Cyflwyniad
Ar 31 Ionawr cyhoeddodd UCAS ei ddata ar geisiadau a wnaed, a derbyniadau, drwy ei Brif Gynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol 2018/19.
Mae prif gynllun UCAS yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr ymgeisio ar gyfer hyd at bump o ddarparwyr / cyrsiau. Ac eithrio ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o’r Alban, dyma'r prif lwybr i fynd i’r brifysgol ar gyfer cyfran sylweddol y myfyrwyr israddedig amser-llawn yn y Deyrnas Unedig. Mae UCAS (y Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau) hefyd yn gweinyddu System Clirio, sydd ar wahân i’r Prif Gynllun.
Mae'r blog hwn yn edrych yn fras ar y penawdau yn ôl y data lefel prifysgol newydd hwn gan UCAS.
Mae angen dehongli'r data hwn yn ofalus
Nid yw pob myfyriwr yn gwneud cais ar gyfer mynd i’r brifysgol drwy UCAS.
Felly, er y gall y data hwn roi cipolwg ar y galw gan israddedigion amser-llawn, ni all roi'r darlun recriwtio cyflawn.
Nid yw’r data, er enghraifft, yn cynnwys nifer fawr o fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a myfyrwyr rhyngwladol, nac unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig a myfyriwr ymchwil sy’n gwneud cais y tu allan i gynlluniau UCAS.
Faint o geisiadau a wnaed i astudio mewn prifysgol yng Nghymru
Tabl 01 - Ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru (drwy'r prif gynllun, nid drwy’r system Glirio)
Mae'r tabl uchod yn dangos, ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, bod pob prifysgol, ac eithrio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweld lleihad yn nifer y ceisiadau Prif Gynllun. Roedd y lleihad yn amrywio o 3 y cant ar gyfer Prifysgol Aberystwyth, i 10 y cant ar gyfer Prifysgol Abertawe.
Ymhlith y ffactorau sy’n berthnasol o ran y lleihad hwn yw’r lleihad demograffig parhaus, safonau mynediad uwch ac ymddygiad sy’n newid y darpar fyfyrwyr, sydd bellach yn mynd ati i geisio cael cynnig drwy’r system Glirio.
Faint o fyfyrwyr a dderbyniodd gynnig i astudio gan brifysgolion yng Nghymru
Tabl 02 - Ymgeiswyr a dderbyniodd gynnig gan brifysgol yng Nghymru (gan gynnwys drwy’r system Clirio)
Mae'r tabl hwn yn dangos yr holl ymgeiswyr a dderbyniodd gynnig gan brifysgol yng Nghymru.
Felly, mae'n edrych ar unigolion ac nid ar geisiadau, ac mae hynny’n rhoi darlun gwell o’r galw gan fyfyrwyr israddedig llawn-amser.
Gellir gweld, ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, roedd lleihad o ran derbyniadau ym mhob prifysgol ac eithrio Prifysgol Caerdydd, er bod newidiadau mewn termau absoliwt weithiau yn gymharol fach.
Roedd canran y lleihad yn amrywio o 3 y cant ym Mhrifysgol Bangor i 12 a 13 y cant yn y drefn honno ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe.
Fodd bynnag, ni all y tabl hwn ddangos y targedau recriwtio ym mhob prifysgol.
Bydd targedau recriwtio i raddau helaeth yn gysylltiedig â chyllideb prifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai darparwr yn bwriadu recriwtio llai o fyfyrwyr fel rhan o gynllun cydgrynhoi a reolir, fel Prifysgol Fetropolitan Llundain, er enghraifft, yna ni fyddai unrhyw leihad o ran recriwtio eleni yn cael dim effaith annisgwyl.
Dylid ystyried y tabl hwn ochr yn ochr â strategaethau a chynlluniau pob sefydliad unigol.
Faint o gynigion diamod a wnaed gan brifysgolion yng Nghymru
Mae llawer iawn o ddiddordeb wedi’i ddangos gan y cyfryngau yn yr arfer o wneud cynigion diamod, ac roedd Sam Giymah, y cyn Weinidog Prifysgolion yn Lloegr, yn dadlau bod y cynnydd diweddar yn y defnydd ohonynt yn gwbl anghyfrifol.
Pam mae prifysgolion yn gwneud cynigion diamod?
Pan fo’r wybodaeth ar gael, mae UCAS wedi cyhoeddi datganiadau gan brifysgolion Cymru ynghylch eu sefyllfaoedd o ran cynigion diamod.
Yn gyffredinol, mae prifysgolion yn gwneud cynigion diamod am amrywiaeth o resymau sy'n cynnwys, bod graddau'r ymgeisydd yn hysbys (fel yn yr Alban), ac yn sgîl asesu ymgeiswyr ar gyfer mynediad drwy gyfweliadau, portffolios, profiad gwaith neu ar sail arall.
Mae nifer o ddarparwyr yn gwneud hyn drwy 'dderbyniadau cyd-destunol' lle na fydd derbyn i’r brifysgol, o bosibl, yn ddibynnol ar gyrhaeddiad academaidd blaenorol, ond ar fod y sefydliad yn defnyddio ffyrdd eraill o ystyried a fydd ymgeisydd yn ffynnu yn y brifysgol. Mae gan lawer o brifysgolion bolisïau a strategaethau ar gynigion diamod.
Fodd bynnag, mae agweddau ar wneud cynigion diamod yn parhau'n ddadleuol ac mae rhai pobl yn dadlau mai pryderon masnachol yw’r sbardun ar gyfer yr arfer, ac nad ydynt yn ystyried buddiannau myfyrwyr.
Cynigion diamod amodol
Mae’r hyn y mae UCAS yn eu diffinio fel cynigion 'diamod amodol' wedi bod o ddiddordeb arbennig.
Cynigion yw’r rhain, ble bydd prifysgol yn gwneud cynnig diamod i fyfyriwr, ar yr amod bod y myfyriwr yn cadarnhau mai’r brifysgol honno fydd ei ddewis cyntaf ar ei ffurflen UCAS.
Mae’r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr yn dadlau y gallai cynigion o'r fath gael eu disgrifio fel ‘gwerthu o dan bwysau' yn unol â chyfraith defnyddwyr, ac yn ymarferol, ac er nad oes consensws ar y mater, mae eu defnyddio yn parhau’n fater dadleuol i rai.
Dim ond dwy o'r wyth prifysgol yng Nghymru a gofnodwyd gan UCAS fel rhai sydd wedi gwneud y mathau hyn o gynigion eleni, sef Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yr oedd y naill a’r llall wedi gwneud hynny am y tro cyntaf eleni.
Ffigur 01 – Tueddiad o ran cynigion diamod amodol
Nifer o ran pob mathau o gynigion diamod a wnaed gan brifysgolion yng Nghymru
Tabl 03 - Cynigion a wnaed gan brifysgolion Cymru a oedd ag elfen ddiamod yn rhan o’r cynnig
Mae UCAS yn defnyddio’r term technegol 'cynigion ag elfen ddiamod'. Yn syml, cynigion ydynt, a oedd yn ddiamod ar un amser.
Mae’r tabl yn dangos bod rhai prifysgolion, fel Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr, yn draddodiadol wedi gwneud llawer llai o gynigion diamod o unrhyw fath, tra bod darparwyr eraill wedi gwneud defnydd cynyddol ohonynt, fel y dangosir yn y siart tueddiadau isod:
Ffigur 02 - Cynigion gydag elfen ddiamod – y duedd rhwng 2013 a 2018
Casgliad
Er bod yn rhaid dehongli'r data hwn â gofal, fel y nodir gan UCAS, mae'n darparu arwyddion bras yn gynnar ynghylch y galw am leoedd ym mhrifysgolion Cymru, ac yng Nghymru drwyddi draw, ymhlith y rhan fwyaf o israddedigion amser llawn.
Mae hefyd yn dangos newid yn null dwy brifysgol yng Nghymru o wneud cynigion eleni, o ran bod eu cynigion diamod amodol wedi cynyddu, o ddim cynigion yn y blynyddoedd blaenorol, i rhwng 19 ac 20 y cant o gyfanswm eu cynigion eleni.
Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru