Darlun o ddiabetes yng Nghymru (27/04/2017)

Cyhoeddwyd 27/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Ebrill 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar hyn o bryd, mae tua 190,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer diabetes (tua 6% o’r boblogaeth gyfan a dros 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion). Amcangyfrifir bod ar 70,000 o bobl ychwanegol yng Nghymru ddiabetes math 2, ond eu bod yn anymwybodol o’r ffaith neu heb gael diagnosis. Mae 540,000 arall mewn perygl mawr o ddatblygu’r cyflwr. Yn ôl y tueddiadau presennol, mae’n bosibl y bydd diabetes ar 300,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2025. Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 sy’n golygu nad yw’r pancreas yn cynhyrchu inswlin. Fel arfer, plant ac oedolion ifanc sy’n cael diagnosis o ddiabetes math 1. Mae tua 1,500 o blant â diabetes math 1 yng Nghymru. Mae diabetes math 2 yn llawer mwy cyffredin na math 1, gan mai math 2 sydd ar tua 90% o’r oedolion sydd â diabetes. Cysylltir math 2 yn aml â ffactorau ffordd o fyw. Gordewdra yw’r ffactor risg mwyaf arwyddocaol, gan y gallai fod yn 80-85% o’r risg o ddatblygu diabetes math 2. Mae cysylltiad cryf rhwng amddifadedd â lefelau uwch o ordewdra, anweithgarwch corfforol, ysmygu a ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â risg pobl o gael diabetes math 2, ac â’u gallu i reoli’r cyflwr ac osgoi cymhlethdodau difrifol. Mae tystiolaeth gynyddol - a phryder - bod y cynnydd yn nifer y plant sy’n ordew wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes math 2 sy’n cael diagnosis yn y grwpiau oedran iau. Nid oes ffigurau sy’n dangos faint yn union o blant a phobl ifanc sydd â diabetes math 2, ond mae data o’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol yn awgrymu bod y cyflwr yn debygol o fod yn fwy cyffredin ymhlith merched, ymhlith pobl ifanc o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig, ac ymhlith y rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Pobl sydd â diabetes sy’n defnyddio 19% o welyau mewn ysbytai acíwt yng Nghymru. Diabetes math 2 sydd ar dros 90% o’r cleifion hyn. Mae diabetes yn costio GIG Cymru tua £500 miliwn bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i tua 10% o gyllideb y GIG yng Nghymru. Mae’r gyfran fwyaf - tua 80% - yn cael ei wario ar reoli cymhlethdodau diabetes (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, methiant yr arennau, niwed i’r nerfau, strôc, colli aelod o’r corff, a dallineb). Mae llawer o’r cymhlethdodau hyn yn rhai ataliadwy. Rhagor o wybodaeth:
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Darlun o ddiabetes yng Nghymru (PDF, 237KB)