Faint mae Cymru yn ei allforio, a ble mae'n mynd?
Mae'r inffograffeg canlynol yn dangos rhai o'r pwyntiau allweddol yn ymwneud ag allforion Cymru yn 2016. Mae'r data ar gyfer y flwyddyn 2016. Mynegir masnach yn nhermau gwerth ariannol. Caiff masnach ei dyrannu i ranbarthau yn y DU yn ôl y fethodoleg Ystadegau Masnach Rhanbarthol a drafodir yn fanylach isod. Mae 'heb ei dyrannu – anhysbys' yn cynnwys y nwyddau hynny lle nad oes digon o fanylion yn hysbys er mwyn eu dyrannu i ranbarth. Mae 'heb ei dyrannu - hysbys' yn cynnwys nwyddau lle mae'r manylion llawn yn hysbys, ond lle mae'n afrealistig dyrannu hyn i ranbarth penodol. Nid yw'r rhan 'UE' o allforion Cymru yn cynnwys rhanbarthau eraill y DU, gan fod ystadegau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gofnod o fasnach y DU â gwledydd y tu allan i'r DU. Mae'r categorïau fel y'u diffinnir gan godau Dosbarthiad Masnach Ryngwladol Safonol y Cenhedloedd Unedig. Mae 'cig' yn cyfeirio at bob math o gig a pharatoad cig, gan gynnwys cig coch a gwyn.Beth am amaethyddiaeth Cymru?
Mae'r data allforio uchod yn tynnu sylw at rôl o allforion yr UE yn y sector amaethyddol. Bu diddordeb arbennig yn nyfodol cig oen o Gymru ar ôl gadael yr UE, a dyfalu ynghylch a fydd cytundeb masnach newydd gyda Seland Newydd yn dod â chystadleuaeth galed gan gig oen o Seland Newydd. Nid yw Ystadegau Masnach Rhanbarthol Cyllid a Thollau EM yn ddigon manwl i edrych ar gig oen yn benodol, ac nid ydynt yn cynnwys allforion o Gymru i weddill y DU. Fodd bynnag, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi darparu amcangyfrifon ynghylch i ble y mae cig oen o Gymru yn mynd. HCC yw'r corff dan arweiniad y diwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, marchnata a hyrwyddo cig coch o Gymru. O ran cig oen o Gymru sy'n cael ei allforio i'r UE, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Sgandinafia yw'r mewnforwyr mwyaf. Mae allforion y tu allan i'r UE yn gymharol fach, yn bennaf i'r Swistir, Canada, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Hong Kong. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o lawer o gymunedau yng Nghymru. Yn 2015, roedd y 'sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota' yn cyfrif am 3% o gyflogaeth. Fodd bynnag, roedd y gyfran hon yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd. Er enghraifft, y gyfran ym Mhowys oedd 16%, a'r gyfran yng Ngheredigion oedd 11%.Sut y caiff masnach ei dyrannu i'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr?
Gwneir nifer o ragdybiaethau methodolegol i ddyrannu masnach i'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Ceir rhagor o fanylion ar y fethodoleg Ystadegau Masnach Rhanbarthol ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae dau newid methodolegol diweddar wedi effeithio ar y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gallai'r fod yn bwysig cadw’r newidiadau hyn mewn cof wrth ddefnyddio'r Ystadegau Masnach Rhanbarthol. Mae'n arbennig o bwysig wrth gymharu data o wahanol gyfnodau neu wahanol ffynonellau, oherwydd y gallai fod na fydd tueddiadau ar yr wyneb yn adlewyrchiad cywir o newidiadau gwirioneddol. Daeth y newid cyntaf i rym ym mis Mai 2016 o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol ynghylch y ffordd y caiff nwyddau eu datgan i'r Tollau. Mae'n ymwneud â'r pwynt lle caiff nwyddau eu cofnodi – naill ai wrth iddynt fynd i mewn warws tollau (y sail flaenorol 'Masnach Gyffredinol'), neu wrth iddynt adael (y sail 'Masnach Arbennig' sydd newydd ei mabwysiadu). Mae nifer o newidiadau eraill a gyflwynwyd yn chwarter 3 2016 yn cynnwys ffordd newydd o ddyrannu masnach i ranbarthau. O dan y fethodoleg flaenorol, roedd y dyraniadau'n seiliedig ar leoliad y brif swyddfa. Mae'r fethodoleg newydd yn dyrannu masnach yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion mewn rhanbarth penodol. Mae hyn yn lleihau'r 'camwyriad prif swyddfa', lle ceir tueddiad tuag at wledydd a rhanbarthau â nifer uchel o brif swyddfeydd cwmnïau. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi bod newydd y fethodoleg wedi cael effaith fawr ar ystadegau masnach Cymru. Gan ddefnyddio'r hen fethodoleg, aeth 39.2% o allforion Cymru i'r UE yn y pedwar chwarter sy'n dod i ben ym Mehefin 2016. O dan y fethodoleg newydd, aeth 67.4% o allforion Cymru i'r UE dros yr un cyfnod.Erthygl gan Jeni Spragg, David Millett a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau. Ffynhonnell: Ystadegau Masnach Rhanbarthol CThEM Ffynhonnell: HCC Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Deall allforion Cymru: golwg ar yr Ystadegau Masnach Rhanbarthol diweddaraf (PDF, 366KB)