Mae dechrau blwyddyn academaidd newydd yn adeg bwysig i'r rhai sydd yn eu blwyddyn olaf yn y chweched dosbarth neu'r coleg, gyda dysgwyr ifanc yn meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf.
Ar ddiwedd 2023/24, dewisodd dros dri chwarter o'r rhai a adawodd flwyddyn 13 o chweched dosbarth a gynhelir neu ysgol arbennig ôl-16 barhau mewn addysg amser llawn. Yn yr erthygl hon, rydym yn nodi dyddiadau pwysig y gallai fod angen i ddysgwyr o'r fath fod yn ymwybodol ohonynt cyn gwneud cais i addysg uwch. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y mae'r data yn ei ddangos am y dewisiadau y mae dysgwyr wedi bod yn eu gwneud.
Cyrchfannau myfyrwyr
Mae data hynt disgyblion diweddaraf Gyrfa Cymru ar gyfer dysgwyr sy'n gadael blwyddyn 13 o chweched dosbarth a gynhelir neu ysgol arbennig ôl-16 yn dangos, ym mlwyddyn academaidd 2023/24, y dewisodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr barhau mewn addysg amser llawn.
Tabl 1: Cyrchfannau myfyrwyr wrth adael Blwyddyn 13 yn 2024 o chweched dosbarth a gynhelir neu ysgol arbennig
Gweithgaredd | Cyfanswm | Canran |
---|---|---|
Yn parhau mewn addysg amser llawn | 7,425 | 76.7% |
Yn parhau mewn addysg rhan amser (llai na 16 awr yr wythnos) | 52 | 0.5% |
Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws anghyflogedig | 37 | 0.4% |
Hyfforddiant seiliedig ar waith - statws cyflogedig | 278 | 2.9% |
Cyflogedig - Arall | 1,200 | 12.4% |
Ddim mewn addys, cyflogaeth na hyfforddiant | 309 | 3.2% |
Dim ymateb i'r arolwg | 351 | 3.6% |
Wedi gadael yr ardal | 31 | 0.3% |
Ffynhonnell:Gyrfa Cymru, Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2024
O'r 7,425 o ddysgwyr hynny sy'n parhau mewn addysg amser llawn, mae'r mwyafrif yn parhau mewn addysg uwch.
Tabl 2: Dadansoddiad o gychfannau myfyrwyr sy'n parhau i addysg amser llawn ym mlwyddyn academaidd 2023/24
Gweithgaredd | Cyfanswm | Canran |
---|---|---|
Yn Parhau i Flwyddyn 14 mewn Ysgol 11-18 | 446 | 6% |
Disgyblion sy'n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 sy'n parhau mewn colegau Addysg Bellach | 635 | 8.6% |
Blwyddyn 13 yn parhau mewn addysg uwch | 6,252 | 84.2% |
Blwyddyn 13 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i addysg uwch | 92 | 1.2% |
Ffynhonnell:Gyrfa Cymru, Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2024
Dyddiadau pwysig i'r rhai sy'n ystyried mynd i addysg uwch
Mae llawer o fyfyrwyr sy'n dewis mynd i'r brifysgol yn gwneud cais drwy UCAS. Mae'n cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau perthnasol ar ei wefan, gan gynnwys cymorth i ddarganfod pynciau a phrifysgolion, gwybodaeth am sut i wneud cais i'r brifysgol, a chyngor ar arian a bywyd myfyrwyr.
Mae UCAS hefyd yn amlinellu dyddiadau a dyddiadau cau pwysig i ddarpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol ohonynt, mae'r rhain yn cynnwys:
- 15 Hydref (18:00): Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ac ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau mewn meddygaeth, deintyddiaeth, a meddygaeth/gwyddor filfeddygol.
- 14 Ionawr (18:00): Dyddiad ystyriaeth gyfartal (lle mae'n rhaid i ddarparwyr cyrsiau roi ystyriaeth gyfartal i bob cais sy’n dod i law erbyn y dyddiad) ar gyfer ceisiadau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig.
- 26 Chwefror: Extra yn agor. Mae UCAS Extra yn caniatáu i ymgeiswyr gael cyfle arall i ennill lle mewn prifysgol neu goleg os yw'r pum dewis i gyd wedi'u defnyddio ar gais gwreiddiol ac nad oes unrhyw gynigion wedi dod i law (ceir rhagor o wybodaeth am UCAS Extra yma).
- 2 Gorffennaf: Clirio yn agor (mae rhagor o wybodaeth am glirio ar gael yma).
Mae rhagor o wybodaeth am ddyddiadau allweddol ar gael ar wefan UCAS, gan gynnwys pryd y mae'n rhaid i fyfyrwyr ymateb i unrhyw gynigion sy’n dod i law.
Bydd gwybodaeth am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2026/27 ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae ceisiadau i Cyllid Myfyrwyr Cymru yn agor ym mis Mawrth fel arfer. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi canllawiau cyllid myfyrwyr, sy'n cynnwys gwybodaeth i'r rhai sy'n mynd i addysg uwch. Noder, gan fod y canllawiau'n nodi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, efallai y bydd newidiadau ar gyfer 2026/27.
Ble mae dysgwyr o Gymru yn dewis astudio?
Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn cyhoeddi data myfyrwyr addysg uwch yn flynyddol, gyda'r cyhoeddiad diweddaraf ym mis Ebrill 2025 yn cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr o flwyddyn academaidd 2023/24. Mae'r data hyn ar gyfer myfyrwyr o bob oed ac yn cynnwys gwybodaeth ynghylch o ble mae myfyrwyr Addusg Uwch yn dod. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr sydd â chyfeiriad parhaol yn y DU yn ogystal â'r rhai o wledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE.
Roedd cyfanswm o 103,185 o fyfyrwyr o Gymru wedi cofrestru gyda darparwr addysg uwch yn y DU ar gyfer 2023/24. O'r myfyrwyr hyn, roedd 68,940 (66.8%) wedi cofrestru gyda darparwr addysg uwch yng Nghymru (67,520 o'r rhain mewn prifysgol yng Nghymru a 1,425 mewn math arall o ddarparwr yng Nghymru).
Mewn cymhariaeth, roedd 95.5% o fyfyrwyr o Loegr wedi cofrestru gyda darparwr addysg uwch yn Lloegr, astudiodd 94.1% o fyfyrwyr o’r Alban gyda darparwr addysg uwch yn yr Alban ac mae 75.5% o fyfyrwyr o Ogledd Iwerddon yn mynychu darparwr addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.
Wrth ystyried myfyrwyr newydd yn unig, roedd 45,290 o fyfyrwyr o Gymru yn dechrau mewn addysg uwch yn 2023/24, ac o'r rhain dewisodd 32,005 (70.7%) wneud hynny gyda darparwr addysg uwch yng Nghymru. Yn Lloegr, dewisodd 95.7% o fyfyrwyr newydd gofrestru gyda darparwr addysg uwch yn Lloegr, dewisodd 93.6% o fyfyrwyr newydd o'r Alban astudio yn yr Alban ac roedd 78.0% o fyfyrwyr newydd Gogledd Iwerddon wedi cofrestru gyda darparwr addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.
Tabl 3: Symudiadau trawsffiniol myfyrwyr sy'n mynd i addysg uwch (myfyrwyr newydd), i mewn ac allan o Gymru
Domisil | Gwlad y darparwr addysg uwch | Nifer | Canran (o fyfyrwyr o'r domisil) |
---|---|---|---|
Cymru | Cymru | 32,005 | 70.7% |
Cymru | Lloegr | 12,810 | 28.3% |
Cymru | Yr Alban | 385 | 0.9% |
Cymru | Gogledd Iwerddon | 90 | 0.2% |
Lloegr | Cymru | 21,550 | 2.9% |
Yr Alban | Cymru | 165 | 0.2% |
Gogledd Iwerddon | Cymru | 210 | 0.9% |
Ffynhonnell:HESA, HE Student Data: Where do HE students come from?
Er mai dim ond gwybodaeth am y rhai sy'n astudio yn y DU y mae HESA yn ei chasglu, mae cyfleoedd hefyd i ddysgwyr gwblhau eu hastudiaethau dramor. Mae gan UCAS ganllawiau ar gael i'r rhai sy’n ystyried astudio y tu allan i'r DU.
Data a gaiff eu rhyddhau drwy gydol y flwyddyn
Mae amrywiaeth o ddatganiadau data a chyhoeddiadau ystadegol ar gael drwy gydol y flwyddyn sy'n ymwneud â myfyrwyr yng Nghymru sy'n ymgymryd ag addysg uwch.
Yn ogystal â'r uchod, mae data myfyrwyr addysg uwch HESA hefyd yn nodi gwybodaeth am y cymwysterau a gyflawnwyd gan y rhai a aeth i addysg uwch. At hynny, mae'n cyhoeddi ystadegau blynyddol ar ganlyniadau graddedigion, yn cwmpasu gweithgareddau graddedigion, cyflogau a lleoliadau gwaith. Mae’r diweddaraf yn ymwneud â'r rhai a raddiodd ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2022/23, lle roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr mewn cyflogaeth amser llawn (59%).
Mae UCAS yn cyhoeddi data ar y dyddiad cau diweddaraf am geisiadau, sy'n rhoi crynodeb o nifer yr ymgeiswyr ar bob dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (Hydref, Ionawr a Mehefin). Mae hefyd yn cyhoeddi data clirio a data diwedd y cylch, sy'n ystyried crynodeb o nifer yr ymgeiswyr ar ddiwedd pob cylch ymgeisio blynyddol.
Mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cyhoeddi ystadegau ar gymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Mae’r diweddaraf yn rhoi trosolwg cynnar yn y flwyddyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ar 31 Hydref 2024, talwyd 68,600 o ymgeiswyr/myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, lle roedd y swm a ddyfarnwyd/a dalwyd yn £341.5 miliwn.
Mae Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, yn cyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud ag addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr mewn addysg uwch (gan gynnwys cofrestriadau a chymwysterau). Yn 2023/24, roedd Cymru yn fewnforiwr net o fyfyrwyr amser llawn o weddill y DU. Roedd 27,785 o fyfyrwyr amser llawn o Gymru yn astudio mewn mannau eraill yn y DU o gymharu â 45,045 o fyfyrwyr amser llawn o wledydd eraill y DU yn astudio gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru.
Mae Medr hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol. Mae'r data dros dro diweddaraf yn dangos bod 90% o ddysgwyr wedi symud ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol. Nid yw'r ystadegau am ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd. Fodd bynnag, mae datganiad nesaf Medr ar fyfyrwyr mewn addysg uwch i fod i gael ei gyhoeddi rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026. Mae Medr yn amlinellu amserlen gyhoeddi ystadegol, sydd hefyd yn manylu ar ystadegau eraill am addysg uwch.
Dewisiadau a chanlyniadau eraill
Er mai parhau i addysg uwch yw'r dewis mwyaf cyffredin i'r rhai sy'n gadael Blwyddyn 13 mewn chweched dosbarth a gynhelir neu ysgol arbennig ôl-16 yng Nghymru, nid dyma'r unig ddewis. Ystyriwyd llwybrau eraill yn ddiweddar mewn gwaith a gynhaliwyd gan y Senedd gan gynnwys adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Lwybrau Prentisiaeth, a ganfu y gallai llawer o bobl ifanc fod yn ansicr o ran sut i fynd ar drywydd prentisiaeth fel llwybr addysgol.
Bydd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Lwybrau at Addysg a Hyfforddiant ôl-16, yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.
Erthygl gan Dr. Thomas Morris, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.