghysondeb yn cynyddu, gyda BBaChau yn 12.5%, a sefydliadau mwy yn 28.8%.

Ar gyfer 'BBaChau nad ydynt yn arloesi' (y rhai nad ydynt yn arloesi), mae’r gyfradd mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn 4%, ac mewn sefydliadau mwy o faint 13.9% yw’r ffigur. Yn gyffredinol, nid yw BBaChau yn manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial ar yr un lefelau â sefydliadau mwy o faint.

Yn fras, rydym yn gweld lefelau is o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yng Nghymru. Mae data 2022 yn dangos bod 7.42 y cant o BBaChau wedi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn rhyw ffurf, sy’n is na’r ffigur yn Lloegr (9.78%), yr Alban (8.08%) a Gogledd Iwerddon (9.50%). Mae’r canran o’r rhai sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gymharol sefydlog, gyda thua’r un ganran yn 2021.

Ffigur 1: Cyfradd mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ymhlith BBaChau fesul gwlad yn y DU, 2022.

Graff yn dangos canran y BBaChau a fabwysiadodd deallusrwydd artiffisial fesul gwlad yn y DU yn 2022. Cymru 7.4%; yr Alban 8.1%; Gogledd Iwerddon 9.5%; a Lloegr 9.8%.

Ffynhonnell: Arolwg arloesedd y DU 2023

Gall mabwysiadu deallusrwydd artiffisial arwain at berfformiad busnes gwell ac ychwanegu tua 3.4% yn flynyddol at dwf cynhyrchiant. Gall BBaCHau elwa ar y dechnoleg, gyda swyddogaethau fel marchnata, cludiant, a dadansoddi data yn cael eu gwella drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial.

Mae hyn yn bwysig i BBaChau gwledig sy'n wynebu heriau o ran denu pobl i weithio, symud cynhyrchion i'r farchnad, ac arloesi.

Ond mae heriau y mae angen eu deall a mynd i'r afael â hwy gan gynnwys ystyried y Gymraeg. yn ogystal â phryderon technolegol.

Ar hyn o bryd, mae angen mwy o waith datblygu er mwyn i ddeallusrwydd artiffisial weithio gyda’r Gymraeg. Mae pryderon technolegol yn cynnwys mynediad at y rhyngrwyd, gan gynnwys gwasanaeth ffonau symudol, yn ogystal â materion mewnol fel sgiliau cyfrifiadurol, risgiau seiber a goblygiadau o ran cost.

Mathau o ddeallusrwydd artiffisial a manteision i BBaChau gwledig

Mae cryn botensial i ddeallusrwydd artiffisial wella cynhyrchiant mewn BBaChau gwledig yng Nghymru, gan arwain at sgil-effeithiau ar economïau lleol.

Nid oes rhaid i ddeallusrwydd artiffisial fod yn hollgynhwysol, yn hytrach gall wella prosesau lefel isel drwy arloesi fesul cam o ran prosesau. At hynny, gall deallusrwydd artiffisial feithrin gallu ar gyfer arloesi, gyda'r gallu i greu gwerth drwy integreiddio’n hawdd, a phrosesu gwybodaeth yn well.

I'r perwyl hwnnw, gellir integreiddio deallusrwydd artiffisial i brosesau BBaCh i greu mwy o werth a gwella perfformiad drwy wella cynhyrchion, gwasanaethau cynyddrannol a manteisio ar gyfleoedd yn fwy effeithlon.

Mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn BBaChau gwledig

Ar y cyfan, mae deallusrwydd artiffisial mewn BBaChau gwledig yng Nghymru yn broses sy’n digwydd gam wrth gam. Er bod y newid a all ddod yn sgil deallusrwydd artiffisial fod yn enfawr, mae cyflwyno’r dechnoleg ar raddfa fach gam wrth cam mewn prosesau, gwaith gweinyddol, a meysydd technolegol, fel taenu gwrtaith, yn gallu cynnig budd uniongyrchol a dramatig i BBaChau a'u heconomïau cyfagos.

I fusnesau gwledig sy’n mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ledled y DU, cynhyrchu ac adeiladu oedd â’r nifer uchaf yn manteisio ar y dechnoleg (45.1%), ac yna gwasanaethau busnes (29.6%), trafnidiaeth, manwerthu a gwasanaethau bwyd/llety (18.31%) a gwasanaethau eraill (7.0%).

Mae nifer o ffactorau sy'n ysgogi BBaChau gwledig i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Yn fras, y rhain yw ffactorau BBaChau, ffactorau allanol, yn ogystal â'r dechnoleg ei hun sy'n ysgogi’r gyfradd fabwysiadu. Mae hyn yn ogystal â pharodrwydd BBaChau i ymgysylltu â rhwydweithiau.

Gall llunwyr polisïau gymryd camau ym mhob un o’r meysydd hyn i helpu i bontio i Gymru gynhwysol lle mae gwaith BBaChau wedi’i wella gan ddeallusrwydd artiffisial.

Ffigur 2: Ffactorau sy'n ysgogi BBaChau gwledig i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial

Diagram yn dangos y tri phrif ffactor sy'n effeithio ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan BBaChau. Y tri ffactor, clocwedd o'r brig, yw ymgysylltu â rhwydwaith, ffactorau sy'n seiliedig ar gwmnïau, a ffactorau allanol.

O fewn y BBaCh, mae'r gallu i ymgymryd â phrosesau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial yn gymharol hawdd.

Ychydig iawn o hyfforddiant sydd ei angen ar staff i ddechrau defnyddio’r dechnoleg fesul cam gan ddefnyddio'r nifer o becynnau sydd ar gael yn rhwydd. Gall awtomeiddio tasgau gweinyddol fod yn gymharol syml, sy’n golygu y gall rhwystrau traddodiadol o fewn BBaChau fod yn llai o ffactor.

Fodd bynnag, mae cynlluniau busnes a chyfeiriad strategol yn dylanwadu ar y gyfradd fabwysiadu. Mae profiadau blaenorol gydag arloesi hefyd yn ffactorau allweddol sy’n cynyddu’r gyfradd fabwysiadu.

Mae cynaliadwyedd ac agweddau gwyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar y gyfradd fabwysiadu. Po fwyaf cynaliadwy y bydd y BBaCh yn tueddu i fod, y mwyaf tebygol ydyw o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial.

Yma daw paradocs i’r amlwg o ran defnydd o ynni, gyda phobl yn defnyddio deallusrwydd artiffisial am resymau amgylcheddol, ond mae’r dechnoleg yn gyffredinol yn defnyddio llawer iawn o ynni i gynhyrchu allbynnau. Yn y pen draw mae'r gallu i weithredu mewn modd sy’n ystyriol o’r amgylchedd yn cael effaith gadarnhaol ar y gyfradd fabwysiadu.

Nodwyd bod rhwydweithiau yn un ffordd o annog BBaChau gwledig i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Mae rhwydweithiau gwledig yn wynebu heriau logistaidd a demograffig, ond gallai'r rhain fod yn fecanweithiau effeithiol i’w galluogi i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial.

Ystyriaethau polisi deallusrwydd artiffisial

Mae angen i bolisïau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial mewn BBaChau gwledig yng Nghymru ystyried sawl ffactor. Mae'n rhaid i'r polisi a ddatblygir dargedu'r rhai sy'n llai arloesol, yn cael eu hysgogi llai gan ffactorau’n ymwneud â’r amgylchedd, ac yn llai strategol o ran eu ffordd o feddwl.

Dylai cymorth fod â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o oblygiadau cadarnhaol a negyddol posibl mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, a hybu defnydd mewn BBaChau gwledig.

Mae ymchwil yn awgrymu y bydd deallusrwydd artiffisial yn newid elfennau o fyd gwaith ond efallai na fydd yn disodli swyddi. Mae arloesi cynyddol o ran prosesau, sy'n gwella cynhyrchiant drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial, yn bosibl ac yn gymharol hawdd oherwydd bod y dechnoleg yn syml ac yn hygyrch.

Mae angen i'r polisi ystyried faint o ynni a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth deallusrwydd artiffisial a'r bwlch digidol ehangach yng Nghymru. Bydd angen gwell darpariaeth ynni a digidol ar BBaChau gwledig i gystadlu â sefydliadau trefol cyfatebol.

Gellid penodi hyrwyddwyr ac arddangoswyr mewn rhwydweithiau gwledig presennol, megis Cyswllt Ffermio, i arddangos y dechnoleg. Gallai'r enghraifft o 'hyrwyddwr' o fewn cymunedau lleol ddylanwadu ar eraill yn y gymuned wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o'r ffyrdd y gellid cymhwyso deallusrwydd artiffisial o fewn eu busnes.

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddangos ac asesu defnydd yw drwy rwydweithiau. Gall rhwydweithiau mewn ardaloedd gwledig fod yn amrywiol ac yn aml yn dangos tuedd tuag at rai sy’n ymgysylltu’n rheolaidd, felly dylid targedu’r rhai sy’n anoddach eu cyrraedd hefyd.

Casgliad

Mae canfyddiadau o'n hymchwil yn awgrymu bod gan fusnesau bach a chanolig gwledig gyfradd fabwysiadu isel o ran technoleg deallusrwydd artiffisial, yn enwedig yng Nghymru, a gallai mwy o ymwybyddiaeth o fanteision technoleg deallusrwydd artiffisial gefnogi busnesau bach a chanolig gwledig i’w mabwysiadu.

Er bod dadleuon yn bodoli ynghylch i ba raddau y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei fabwysiadu yn y gymdeithas, mae llawer o fusnesau eisoes yn defnyddio’r dechnoleg yn effeithiol, felly gallai diffyg mabwysiadu arwain at sefyllfa lle bydd rhai busnesau ar ei hôl hi.

Gellir gweld technoleg deallusrwydd artiffisial o lefelau defnydd sylfaenol, fel defnyddio ChatGPT i gefnogi gweithgareddau busnes, i lefelau uwch fel gweithgareddau awtomeiddio.

Gall rôl rhwydweithiau gefnogi defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial drwy roi gwybodaeth i fusnesau gwledig am sut y gellir mabwysiadu’r dechnoleg yn effeithiol o fewn y busnes, a thrwy annog cyfradd fabwysiadu ehangach drwy enghreifftiau o arferion da gan hyrwyddwyr lleol.


Paratowyd yr erthygl wadd hon gan Dr David Dowell, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol St Andrews, Dr Robert Bowen, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd a Dr Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd, Prifysgol Aberystwyth.

Barn Dr Dowell, Dr Bowen a Dr Morris yw’r holl safbwyntiau ac nid barn Ymchwil y Senedd.

Mae’r awduron yn arbennig o ddiolchgar i’r Adran Busnes a Masnach a’r Ganolfan Ymchwil Menter am ddarparu cyllid ar gyfer yr astudiaeth.

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol St Andrews, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth a alluogodd Dr Dowell, Dr Bowen a Dr Morris i lunio’r papur briffio hwn.