Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.
- Yn 2017, amcangyfrifir bod 3.125 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, sef cynnydd o 225,000 o bobl (neu 7.7%) ers 1999.
- Y prif ffactor a gyfrannodd at y twf mewn poblogaeth yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf oedd pobl yn symud o fewn y DU, yn bennaf o Loegr i Gymru.
- Rhwng 2001 a 2011, gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy'n dweud mai eu grŵp ethnig yw Gwyn Prydeinig o 96.0% i 93.2%, a chynyddodd y ganran a ddywed eu bod yn dod o grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn (gan gynnwys grwpiau cymysg) o 2.1% i 4.0%.
- Disgwylir i oedran cyfartalog y boblogaeth gynyddu 2.5 blwyddyn yn yr 20 mlynedd nesaf, a disgwylir i nifer y bobl 65 oed a hŷn dyfu 30%.
- Mae nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn cynyddu ac roedd tua un o bob pump yn rhugl ar adeg y cyfrifiad diwethaf yn 2011.
Poblogaeth
Tyfodd poblogaeth Cymru 225,000 (neu 7.7%) rhwng 1999 a 2017, yn ôl yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dim ond rhwng 2001 a 2017 y mae’r data ar lifoedd ymfudo ar gael, felly mae'r dadansoddiad a ganlyn yn canolbwyntio ar y cyfnod hwn.
Sut y mae’r boblogaeth yn newid yn eich ardal chi? Mae'r siart isod yn dangos y newid canrannol i boblogaethau pob awdurdod lleol o 2001 i 2017.
Yr awdurdod lleol â'r cynnydd mwyaf yn y boblogaeth oedd Caerdydd (17.0%) lle'r oedd twf yn uwch na chyfartaledd Cymru (7.4%) a chyfartaledd y DU (11.7%). Cafwyd gostyngiad yn y boblogaeth ym Mlaenau Gwent a Cheredigion.
Y ffactorau a oedd yn sbarduno twf ym mhoblogaeth Cymru oedd:
- Ymfudo mewnol rhwng gwledydd y DU: 85,000 (41%).
- Ymfudo rhyngwladol rhwng Cymru a gwledydd y tu allan i'r DU: 66,000 (32%).
- Newid naturiol (genedigaethau a marwolaethau): 24,000 (12%).
- Newidiadau eraill fel y lluoedd arfog, pobl yn y carchar, a gwallau yn yr amcangyfrif: 32,000 (15%).
Y ffactor a gyfranodd fwyaf at ymfudo mewnol oedd pobl yn symud o Loegr i Gymru. Mae ystadegau ymfudo mewnol y Swyddfa Ystadegau Gwladolyn amcangyfrif y symudodd 59,000 o bobl, ar gyfartaledd, o Loegr bob blwyddyn ers 1999. Mewn cyferbyniad, symudodd 53,000 o bobl bob blwyddyn i'r cyfeiriad arall.
Ethnigrwydd, crefydd a hunaniaeth genedlaethol
Rhwng y cyfrifiad yn 2001 ac 2011 gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy’n dweud mai ei grŵp ethnig yw Gwyn Prydeinig o 96.0% i 93.2%, a chynyddodd y ganran sy’n dweud eu bod yn dod o grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn (gan gynnwys grwpiau cymysg) o 2.1% i 4.0%. Mae Cymru yn parhau i fod yn llawer llai amrywiol na Chymru a Lloegr gyda'i gilydd, lle nododd 80.5% o’r bobl eu bod yn Wyn Prydeinig yn 2011.
Y rhai sy'n dweud mai eu grŵp ethnig yw Asiaidd yw'r grŵp ethnig mwyaf ond un yng Nghymru. Rhwng 2001 a 2011 dyblodd canran poblogaeth Cymru a ddywedodd mai ei grŵp ethnig yw Asiaidd o 1.1% (32,000) i 2.3% (71,000).
Mae poblogaeth y grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn wedi cronni yn y dinasoedd deheuol. Yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â'r gyfran isaf o'r boblogaeth sy’n dweud mai eu grŵp ethnig yw Gwyn yn 2011 oedd Caerdydd (84.8%), Casnewydd (89.9%) ac Abertawe (94.1%).
Rhwng 2001 a 2011, gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy'n nodi mai Cristnogaeth yw eu crefydd o 71.9% i 57.6%, a chynyddodd canran y boblogaeth a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd bron hanner miliwn (o 18.5% i 32.1%). Y grŵp crefyddol mwyaf ond un oedd Mwslimiaid gyda bron 46,000 o bobl (1.5% o'r boblogaeth), sef cynnydd o 22,000 (0.7%) yn 2001.
2011 oedd y flwyddyn gyntaf i'r cyfrifiad ofyn cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol. Nododd bron dwy ran o dair (66%, 2.0 filiwn) o drigolion Cymru mai Cymreig yw eu hunaniaeth genedlaethol: o'r rhain, nododd 218,000 (7.1% o'r boblogaeth gyfan) hefyd eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinig.
Ymfudo rhyngwladol
Yn 2017, roedd nifer y bobl a oedd yn byw yng Nghymru na chawsant eu geni yn y DU yn 196,000 (6.4% o’r boblogaeth), sef cynnydd o 75,000 (2.6% o’r boblogaeth) yn 2001. O ran y DU gyfan, cynyddodd hyn o 8.3% i 14% dros yr un cyfnod.
O ble mae pobl yn symud i Gymru? Mae mewnfudo wedi cynyddu ers 1999. Ar yr atlas isod, mae maint y saethau wedi'u graddio i gynrychioli cyfran y symudiadau i Gymru o bob cyfandir yn ystod y cyfnod rhwng 1999 a 2017.
Digwyddodd y cynnydd cyflymaf rhwng 2011 a 2014, gan gyrraedd ei uchafbwynt ar 28,000 o ymfudwyr y flwyddyn. Roedd allfudo ychydig yn fwy sefydlog ac yn gyfartal â’r gyfradd fewnfudo tan oddeutu 2012. Rhwng 2013 a 2017, roedd mewnfudo yn uwch nag allfudo o fwy na 10,000 o bobl y flwyddyn.
Mae’r ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo, fel perthynas y DU â'r UE, yn anrhagweladwy. Ynghyd â'r anwadalrwydd yn y data, mae hyn yn ei gwneud yn anodd creu amcanestyniad o’r cyfraddau mewnfudo yn y dyfodol.
Genedigaethau a marwolaethau
Mae pobl yn cael llai o blant. Rhwng 1999 a 2017, cyrhaeddodd nifer y genedigaethau y flwyddyn ei uchafbwynt yn 2010 ar 2.3 o enedigaethau byw i bob 100 o fenywod. Ers hynny, mae wedi gostwng yn gyson i 2.0 o enedigaethau byw i bob 100 o fenywod. Mae'r oedran pan fo merched yn rhoi genedigaeth yn cynyddu. Gostyngodd nifer y genedigaethau gan fenywod o dan 25 oed o 32% i 23% rhwng 2004 a 2017.
Mae pobl yn byw'n hirach: Rhwng 1999 a 2014, cynyddodd disgwyliad oes yn raddol o 3.7 o flynyddoedd ar gyfer dynion a 2.6 o flynyddoedd ar gyfer menywod. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2012 a 2014, roedd disgwyliad oes dynion a menywod yn 78.5 a 82.3 mlwydd oed, yn y drefn honno.
Dosbarthiad oedran
Mae'r pyramidiau poblogaeth isod yn dangos nifer y dynion a nifer y menywod o bob flwyddyn oedran unigol. Mae’r crychdonnau ar led y dosbarthiad yn adlewyrchu gwahaniaethau mewn cyfraddau genedigaethau a marwolaethau rhwng cenedlaethau. Er enghraifft, mae'r amrywiadau serth yn nifer y bobl 52 oed yn 1999 a 70 oed yn 2017 (a ddangosir gan saethau) o ganlyniad i’r nifer fawr o enedigaethau yn dilyn y rhyfel.
Mae dosbarthiad oedran y dynion yn adlewyrchu dosbarthiad y menywod i raddau helaeth. Un eithriad yw yn 1999, roedd cryn dipyn yn llai o ddynion o’u cymharu â menywod yn y grŵp dros 60 mlwydd oed.
Poblogaeth sy'n heneiddio: Gostyngodd cyfran y boblogaeth o dan 16 oed o 20% ym 1999 i 18% yn 2017. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y boblogaeth 65 oed a hŷn o 17% yn 1999 i 21% yn 2017. Cynyddodd cyfran y boblogaeth o oedran gweithio (rhwng 16 a 64) o 62% i 64% rhwng 1999 a 2008 ond dychwelodd i 62% erbyn 2017.
Er bod y gwahaniaethau yn y dosbarthiadau oedran yn fach, disgwylir iddynt newid yn ddramatig yn y dyfodol, fel y trafodir isod.
Amcanestyniadau poblogaeth
Gan edrych tua'r 20 mlynedd nesaf, mae’r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer 2016 a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi rhyw syniad o sut y gall demograffeg Cymru newid:
- Rhagwelir y bydd y boblogaeth yn tyfu 3.3% o 2019 i 2039. Mae cynnydd disgwyliedig o 103,000 yn sylweddol is na'r 20 mlynedd flaenorol.
- Disgwylir i oedran cyfartalog y boblogaeth gynyddu 2.5 mlynedd erbyn 2039, o 42.2 yn 2019 i 44.7 yn 2039.
- Disgwylir i boblogaeth pobl 65 oed a hŷn dyfu dros 30%.
- Disgwylir i'r oedran gweithio (16–64) a phoblogaethau o dan 16 leihau 4.6% a 2.6%, yn y drefn honno.
Y stori fawr yn yr amcanestyniadau hyn yw’r cynnydd disgwyliedig o dros 30% ar gyfer pobl 65 mlwydd oed a hŷn. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn gosod baich cynyddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir, yn ogystal â gwasanaethau eraill, megis addasiadau cartref. Fel y mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn nodi yn ei adroddiad ymchwiliad 'cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio', mae'r cynnydd yng nghyfran y bobl hŷn yn sylweddol gan fod oes hirach yn golygu bod llawer mwy o bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth sy’n deillio o gyflyrau cronig, gan gynnwys dementia ac eiddilwch wrth heneiddio. Bydd angen y gwasanaethau ychwanegol hyn ar adeg pan effeithir ar gyllid cyhoeddus o ganlyniad i’r gostyngiad yn nifer y boblogaeth oedran gweithio.
Mae poblogaeth sy’n tyfu yn cynyddu'r galw am gartrefi newydd. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd angen rhwng 6,700 a 9,700 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2018-2019 a 2022-2023. Bydd tai newydd yn gofyn am ragor o ysgolion, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith i’w cysylltu. Mae goblygiadau hefyd i adnoddau naturiol a’r amgylchedd.
Dylid trin manylion yr amcanestyniadau hyn yn ofalus gan eu bod nhw ddim ond yn dangos sut y bydd y boblogaeth yn newid os bydd y tueddiadau presennol yn parhau. Nid ydynt yn ystyried economi sy'n newid, polisïau newydd y llywodraeth, cysylltiadau rhyngwladol, argaeledd tai, clefydau neu epidemigau, datblygiadau technolegol neu unrhyw ffactorau cymdeithasol eraill. Mae amcanestyniadau yn fwyfwy ansicr ac yn gynyddol sensitif i'r rhagdybiaethau sylfaenol a’r data a fewnbynnir yn dibynnu ar pa mor hir y cânt eu cynnal.
Y Gymraeg
Mae'r map gwres isod yn dangos canran y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiadau 2001 a 2011, yn ôl ardal. Mae'r data'n dangos bod canran y bobl sy'n ystyried eu bod yn siarad Cymraeg yn uwch yng ngogledd a gorllewin Cymru o gymharu â de–ddwyrain Cymru.
Mae'r Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o 21% (582,000) yn 2001 i 19% (562,000) yn 2011. Mae Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n gofyn cwestiwn tebyg i sampl o aelwydydd o ran gallu yn y Gymraeg yn awgrymu bod nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu’n raddol ers 2010, ac mae’r data diweddaraf yn 2018 yn nodi bod dros 875,000 o bobl tair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 (yn seiliedig ar ganlyniadau'r Cyfrifiad). Mae ei strategaeth iaith Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi'r ymyriadau, y gefnogaeth a'r buddsoddiad allweddol sydd eu hangen i gyflawni'r nod hwn. Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, cynyddu cyfran y plant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, datblygu cyfleoedd a hyrwyddo ei defnydd yn gymdeithasol ac yn y byd digidol.
Bydd yr erthygl nesaf, a gaiff ei chyhoeddi yfory, yn canolbwyntio ar deithio.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru