Darparu gwasanaethau mamolaeth diogel o ansawdd uchel yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/06/2026   |   Amser darllen munudau

Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn cefnogi menywod beichiog, babanod a theuluoedd trwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth ac wythnosau cyntaf bywyd. Er bod llawer o deuluoedd yn cael gofal diogel a thosturiol, mae cydnabyddiaeth eang ledled y DU bod angen gwelliannau.

Mae adolygiadau ac ymchwiliadau diweddar ledled y DU wedi codi pryderon difrifol ynghylch diogelwch ac ansawdd gofal mamolaeth. Ym mis Chwefror 2026, gwnaeth asesiad sicrwydd cenedlaethol nodi gwendidau allweddol o fewn gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru.

Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mehefin ar farw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, mae'r erthygl hon yn archwilio'r tueddiadau allweddol sy'n cyfrannu at bwysau ar wasanaethau mamolaeth, materion a nodwyd o adolygiadau diweddar yng Nghymru, a chamau gweithredu a datblygiadau diweddar.

Dylech nodi bod yr erthygl hon yn cyfeirio at golli babi.

Cyd-destun sy’n newid

Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol wedi gorfod addasu yn ystod y degawdau diwethaf i alwadau newydd am ofal a demograffeg sy'n newid.

Gostyngodd nifer y babanod a anwyd yng Nghymru 20% rhwng 2014 a 2024, gan adlewyrchu’r tueddiadau a welwyd mewn mannau eraill yn y DU. Fodd bynnag, nid yw llai o enedigaethau o reidrwydd wedi golygu llai o bwysau ar wasanaethau. Mae proffil menywod beichiog a'r gofal sy'n cael ei ddarparu wedi newid yn sylweddol. Yn benodol:

  • Mae menywod yn gyffredinol yn rhoi genedigaeth yn hŷn. Mae tua 55% o fenywod sy'n rhoi genedigaeth yng Nghymru yn 30 oed neu'n hŷn, o gymharu â 42% yn 2011.
  • Mae rhai ffactorau risg iechyd yn dod yn fwy cyffredin. Mae traean o fenywod beichiog (32%) yn cael eu hystyried yn ordew yn seiliedig ar gyfrifiad o Fynegai Màs y Corff (BMI), a thua thraean (32%) yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl.
  • Mae lefelau ymyriadau meddygol yn ystod genedigaeth wedi cynyddu'n gyflym. Mae cyfran y genedigaethau drwy doriad cesaraidd yng Nghymru wedi cynyddu 12% ers 2016, yn unol â thueddiadau mewn rhannau eraill o'r DU. Mae ychydig dros hanner y genedigaethau cesaraidd yn argyfyngau.

Ffigur 1: Canran y genedigaethau yn ôl dull geni, 2016 – 2024

 

 

Ffynhonnell: Genedigaethau byw a marw yn ôl dull geni a bwrdd iechyd lleol, Ystadegau Cymru. Mae canrannau'n seiliedig ar gofnodion gyda data dilys ar gyfer y dull geni a adroddwyd gan y 6 bwrdd iechyd (gweler adroddiad ansawdd). Mae genedigaeth gydag offer yn cyfeirio at enedigaethau sy'n cael eu cynorthwyo trwy ddefnyddio gefeiliau neu fentws.

Gall y ffactorau hyn arwain at anghenion gofal mwy cymhleth, naill ai oherwydd tebygolrwydd uwch o ddatblygu cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth, gan gynyddu'r angen am fewnbwn arbenigol, neu oherwydd y gallant gyfrannu at arosiadau hirach yn yr ysbyty a gofyn am fwy o gefnogaeth gan staff gofal iechyd.

Cynnydd ac anghydraddoldebau parhaus

Bu gostyngiad bach yn nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru ers 2010. Fodd bynnag, mae cyfraddau marw-enedigaethau yn dal yn uwch o'u cymharu â gwledydd eraill yn y DU, ac mae cynnydd cyfyngedig wedi bod o ran lleihau cyfraddau marwolaethau newyddenedigol.

Ffigur 2: Cyfraddau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru, 2010 - 2024

 

 

Ffynhonnell: Marwolaethau plant a babanod (yn ôl blwyddyn marwolaeth), Cymru a Lloegr, SYG.

Mae cyfraddau marwolaethau newyddenedigol yn cyfeirio at farwolaethau o fewn y 28 diwrnod cyntaf o fywyd, fesul 1,000 o enedigaethau byw. Mae cyfraddau marw-enedigaethau yn cyfeirio at farwolaeth babi ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd (cyn neu yn ystod genedigaeth), fesul cyfanswm o 1,000 o enedigaethau.

Mae anghydraddoldebau amlwg mewn canlyniadau geni. Mae cyfraddau marwolaethau yn llawer uwch ar gyfer babanod a anwyd i famau sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae cyfraddau marwolaethau uwch ymhlith babanod o ethnigrwydd Du ac Asiaidd na babanod o ethnigrwydd Gwyn, a menywod Du sydd â’r cyfraddau uchaf o farwolaethau mamau. Mae cydnabyddiaeth gynyddol hefyd o effeithiau corfforol a seicolegol sylweddol profiadau geni trawmatig.

Mae elusennau beichiogrwydd a cholli babanod fel Tommy's a Sands wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu targedau uchelgeisiol i achub bywydau mwy o fabanod, ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn profiadau a chanlyniadau genedigaeth.

Pryderon o ran ansawdd a diogelwch

Yng Nghymru, mae pryderon ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol wedi cael eu hamlygu dro ar ôl tro mewn adolygiadau cenedlaethol a lleol. Mae’r prif adroddiadau’n cynnwys:

Mae adroddiadau gan Llais ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd wedi tynnu sylw at heriau o fewn byrddau iechyd penodol, yn ogystal â rhywfaint o dystiolaeth o welliannau sy'n cael eu gwneud.

Mae'r adolygiadau hyn wedi nodi adborth cadarnhaol yn aml gan famau beichiog a rhieni newydd, ac wedi nodi ymrwymiad cryf ymhlith staff i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Fodd bynnag, maent hefyd yn nodi ystod eang o feysydd i’w gwella. Mae rhai o’r prif themâu yn cynnwys:

  • Darparu gofal parchus ac ar gyfer yr unigolyn – mae’r materion a godwyd yn cynnwys capasiti cyfyngedig ar gyfer gofal ôl-enedigol, anghenion iechyd meddwl heb eu diwallu, diffyg cysondeb o ran darparu dilyniant mewn gofal, ac enghreifftiau o driniaeth amharchus, menywod ddim yn cael eu clywed, neu brofiadau trallodus i deuluoedd mewn profedigaeth.
  • Sicrhau gofal diogel ac effeithiol – mae pwysau staffio yn bryder allweddol, ond mae adolygiadau hefyd wedi nodi problemau gydag offer ac amgylcheddau gwaith, prosesau ar gyfer adrodd a dysgu o ddigwyddiadau diogelwch, a threfnu a staffio brysbennu a llwybrau eraill sy'n hanfodol o ran amser.
  • Meithrin diwylliant gwaith diogel a chefnogol – canfu’r asesiad sicrwydd nad oedd staff yn teimlo'n ddiogel yn gyson i godi llais, nododd enghreifftiau o ddiwylliant anghefnogol neu danseiliol, ac awgrymodd fod angen mwy o waith i feithrin ymddiriedaeth a meithrin hinsawdd o ddysgu.
  • Cryfhau arweinyddiaeth a goruchwyliaeth genedlaethol canfu’r asesiad sicrwydd fod strwythurau llywodraethu cenedlaethol “yn cael eu gweld a’u profi’n eang fel strwythurau di-drefn ac aneglur". Argymhellodd gryfhau goruchwyliaeth genedlaethol i ysgogi gwelliannau a sicrhau cysondeb mewn safonau gofal.

Mae’r heriau sy'n wynebu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru i raddau helaeth yn adlewyrchu'r rhai a nodwyd mewn rhannau eraill o'r DU. Yn Lloegr, mae disgwyl i’r Ymchwiliad Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol gyhoeddi argymhellion gyda'r nod o sbarduno gwelliannau mewn gofal ym mis Mehefin 2026. Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau i adolygu safonau gwasanaethau mamolaeth ac i oruchwylio gwelliannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Lefelau staffio a heriau’r gweithlu

Mae pwysau staffio yn thema fawr mewn adroddiadau o bob cwr o'r DU. Yng Nghymru, canfu'r asesiad sicrwydd cenedlaethol:

“Er gwaethaf cydlyniant cryf ar lefel tîm, mae’r gweithlu’n cael ei gyfyngu fwyfwy gan bwysau sy’n effeithio ar lesiant, yn llesteirio datblygiad proffesiynol, ac yn peri risgiau i’w hiechyd a’u llesiant, cynaliadwyedd gwasanaethau, ac ansawdd y gofal.”

Mae byrddau iechyd yn defnyddio offeryn cynllunio gweithlu o'r enw Birthrate Plus, ochr yn ochr â data lleol, i amcangyfrif nifer y bydwragedd sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel a phriodol. Fodd bynnag, canfu'r asesiad sicrwydd nad oedd llawer o hyder yn yr offeryn o fewn y sector, gyda phryderon ei fod yn tanamcangyfrif y llwyth gwaith ôl-enedigol presennol, ac nad yw'n cydnabod yn ddigonol yr angen am y cymysgedd sgiliau cywir ar draws y gweithlu bydwreigiaeth. Canfu'r adolygiad hefyd gyfraddau uchel o absenoldebau salwch ac absenoldebau mamolaeth ymhlith staff na chawsant eu hystyried yn llawn yng nghyfrifiadau’r gweithlu.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth y DU y gwaith o ddatblygu offeryn cynllunio gweithlu amlddisgyblaethol newydd i’w ddefnyddio ledled y DU.

Fodd bynnag, mae'r sector hefyd yn wynebu heriau ehangach o ran denu, recriwtio a chadw staff, yn enwedig o ystyried y pwysau llwyth gwaith. Rhwng 2015 a 2023, gadawodd 22.1% o fydwragedd GIG Cymru o fewn eu pedair blynedd gyntaf o wasanaeth. Ar yr un pryd, bu bylchau eleni rhwng nifer y graddedigion sydd newydd gymhwyso a'r rolau a gynigiwyd gan GIG Cymru, sy'n golygu bod bydwragedd newydd wedi wynebu ansicrwydd ynghylch a oes swyddi ar gael.

Y camau nesaf

Ym mis Chwefror 2026, derbyniodd Llywodraeth flaenorol Cymru yr holl argymhellion a wnaed gan yr asesiad sicrwydd cenedlaethol yn llawn neu'n rhannol. Cyhoeddodd ddatganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan osod camau gweithredu dros gyfnod o dair blynedd i yrru gwelliannau. Roedd y camau uniongyrchol yn cynnwys:

  • Sefydlu Bwrdd Trosolwg Strategol Cenedlaethol, a fforwm cenedlaethol i rannu arfer gorau a dysgu allweddol;
  • Cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer llinell frysbennu genedlaethol ar gyfer mamolaeth, gyda disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2026;
  • Datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer y gweithlu amenedigol, a oedd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026; a
  • Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu'r model gorau o ddilyniant mewn gofal, gyda chynllun i’w gyflwyno ym mis Rhagfyr 2026;

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) hefyd wedi datblygu Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol ar gyfer 2025 – 2028 sy'n nodi'r camau gweithredu i'w cymryd yn y blynyddoedd i ddod.

O ystyried y pwysau cynyddol a’r ymdrechion parhaus ar draws y DU i sicrhau gwelliannau, mae gwasanaethau gofal mamolaeth a newyddenedigol yn debygol o aros yn uchel ar yr agenda. Mae’r ffocws yn debygol o fod ar a yw’r camau gweithredu a gynlluniwyd yn arwain at welliannau mesuradwy mewn diogelwch, profiadau a chanlyniadau.


Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru