llun brechu

llun brechu

Data brechu COVID-19

Cyhoeddwyd 18/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y strategaeth frechu ar gyfer cyflwyno brechlynnau COVID-19 ym mis Mehefin. Mae gan y strategaeth dair garreg filltir ac amseriadau bras ar gyfer pryd y caiff dos cyntaf o’r brechlyn ei gynnig i boblogaeth oedolion Cymru. Cynigiwyd dos cyntaf o’r brechlyn i bob oedolyn yng Nghymru erbyn 14 Mehefin 2021, sef chwe wythnos cyn y targed a bennwyd gan y llywodraeth i wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad misol ynghylch anghydraddoldebau o ran pwy sy’n cael brechlyn. Mae ein herthygl, ‘Pwy sy’n cael eu gadael ar ôl wrth i raglenu frechu’r coronafeirws gael ei chyflwyno’ yn archwilio’r data hyn ymhellach.

Faint o bobl sydd wedi cael dos o’r brechlyn?

Erbyn 16 Mehefinl 2021, roedd Cymru wedi rhoi 2,225,499 o’r dos cyntaf o frechlyn COVID-19, sef 70.6 y cant o’r boblogaeth, a 1,454,064 o’r ail ddos sef 46.1% o’r boblogaeth.

Nifer y dosau cyntaf ac ail ddosau gyda chanran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael eu brechu

Nifer y dosau cyntaf a chanran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sylwer: Mae poblogaeth pob un o wleydydd yn y DU yn seiliedig ar ddata diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac felly mae'n cynnwys y rhai dan 16 oed na cynigir brechlyn COVID-19 iddynt.

Mae’n bosibl y gwelwch chi ganrannau gwahanol o'r boblogaeth yn cael eu defnyddio o ran dosbarthu’r brechlynnau. Mae ambell ffynhonnell yn cymharu dosau o’r brechlyn â chyfanswm y boblogaeth, tra bod rhai eraill yn cymharu dosau â'r boblogaeth sy’n 16 oed a hŷn gan nad yw’n fwriad ar hyn o bryd i frechu'r rheini sy’n iau nag 16 oed. Rydym yn cyflwyno'r naill a’r llall i ddangos y gwahaniaeth.

Mae'r map uchod yn dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill y DU ar gyfer canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf ac ail ddos.

Mae’r graff isod yn dangos canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechlyn dros amser.

Canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechlyn

Canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechiad

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn mynd rhagddi?

Y garreg filltir gyntaf

Carreg filltir gyntaf y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror 2021. Roedd hyn yn cynnwys:

  • 1. Pobl sy’n byw mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a’u staff gofalu;
  • 2. Pobl 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen;
  • 3. Pobl 75 oed a hŷn; a
  • 4. Phobl 70 oed a hŷn a phobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (gwarchod gynt).

Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir gyntaf.

Yr ail garreg filltir

Ail garreg filltir y strategaeth frechu yw cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill 2021. Mae’r garreg filltir hon yn cynnwys:

  • 5. pobl 65 oed a hŷn;
  • 6. pobl dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd presennol;
  • 7. pobl 60 oed a hŷn;
  • 8. pobl 55 oed a hŷn; a
  • 9. phobl 50 oed a hŷn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ail garreg filltir wedi’i chyflawni ar 4 Ebrill.

Y drydedd garreg filltir

Y drydedd garreg filltir yw’r ail gyfnod yn y rhaglen frechu. Nod Llywodraeth Cymru oedd cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bobl 18-49 oed erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021 ac i sicrhau bod 75% o’r holl grwpiau blaenoriaeth wedi cael y dos cyntaf.

Ar sail argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd y grwpiau a ganlyn yn cael eu brechu fel rhan o’r drydedd garreg filltir:

  • pobl 40-49 oed;
  • pobl 30-39 oed; a
  • phobl 18-29 oed.

Ar 13 Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pob oedolyn wedi cael cynnig dos cyntaf erbyn y diwrnod canlynol.

Mae’r cynnydd cyffredinol tuag at y tair carreg filltir i’w weld yn ein siartiau isod ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos.

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Cyfanswm y dosau brechlyn a roddwyd fesul Bwrdd Iechyd Lleol

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl sydd wedi cael ail ddos o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yn mynd rhagddi fesul bwrdd iechyd?

Bob wythnos, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gyfran ym mhob grŵp blaenoriaeth, ym mhob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol, sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos.

Mae’r tri graff isod yn dangos cynnydd fesul bwrdd iechyd lleol yn ôl y tair carreg filltir. Mae’r ddau graff cyntaf yn dangos y rhai sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn ac mae’r trydydd graff yn dangos y rhai sydd wedi cael y dos cyntaf.

Canran y preswylwyr cartrefi gofal, pobl 70-74 oed, pobl 75-79 oed, pobl 80 oed a hŷn, a'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed (gwarchod gynt) sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl 65-69 oed, 60-64 oed, 55-59 oed, 50-54 oed, ynghyd â'r bobl 16-64 oed mewn grwpiau risg clinigol, sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl 18-29 oed, 30-39 oed a 40-49 oed sydd wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r map rhyngweithiol yn dangos canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn. Mae’r lliwiau goleuach yn dangos canran uwch sydd wedi’u brechu. Drwy hofran dros enw’r awdurdod lleol, gallwch weld faint o bobl 50+ oed, pobl 80+ oed, pobl mewn cartrefi gofal, a phobl rhwng 16 a 69 oed sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos yn yr ardal honno.

Canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn ôl awdurdod lleol.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Preswylwyr cartrefi gofal i oedolyn hyn. **CEV = eithriaol o agored i niwed yn glinigol.

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gyfnod 3 o’r rhaglen frechu ond mae’n dweud bod angen rhagor o wybodaeth, sef:

  • Am ba hyd fydd pobl ifanc yn cael eu diogelu wedi iddynt gael dau ddos o’r brechlyn?
  • Pwy ddylai gael dos atgyfnerthu a pha frechlyn fyddai orau iddynt?
  • A oes modd rhoi brechlyn rhag y ffliw a COVID-19 yw un pryd?
  • A ddylai pobl ifanc neu blant iau na 18 oed gael eu brechu?
  • Sut y gellid addasu’r brechlynnau i ymateb i amrywiolion newydd?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ei gwaith cynllunio’n seiliedig ar y rhadybiaeth fod angen canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn er mwyn i bobl barhau i gael eu diogelu rhag COVID-19 ac i gynnal eu himiwnedd:

  • Brechlynnau atgyfnerthu i’r rhai sydd wedi cael dau ddos;
  • Ail ddos i’r rhai sydd wedi cael dim ond un;
  • Cynnig y brechlyn eto i’r rhai nad ydynt wedi ei gael; a
  • Brechu pobl ifanc.

Erthygl gan Lucy Morgan, Joe Wilkes and Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru