- y newid i fodel cadw pwerau;
- y cymalau cadw ynghylch cyfraith droseddol a chyfraith breifat a'r profion angenrheidrwydd; a'r
- trefniadau ar gyfer cydsyniad.
Datblygiadau diweddaraf Bil Cymru drafft
Cyhoeddwyd 04/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud
4 Mawrth 2016
Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4776" align="alignnone" width="682"] Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Yr wythnos hon, mae'r broses o ddeddfu ar gyfer setliad datganoli newydd i Gymru wedi cymryd cam pellach ymlaen. Ddydd Sul 28 Chwefror, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ar ei waith craffu ar Bil Cymru drafft ac ar y dydd Llun, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei gynlluniau ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad y Bil. Cafodd Bil Cymru drafft ei gyhoeddi gan Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015.
Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad a (gweler blog "Nid yw eto mewn cyflwr i ennyn consensws": craffu ar Bil Cymru drafft, 16 Rhagfyr 2015) Phwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi nodi problemau sylweddol gyda'r Bil drafft ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymateb drwy gyhoeddi oedi yn natblygiad y Bil a newid o ran y dull drafftio ar gyfer rhai o'r darpariaethau allweddol.
Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn canolbwyntio ar dair agwedd allweddol ar y Bil drafft: