Faint mae Cymru yn ei allforio, a ble mae'n mynd?
Mae'r inffograffeg canlynol yn dangos rhai o'r pwyntiau allweddol yn ymwneud ag allforion Cymru yn 2016.
Beth am amaethyddiaeth Cymru?
Mae'r data allforio uchod yn tynnu sylw at rôl o allforion yr UE yn y sector amaethyddol. Bu diddordeb arbennig yn nyfodol cig oen o Gymru ar ôl gadael yr UE, a dyfalu ynghylch a fydd cytundeb masnach newydd gyda Seland Newydd yn dod â chystadleuaeth galed gan gig oen o Seland Newydd. Nid yw Ystadegau Masnach Rhanbarthol Cyllid a Thollau EM yn ddigon manwl i edrych ar gig oen yn benodol, ac nid ydynt yn cynnwys allforion o Gymru i weddill y DU. Fodd bynnag, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi darparu amcangyfrifon ynghylch i ble y mae cig oen o Gymru yn mynd. HCC yw'r corff dan arweiniad y diwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, marchnata a hyrwyddo cig coch o Gymru.
Sut y caiff masnach ei dyrannu i'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr?
Gwneir nifer o ragdybiaethau methodolegol i ddyrannu masnach i'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Ceir rhagor o fanylion ar y fethodoleg Ystadegau Masnach Rhanbarthol ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae dau newid methodolegol diweddar wedi effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gallai'r fod yn bwysig cadw’r newidiadau hyn mewn cof wrth ddefnyddio'r Ystadegau Masnach Rhanbarthol. Mae'n arbennig o bwysig wrth gymharu data o wahanol gyfnodau neu wahanol ffynonellau, oherwydd y gallai fod na fydd tueddiadau ar yr wyneb yn adlewyrchiad cywir o newidiadau gwirioneddol. Daeth y newid cyntaf i rym ym mis Mai 2016 o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol ynghylch y ffordd y caiff nwyddau eu datgan i'r Tollau. Mae'n ymwneud â'r pwynt lle caiff nwyddau eu cofnodi – naill ai wrth iddynt fynd i mewn warws tollau (y sail flaenorol 'Masnach Gyffredinol'), neu wrth iddynt adael (y sail 'Masnach Arbennig' sydd newydd ei mabwysiadu). Mae nifer o newidiadau eraill a gyflwynwyd yn chwarter 3 2016 yn cynnwys ffordd newydd o ddyrannu masnach i ranbarthau. O dan y fethodoleg flaenorol, roedd y dyraniadau'n seiliedig ar leoliad y brif swyddfa. Mae'r fethodoleg newydd yn dyrannu masnach yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion mewn rhanbarth penodol. Mae hyn yn lleihau'r 'camwyriad prif swyddfa', lle ceir tueddiad tuag at wledydd a rhanbarthau â nifer uchel o brif swyddfeydd cwmnïau. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi bod newydd y fethodoleg wedi cael effaith fawr ar ystadegau masnach Cymru. Gan ddefnyddio'r hen fethodoleg, aeth 39.2% o allforion Cymru i'r UE yn y pedwar chwarter sy'n dod i ben ym Mehefin 2016. O dan y fethodoleg newydd, aeth 67.4% o allforion Cymru i'r UE dros yr un cyfnod.Erthygl gan Jeni Spragg, David Millett a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau. Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Rhanbarthol CThEM Ffynhonnell: HCC Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Deall allforion Cymru: golwg ar yr Ystadegau Masnach Rhanbarthol diweddaraf (PDF, 366KB)