Cyhoeddwyd 06/03/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
6 Mawrth 2014
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cafodd y
Bil Sector Amaethyddol (Cymru) (“y Bil”) ei basio gan y Cynulliad ar 17 Gorffennaf 2013. Ei bwrpas yw ailgyflwyno deddfwriaeth ynghylch cyflogau amaethyddol yng Nghymru. Cyn hynny, cafwyd deddfwriaeth o'r fath yn Neddf Cyflogau Amaethyddol 1948 ond fe'i diddymwyd gan Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013, a basiwyd gan Senedd y DU. Mae'r Bil yn cynnig sefydlu cyfundrefn sy'n gosod telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys isafswm cyflog a hawliau o ran salwch a gwyliau.
Fodd bynnag, o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf Llywodraeth Cymru") cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol, y Gwir Anrhydeddus Dominic Grieve QC AS,
y Bil i'r Goruchaf Lys ar y sail ei fod ef o'r farn fod darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â materion cyflogaeth sydd y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad.
Cafwyd trafodion ar 17 ac 18 Chwefror 2014 gerbron pum barnwr, gan gynnwys yr Arglwydd Brif Ustus Thomas. Roedd y Twrnai Cyffredinol yno ac roedd y Cwnsler Cyffredinol Theodore Huckle QC yno ar ran Llywodraeth Cymru. Nid oedd y Twrnai Cyffredinol o'r farn y dylid ystyried bod y pennawd ‘Amaethyddiaeth’ yn atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyflogau. Mynegodd y byddai dehongliad o'r fath yn arwain at setliad anghyson. Nododd fod cyflogaeth wedi ei chadw yn ôl i San Steffan yn Neddf yr Alban 1998 , er bod cyflogau amaethyddol yn eithriad lle mae gan Senedd yr Alban gymhwysedd.
Yn ogystal, yn y llys, cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol at ohebiaeth rhwng y rhai a ddrafftiodd Bil Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth Cymru ac yn Llywodraeth y DU, a dadleuodd fod yr ohebiaeth honno'n dangos nad oedd bwriad cynnwys cyflogau o dan y pennawd 'Amaethyddiaeth’. Fodd bynnag, nododd y barnwyr mai bwriad y Senedd, nid y weithrediaeth, a oedd yn berthnasol ac ni fyddent yn ystyried y dystiolaeth honno o ganlyniad.
Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol nifer o bwyntiau wrth gyflwyno ei ddadl. Nododd fod rhaid i'r Goruchaf Lys ddehongli'r hyn y mae Deddf Llywodraeth Cymru'n ei ddweud ac nad oes cyfeiriad at gyflogaeth yn Atodlen 7, naill ai fel pwnc neu eithriad. Yn ogystal, cyfeiriodd at “y prawf bwriad ac effaith” yn adran 108 (7) Deddf Llywodraeth Cymru, gan ddadlau mai bwriad y ddeddfwriaeth yw diogelu a gwella amaethyddiaeth a bod hynny wedi ei gwneud yn glir ym Memorandwm Esboniadol y Bil ac mewn Datganiadau gan Weinidogion. Yn yr achos hwn, mae disgwyl y dyfarniad ymhen tua chwe wythnos.
Fodd bynnag, nid hwnnw yw'r unig Fil sydd gerbron y Goruchaf Lys. Fis Rhagfyr 2013,
cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ei fod yn cyfeirio'r
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i'r Goruchaf Lys, er i'r Twrnai Cyffredinol roi gwybod iddo na fyddai'n gwneud hynny. Dyma'r tro cyntaf i'r Cwnsler Cyffredinol ddefnyddio'r pŵer hwn. Mewn
datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Ionawr 2014, esboniodd ei resymau dros wneud hynny:
Rwyf yn ailadrodd fy mod o’r farn fod y Bil hwn o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Rwyf o’r farn, fodd bynnag, ei bod yn briodol yn yr achos hwn datrys mater cymhwysedd y Bil hwn yn glir cyn iddo ddod i rym, o gofio bod cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant yswiriant yn gyson wedi herio cymhwysedd y Cynulliad i basio’r Bil hwn. Dylai fod yn glir fy mod wedi penderfynu cyfeirio’r Bil o dan adran 112 yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn unol â’r cod gweinidogol, a thrwy statud.
Gerbron y Goruchaf Lys, byddaf yn dadlau’n gryf fod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, mae cyfeirio Bil fel hyn cyn iddo gael Cydsyniad Brenhinol yn golygu y gellir penderfynu ynglŷn â chymhwysedd y Bil heb aros am yr her yr wyf yn ei hystyried yn anochel, mewn achos llys a all fod yn llawer drutach ac yn fwy hirfaith maes o law, efallai pan fyddai symiau sylweddol o arian eisoes wedi’u hadennill o dan ddarpariaethau’r Bil, ac y mae’n debygol y byddai’n rhaid eu had-dalu pe bai penderfyniad y llys yn anffafriol. Mae’r costau cyfreitha sy’n gysylltiedig â chyfeirio yn ystod y cyfnod dan sylw’n debygol o fod yn llai na chostau unrhyw her a gyflwynir ar ôl i’r Bil ddod yn ddeddf o dan y weithdrefn arferol ar gyfer adolygiad barnwrol, oherwydd mae rheolau’r Goruchaf Lys yn darparu na chaiff gorchmynion am gostau eu gwneud fel rheol naill ai o blaid neu yn erbyn ymyrwyr. Byddai Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn cael ei hystyried yn ymyrrwr yn achos y Bil hwn o ran y cyfeiriad hwn. Yn fy marn i, mae er lles y cyhoedd imi fynd ati o’m pen a’m pastwn fy hun i geisio penderfyniad y Goruchaf Lys am y Bil fel ag y mae. Gall cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant yswiriant wneud cais—ac rydym ar ddeall y byddant yn gwneud hynny—i gymryd rhan yn y trafodion hynny yn y Goruchaf Lys. Fel hyn, gallwn setlo pob anghydfod cyn gynted â phosibl.
Mae'n debygol y caiff y trafodion ynghylch y Bil hwn eu cynnal ym mis Mai 2014.