Datganoli 20 - Addysg: A yw ‘wedi’i wneud yng Nghymru’?

Cyhoeddwyd 02/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r bedwaredd mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.

Mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i lunwyr polisi ddatblygu dull gweithredu penodol i Gymru ym maes addysg. Ym mlynyddoedd cynnar y Cynulliad, cafodd strategaeth Y Wlad sy'n Dysgu (2001) ei disgrifio fel “dogfen nodedig i'r rhai a oedd yn gobeithio y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud mwy na gweithio ar ymylon y broses o lunio polisi addysgol, ond y byddai hefyd yn creu gweledigaeth ehangach o system addysg i wasanaethu'r genedl” (Gareth Elwyn Jones a Gordon Wynne Roderick, A History of Education in Wales (2003), a gafodd ei ddyfynnu yn Testing Times gan Philip Dixon, 2016.)

Addysg cyn-16

Dull gweithredu 'wedi'i wneud yng Nghymru'?

Yn 2002, fel rhan o ddatganiad y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, am “ddŵr coch clir” rhwng Cymru a Lloegr, daeth Llywodraeth Cymru â'r Tasgau Asesu Safonol (TASau) i ben yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3. Hefyd, rhoddwyd y gorau i gyhoeddi perfformiad disgyblion ar lefel ysgol (a ddefnyddir yn aml i gynhyrchu 'tablau cynghrair ysgolion’).

Fe wnaeth y Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd rhwng 2004 a 2009, ddod â dull newydd o ddysgu ar gyfer plant ifanc, yn seiliedig ar ddysgu drwy brofiad a dysgu trwy chwarae. Mae'n parhau i fod yn bolisi blaenllaw ac mae'r egwyddorion y mae wedi'u seilio arnynt bellach yn helpu i lunio'r cwricwlwm newydd 3-16 oed.

Ar ben arall y sbectrwm oedran ysgol, mae Bagloriaeth Cymru, a gyflwynwyd rhwng 2003 a 2007, ac a ddiwygiwyd yn 2015, wedi ceisio rhoi sylfaen sgiliau ehangach i bobl ifanc i'w paratoi'n well ar gyfer addysg uwch a'r gweithle. Yn ddiweddar, cynhaliodd un o bwyllgorau'r Cynulliad ymchwiliad i Fagloriaeth Cymru, gan gyhoeddi adroddiad yn cydnabod pa mor ganolog y mae'r cymhwyster i ddysgu a datblygu pobl ifanc ac argymell sut y gellir codi ei statws.

Enghraifft arall yw'r cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Cyflwynwyd y cynllun yn 2004, gyda'r nod o wella gallu disgyblion i ganolbwyntio ac felly gwella'u cyrhaeddiad.

Yn fwy diweddar, mae'r dull 'wedi'i wneud yng Nghymru' hwn ym maes addysg wedi arwain at system cymwysterau Cymru, proses hir a phellgyrhaeddol i ddiwygio'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), a'r gwaith pellgyrhaeddol sydd ar y gweill i gyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae llawer o waith craffu wedi bod ar y diwygiadau AAA dros nifer o flynyddoedd, gyda phwyllgorau'r Cynulliad yn fwyaf diweddar yn craffu ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Côd ADY drafft.

Gogwyddo tuag at PISA?

Mae datblygiadau rhyngwladol hefyd wedi dylanwadu ar waith Cymru i wella ysgolion, yn fwyaf nodedig y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a'i Raglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr (PISA).

Ychydig dros ddegawd ers datganoli, fe wnaeth cyhoeddi canlyniadau PISA 2009 yn 2010 roi'r hyn y gwnaeth y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, ei alw yn ‘ysgytwad i system hunanfodlon’ a ‘thystiolaeth o fethiant systemig’. Arweiniodd canlyniadau PISA siomedig Cymru at ffocws o'r newydd ar atebolrwydd ysgolion, gan ddychwelyd at hanfodion llythrennedd a rhifedd, a dull gweithredu rhanbarthol newydd i wella ysgolion, a nodwyd oll yng nghynllun ugain pwynt y Gweinidog ar y pryd. Yn dilyn hyn, roedd cyfnod Huw Lewis yn Weinidog, a ganolbwyntiodd ar fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel. Dros amser, bu cydnabyddiaeth hefyd bod angen i Gymru wella cymorth ar gyfer dysgwyr mwy galluog a thalentog os yw mwy ohonynt am ennill y graddau uchaf.

Galwyd yr OECD i mewn i helpu i ddod o hyd i atebion. Fe wnaeth ei adroddiadau yn 2014 a 2017 helpu i lywio cynlluniau gweithredu addysg Llywodraeth Cymru, sef Cymwys am Oes ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl 2017-2021 yn y drefn honno.

Ers ei phenodi'n Weinidog ym mis Mehefin 2016, mae Kirsty Williams wedi parhau i fwrw ymlaen â'r diwygiadau addysg a oedd eisoes ar y gweill, fel datblygu cwricwlwm newydd, diwygio datblygiad proffesiynol athrawon, gwella arweinyddiaeth addysgol a mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad yn sgil amddifadedd. Fodd bynnag, yn dilyn ei chytundeb ym mis Mehefin 2016 gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones (wedi'i ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2018 yn ei chytundeb gyda'r Prif Weinidog newydd, Mark Drakeford), mae Kirsty Williams hefyd wedi dod â'i blaenoriaethau ei hun i'r amlwg.

Mae'r rhain yn cynnwys helpu ysgolion bach a gwledig i fod yn hyfyw a lleihau maint dosbarthiadau babanod. Mae'r olaf yn mynd yn ôl i ddyddiau cynharaf datganoli, pan gyflwynwyd y terfyn statudol presennol o 30 o ddisgyblion yn 2001. Gyda Kirsty Williams fel gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi adfywio'r polisi hwn ac mae'n ceisio lleihau maint dosbarthiadau gyda 29 neu fwy o ddisgyblion mewn ysgolion sy'n tanberfformio a lle mae llawer o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gan ddychwelyd at PISA, bydd cyhoeddi canlyniadau 2018 ym mis Rhagfyr 2019 yn rhoi sylw pellach i gynnydd Llywodraeth Cymru o ran codi safonau ysgolion, yn enwedig o ystyried ei tharged o gyflawni 500 o bwyntiau ym mhob un o'r tri maes erbyn 2021. Ers y 'sioc i'r system' a gafwyd gan PISA 2009, nid yw'r canlyniadau dilynol wedi gwella'n sylweddol yng Nghymru fel y mae'r ffeithlun isod yn ei ddangos.

Addysg uwch

Mae sefydliadau addysg uwch yn sefydliadau ymreolaethol, felly mae gallu gwneuthurwyr polisi i effeithio'n uniongyrchol ar ddull gweithredu 'wedi'i wneud yng Nghymru' yn fwy cyfyngedig nag yn achos ysgolion. Fodd bynnag, mae datganoli wedi gweld newidiadau sylweddol yn y sector addysg uwch, a gallai deddfwriaeth a ddisgwylir yn ystod y flwyddyn nesaf weld Llywodraeth Cymru yn diwygio'n sylweddol y broses strategol o gynllunio a chyllido'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ehangach.

Un o'r enghreifftiau mwy gweladwy o'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yw'r cymorth ariannol i fyfyrwyr. Er enghraifft, ers 2012, mae myfyrwyr Cymru yn cael Grant Ffioedd Dysgu mwy sy’n rhoi grant heb brawf modd iddynt i dalu cost ffioedd dysgu uwch. Fodd bynnag, mae'r system yn amrywio ymhellach yn dilyn Adolygiad Diamond a’r penderfyniad i beidio â rhoi Grant Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr newydd o fis Medi 2018 ymlaen, a hynny fel rhan o’r pwyslais i’w helpu i dalu am gostau byw.

Nifer a maint sefydliadau addysg uwch

Ers 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i geisio llunio maint a strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae maint y newid hwn i'w weld isod.

Felly sut gwnaeth newid o'r fath ddigwydd?

Yn 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei strategaeth addysg uwch Ymgeisio yn Uwch, a oedd yn egluro bod yn ‘rhaid i ail-gyflunio a chydweithio fod wrth wraidd y strategaeth ar gyfer addysg uwch yng Nghymru’.

Ar ôl nifer o achosion o uno a chydweithredu o dan strategaeth Ymgeisio yn Uwch a strategaeth addysg uwch newydd Llywodraeth Cymru, Er Mwyn Ein Dyfodol (2010), cafodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y dasg o ddatblygu dimensiwn rhanbarthol ar gyfer cynllunio a darparu. Nododd ei Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2010 fod:

gormod o’n prifysgolion yn rhy fach yn ôl safonau’r DU, a bod gennym ormod o sefydliadau, a bod hyn yn codi cwestiynau ynghylch cystadleurwydd a chynaliadwyedd.

Yn 2010, ar ôl i Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg ar y pryd, rybuddio prifysgolion fod yn rhaid iddynt addasu neu farw, cyhoeddodd CCAUC ei argymhellion ar ddyfodol addysg uwch yng Nghymru. Roedd y rhain yn awgrymu newid radical – sef cyfuno sefydliadau yn y sector a chreu dim mwy na chwe sefydliad addysg uwch. Arweiniodd y cynlluniau hyn at uno Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg a sefydlu Prifysgol De Cymru.

Yn wreiddiol, roedd y cynnig hwn i greu’r hyn a fyddai’n datblygu’n Brifysgol De Cymru yn cynnwys Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC), sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn awr. Fodd bynnag, fe wnaeth corff llywodraethu’r Athrofa wrthwynebu ymgais Llywodraeth Cymru i’w diddymu a daeth hyn yn arwydd o ymreolaeth y prifysgolion.

Yn wahanol i'r polisi cenedlaethol bwriadol o newid wedi'i gynllunio, mae rhai sefydliadau wedi mynd ati i roi newidiadau ar waith eu hunain.

Penderfynodd rhai ohonynt arfer eu hannibyniaeth trwy dynnu'n ôl o ymbarél ffederal Prifysgol Cymru a gwneud cais am eu pwerau dyfarnu graddau eu hunain a'r hawl i ddefnyddio 'prifysgol' yn eu teitl.

Mae rhai wedi cymryd camau eu hunain i uno. Er enghraifft, penderfynodd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru ei hun, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin uno fesul cam i ffurfio corff presennol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae'r tabl isod yn dangos effaith cyfuno'r sector i nifer lai o sefydliadau mwy o faint, ac mae'n cynnig cymhariaeth eang (lle mae data ar gael) gyda'r sector addysg bellach. Wrth i nifer y sefydliadau ostwng ers datganoli a phob un yn cael y teitl prifysgol, mae cofrestriadau ac incwm wedi cynyddu'n gyffredinol.

Ffynhonnell: Archif Data HESA a StatsCymru

Nifer y bobl sy'n cyfranogi mewn addysg uwch

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, bu tuedd gyson i gyfran uwch o bobl ifanc 18 oed yn y DU fynd ymlaen i addysg uwch bob blwyddyn.

Mae'r graffeg isod yn dangos y duedd hon ers 2000 ar gyfer Cymru a Lloegr fel ei gilydd. Mae'r gyfradd gyfranogiad uwch wedi helpu i gynnal niferoedd recriwtio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny yn ystod cyfnod pan mae’r boblogaeth 18 oed yn y DU wedi gostwng dros dro.

Newidiadau yn y ffordd y mae sefydliadau addysg uwch yn cael eu hincwm

Drwy gydol yr ugain mlynedd diwethaf, mae sefydliadau wedi cael mwy o'u hincwm o ffioedd myfyrwyr a llai o incwm o grantiau canolog CCAUC.

O ganlyniad i’r penderfyniad i ddileu mesurau rheoli niferoedd myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr o 2015/16, mae sefydliadau addysg uwch wedi gallu cynyddu nifer eu myfyrwyr a, drwy hynny, wedi gallu creu mwy o incwm drwy gyfrwng ffioedd dysgu.

Mae'r graffeg isod yn dangos sut y mae cyllid grant canolog a chyllid ffioedd dysgu myfyrwyr wedi newid, a sut y mae’r newid hwnnw wedi cyflymu ers cyflwyno ffioedd o £9,000 yn 2012/13.

Archif Data HESA (noder ei bod yn bosibl na fydd modd cymharu ffigurau o 2014/15 ymlaen â'r ffigurau blaenorol oherwydd newidiadau cyfrifyddu)

Mae'r dyfodol yn debygol o arwain at ddiwygiadau eraill, gan fod Llywodraeth Cymru yn cynnig, drwy ddeddfwriaeth yn y Cynulliad, dod ag addysg bellach, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned ynghyd o dan un comisiwn cynllunio a chyllido strategol hyd braich.

Byddai hyn yn arwain at ddiddymu CCAUC a Llywodraeth Cymru yn ildio cyllid a rheoleiddio addysg bellach i’r Comisiwn arfaethedig ar gyfer Addysg Drydyddol, Hyfforddiant ac Ymchwil. Nod y newidiadau hyn yw creu sector addysg ôl-16 sy'n cynnig llwybrau cynnydd clir a di-dor i ddysgwyr mewn unrhyw fath o sefydliad.

Bydd yr erthygl nesaf, a gaiff ei chyhoeddi yfory, yn canolbwyntio ar yr amgylchedd.


Erthygl gan Michael Dauncey a Phil Boshier, Ymchwil Y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru