Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol - y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 24/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

24 Chwefror 2016 Erthygl gan  Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno is-ddeddfwriaeth a fydd yn gwneud newid pellach i’r diffiniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru. Bydd yr is-ddeddfwriaeth hon yn cael ei thrafod yn y Cynulliad ar 1 Mawrth 2016, a bydd y Cynulliad wedyn yn pleidleisio arni. Eglurodd ein herthygl blog blaenorol ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol y darlun cynyddol gymhleth sy’n dod i’r amlwg o ran pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ar orsafoedd cynhyrchu ynni yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Datganiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn gategori newydd o geisiadau cynllunio a fydd yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn hytrach nag i Awdurdodau Cynllunio Lleol. Mae’r categori newydd hwn yn cael ei gyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r drefn newydd fod ar waith ym mis Mawrth 2016. Roedd yr is-ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad ar 26 Ionawr 2016 yn cynnwys yr holl orsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir rhwng 10 a 50 Megawat yn y diffiniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, caiff penderfyniadau ynghylch gorsafoedd cynhyrchu dros 50 Megawat eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ymestyn y diffiniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol i gynnwys ffermydd gwynt ar y tir o fwy na 50 Megawat. Mae hyn mewn ymateb i benderfyniad gan Lywodraeth y DU i ddileu ffermydd gwynt o’r fath o’r diffiniad o Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru ac yn Lloegr. Ar hyn o bryd, caiff penderfyniadau ynghylch Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol eu gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol y DU. Heb y gwelliant hwn, byddai penderfyniadau ynghylch ffermydd gwynt ar y tir o lai na 10 Megawat a hefyd dros 50 Megawat yng Nghymru yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan Awdurdodau Cynllunio Lleol, tra byddai penderfyniadau ar y rhai rhwng 10 a 50 Megawat yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Yn Lloegr, bydd penderfyniadau ynghylch ffermydd gwynt ar y tir o bob maint yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan Awdurdodau Cynllunio Lleol. Os bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei phasio ar 1 Mawrth 2016, mae’r diagramau isod yn dangos y trefniadau newydd ar gyfer cydsynio i ffermydd gwynt ar y tir, yn ogystal â’r trefniadau presennol a threfniadau posibl ar gyfer mathau eraill o brosiect ynni yng Nghymru. Mae’r diagram ‘mathau eraill’ yn adlewyrchu’r cynigion yn y Bil Cymru Drafft a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015. Ffeithlun yn dangos trefniadau cyfredol a threfniadau posibl o ran cydsynio i orsafoedd cynhyrchu ynni yng Nghymru Energy Planning Other-Welsh-01 View this post in English Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg