Datganoli Rhannol o'r Dreth Incwm i Gymru: Beth sydd angen i mi ei wybod?

Cyhoeddwyd 07/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

7 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Christian Tipples a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4245" align="alignnone" width="640"]Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar 25 Tachwedd 2015, wedi disgwyl mawr, cyhoeddodd George Osborne, y Canghellor, Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref. Yn ei ddatganiad, cafwyd cyhoeddiad annisgwyl am dreth incwm yn cael ei datganoli yn rhannol i Gymru heb yr angen am refferendwm. Beth yw treth incwm? Treth incwm yw'r hyn a delir gennych ar eich incwm, fel cyflog a'r rhan fwyaf o bensiynau. Mae wedi ei rhannu'n dair cyfradd wahanol ac ar hyn o bryd fe'i telir i Lywodraeth y DU:
  1. Y Gyfradd Sylfaenol
  2. Y Gyfradd Uwch
  3. Y Gyfradd YchwanegolMae'r hyn y mae'r trethdalwr yn gorfod ei dalu ar ôl i'r lwfans personol gael ei ystyried i'w weld isod.
Current IT Cym Sut y gall treth incwm gael ei datganoli yn rhannol? Ym mhob cyfradd treth incwm, bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gasglu 10c, gyda Llywodraeth y DU yn casglu'r gweddill, fel yr esbonnir isod. Devolved IT Cym Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb am Gyllidebau (OBR) yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn casglu £2 biliwn oddi wrth drethdalwyr Cymru i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Pam yr oedd angen i Gymru gynnal refferendwm? Mae Deddf Cymru 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynnal refferendwm i benderfynu a yw pobl Cymru yn cefnogi datganoli pwerau treth incwm. Yn Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn gwrthdroi'r penderfyniad hwn, gyda Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn trydar "I will amend (the) Wales Bill to remove (the) referendum block on Welsh tax powers. Wales needs a more accountable & effective Assembly." Bydd angen cynnal trafodaethau i bennu ai mater o drosglwyddo pwerau fydd hi ynteu a fydd angen i'r Cynulliad bleidleisio ar y mater. Beth mae hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru? Er mwyn ateb hyn, rhaid i ni edrych ar y goblygiadau yn y tymor byr a'r tymor hir. Y tymor byr Ni fydd effaith ar drethdalwr Cymru yn y tymor byr. Bydd angen trafodaethau manwl rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am y modd y caiff pwerau treth incwm eu datganoli i Gymru. Mwy na thebyg, bydd hyn yn broses hir o ystyried y materion cymhleth y bydd angen rhoi sylw iddynt. Y tymor hir Os caiff treth incwm ei datganoli yn rhannol i Gymru, yna bydd gan Lywodraeth Cymru'r gallu i godi neu ostwng cyfraddau'r dreth incwm. Amcangyfrifwyd pe bai'r Llywodraeth yn codi neu'n gostwng cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1c, byddai'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o tua £165 miliwn - £180 miliwn yn y cyllid ar gyfer Cymru, er y gallai newidiadau ymddygiadol leihau'r effaith hon ychydig. Mae'n rhy gynnar i ragweld beth y bydd y Llywodraeth yn ei wneud os caiff pwerau treth incwm eu datganoli a sut y bydd yn effeithio ar drethdalwyr, ond mae'n bosibl y byddai amrywiaeth o fanteision i Gymru, megis:
  • Gwella atebolrwydd ariannol Llywodraeth Cymru
  • Rhoi mwy o reolaeth i'r Llywodraeth ar ei chyllideb ei hun
  • Rhoi cyfle i Gymru gyflwyno polisïau treth mwy graddedig i gefnogi meysydd fel datblygu economaidd
Ni olyga hynny nad oes risgiau o ran datganoli pwerau treth incwm. Mae erthygl a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan yn eu trafod mewn mwy o fanylder. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg