Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru – Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau
Ar 5 Mehefin 2018, cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd adroddiad ‘Imprisonment in Wales: A Factfile’ (Saesneg yn unig), sef cyfres o ddata yn benodol i Gymru sy'n edrych ar y system carchardai. Mae'r adroddiad yn ychwanegu at y deunydd darllen academaidd ac yn cynyddu dadl gyhoeddus ar ddatganoli cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Yn benodol, mae'n ceisio cyfrannu at ddadleuon ynghylch y dirwedd gosbi bresennol ac yn y dyfodol yng Nghymru.
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Hydref 2018.
Ystâd Carchardai Cymru
Dynion yn unig yw poblogaeth carcharorion yng Nghymru, ac roedd 4,424 ohonynt ar ddiwedd mis Awst 2018 (Ystadegau Poblogaeth Carchardai y Weinyddiaeth Gyfiawnder). Caiff carcharorion eu cadw ar draws pum ystâd yng Nghymru, ac mae gan bob carchar broffil, swyddogaeth a chategori diogelwch gwahanol. Nid oes unrhyw garchar i fenywod yng Nghymru, ac mae'n rhaid i nifer o garcharorion benywaidd fynd i garchar yn CEM Eastwood Park neu CEM Styal yn Swydd Gaer, ac ychydig iawn o ddarpariaeth sydd ar gael i droseddwyr ifanc.
Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn nodi bod capasiti carchardai wedi cynyddu'n gyson ers 2010. Dywed, yn dilyn adeiladu 'bloc tŷ' newydd ar y safle presennol yn 2015, mai CEM Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw un o'r carchardai mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Awst 2018, roedd cyfanswm o 1,617 o garcharorion yno. Yn sgil agor CEM Berwyn yn y gogledd, cynyddwyd y capasiti carchardai yng Nghymru ymhellach, a disgwylir i'r carchar hwnnw allu cynnig lle i 2,100 o garcharorion, gan olygu mai hwnnw fydd carchar mwyaf y Deyrnas Unedig
Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys y rhai canlynol:
Mae carchardai yng Nghymru yn perfformio'n waeth na charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch. Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau mewn carchardai a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch na charchardai yn Lloegr ers 2010.
Roedd mwy o aflonyddwch yn y carchar yn CEM Parc yn 2016 a 2017 nag unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr.
Er bod cynnydd wedi bod yng nghapasiti carchardai yng Nghymru, roedd 39% o holl garcharorion Cymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr yn 2017. Mewn nifer fawr o achosion, roedd carcharorion Cymru yn cael eu rhoi mewn sefydliadau sy'n bell iawn o adref; roedd carcharorion Cymru yn cael eu cadw mewn 108 o garcharorion gwahanol yn 2017.
Mae nifer y menywod yng Nghymru sydd wedi cael dedfrydau o garchar ar unwaith wedi cynyddu bron i un rhan o bump ers 2011. Mae'r rhan fwyaf o fenywod Cymru sydd wedi'u dedfrydu i'r ddalfa ar unwaith wedi eu cael yn euog o droseddau nad ydynt yn rhai treisgar. Roedd tri chwarter o holl fenywod Cymru a gafodd dedfrydau o garchar ar unwaith yn 2016 wedi cael dedfrydau o lai na 6 mis; mae'r gyfradd hon yn uwch na chyfanswm Cymru a Lloegr.
Mae nifer y plant yng Nghymru sydd yn y ddalfa wedi gostwng 72% ers 2010. Roedd 45% o holl blant Cymru sydd yn y ddalfa yn cael eu cadw mewn sefydliadau yn Lloegr yn ystod 2017. Yn sgil y pellter sy'n wynebu plant mewn carchar, dangoswyd bod hynny'n lleihau nifer yr ymweliadau gan deuluoedd, yn rhwystro gwasanaethau cymorth 'drwy'r giât', ac yn cynyddu'r ymdeimlad o ddieithrio ac unigedd y mae plant yn eu profi yn y carchar.
A yw'r adroddiad hwn yn arwyddocaol?
Mae'r adroddiad ‘Imprisonment in Wales’ yn cynnig trosolwg ystadegol o'r system garchardai, gan ddarparu, am y tro cyntaf, data ‘Cymru yn unig’ wedi'i ddatgrynhoi i helpu i graffu'n well ar sut mae'r system carchardai yn gweithio. Mae wedi cael ei gyhoeddi yn amserol wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU adolygu polisi cyfiawnder yng Nghymru.
Mae Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wrthi'n cynnal ymchwiliad ar ddarpariaeth carchardai yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth i garcharorion benywaidd a charcharorion ifanc, darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mewn carchardai, materion trawsffiniol gan gynnwys lleoli carcharorion o Gymru mewn carchardai yn Lloegr, a'r potensial am garcharorion newydd yng Nghymru.
Yng Nghymru, sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ym mis Medi 2017 gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, i adolygu gwaith gweithredu'r system gyfiawnder, ac i ystyried pa drefniadau sydd angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan Gymru system gyfiawnder sy'n addas i'r diben. Disgwylir iddo adrodd yn 2019.
At hynny, mae dadleuon diweddar yn y Cyfarfod Llawn wedi amlygu pryderon o ran diogelwch mewn carchardai a'r lefelau cynyddol o drais mewn carchardai yng Nghymru, yn ogystal â chryfder y gwrthwynebiad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu capasiti carchardai drwy adeiladu carchardai newydd yng Nghymru, yn arbennig 'archgarchar' newydd yng Nghymru ar safle ym Mhort Talbot.
Atebolrwydd gwleidyddol dros gyfiawnder troseddol yng Nghymru
Yn bwysig, mae'r adroddiad yn cyfrannu hefyd at y ddadl barhaus ynghylch polisi cosbi yng Nghymru, ac atebolrwydd gwleidyddol ar gyfer cyfiawnder troseddol o dan y setliad datganoli newydd yn Neddf Cymru 2017.
Mae nifer o heriau sylweddol i'r Gwasanaeth Carchardai ac nid yw'r materion hyn yn unigryw i Gymru. Mae adroddiadau diweddar yn amlygu heriau yn ymwneud â diogelwch carchardai, iechyd meddwl mewn carchardai, pobl hŷn, defnydd o sylweddau seicoweithredol, bregusrwydd menywod yn y system cyfiawnder troseddol a charcharorion trawsryweddol.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2016, ‘Prison Safety and Reform’ yn nodi sut y bydd rhai o'r heriau hyn yn cael eu datrys a'r effaith ar Gymru a charcharorion Cymru y bydd angen eu hystyried. Fodd bynnag, er mai Llywodraeth y DU yn sicr sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â nifer o'r materion hyn, mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad sylweddol dros nifer ohonynt, gan gynnwys cyfrifoldeb datganoledig dros ofal iechyd mewn carchardai, mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, diogelu plant, addysg mewn carchardai a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'n ein hatgoffa, er y berthynas gymhleth rhwng cyfrifoldebau datganoledig a rhai sydd heb eu datganoli (a all ei wneud yn anodd i gyrff cyhoeddus), y gall polisïau a deddfwriaeth a wneir yng Nghymru effeithio ar gyfiawnder troseddol.
Er enghraifft, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer anghenion gofal a chymorth i oedolion a phlant yn y carchar, canolfannau cadw ieuenctid neu ganolfannau mechnïaeth.
Gellir dadlau, yn ganolbwynt i'r ddadl hon ynghylch carcharu yng Nghymru y mae mater atebolrwydd sy'n dal i fod angen ei ddatrys, ac mae'r adroddiad hwn yn cyfrannu at hynny. Fel mae adroddiad blaenorol Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi'i amlygu, mae gwaith craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, heb os, yn dameidiog gan nad oes Gweinidog Cyfiawnder yng Nghymru, ac nad oes gan unrhyw Bwyllgor gyfrifoldeb penodol dros gyfiawnder. Felly, mae'r ddadl a gynhelir ddydd Mawrth yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad graffu ar ddull Llywodraeth Cymru ar gyfer carcharu yng Nghymru, a'u dal i gyfrif ar feysydd cyfrifoldeb datganoledig o fewn yr ystâd carchardai yng Nghymru.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru