Darlun heriol: mynd i’r afael â thlodi a gwella safonau byw

Cyhoeddwyd 11/04/2025   |   Amser darllen munudau

Cafodd y ffigurau diweddaraf ar gyfer Aelwydydd Is nag Incwm Cyfartalog eu cyhoeddi fis diwethaf, gyda Sefydliad Bevan yn disgrifio'r canfyddiadau fel set arall o ddata siomedig sy'n dangos nad oes unrhyw gynnydd yn cael ei wneud o ran lleihau tlodi.

Mae ein herthygl yn nodi pwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi, beth mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei wneud i drechu tlodi, a pha opsiynau polisi amgen sydd ar gael iddynt.

Rydym yn trafod effaith diwygiadau i fudd-daliadau anabledd mewn erthygl ar wahân, a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw.

Pwy sydd fwyaf tebygol o fyw mewn tlodi yng Nghymru?

Y brif ffordd o gyfrif tlodi yn y DU (ac yn rhyngwladol) yw'r mesur 'tlodi cymharol'. Ystyrir bod person mewn tlodi cymharol os yw cyfanswm incwm ei aelwyd ar ôl treth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill yn is na 60% o ganolrif y DU (sef y gwerth canol mewn rhestr o rifau sydd wedi'u trefnu o'r lleiaf i'r mwyaf).

Mae’r ffigurau diweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos bod 22% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai, ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn uwch na'r ffigurau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ffigur 1: Canran y bobl yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr sy'n byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai, 2021-22 i 2023-24

Siart bar yn dangos bod 22% o bobl yng Nghymru mewn tlodi cymharol rhwng 2021-22 a 2023-24, ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Aelwydydd islaw incwm cyfartalog: ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dod i ben 1995 i 2024

Nid yw cyfradd tlodi Cymru wedi newid fawr ddim dros amser. Ers dechrau datganoli, mae plant yng Nghymru wedi bod yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na grwpiau oedran eraill. Dros y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, pensiynwyr yw'r grŵp oedran lleiaf tebygol o fyw mewn tlodi. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, fymryn yn uwch na chyfartaledd y DU ac ychydig yn uwch nag yn yr Alban (23%) a Gogledd Iwerddon (24%).

Ffigur 2: Canran y bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai fesul grŵp oedran, Cymru

Graff llinell yn dangos mai plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fyw mewn tlodi yng Nghymru ers dechrau datganoli.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Aelwydydd islaw incwm cyfartalog: ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dod i ben 1995 i 2024

Noder: Mae'r blynyddoedd yn y graff hwn yn ymwneud â blynyddoedd ariannol – h.y. mae 22-24 yn golygu blynyddoedd ariannol 2021-22 i 2023-24

Ffigur 3: Canran y plant yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr sy'n byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai, 2021-22 i 2023-24

Siart bar yn dangos bod 31% o blant yng Nghymru mewn tlodi cymharol rhwng 2021-22 a 2023-24, ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Aelwydydd islaw incwm cyfartalog: ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dod i ben 1995 i 2024

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn nodi, er mai dyma’r data gorau sydd ar gael i fesur tlodi, nad ydynt o reidrwydd mor ddibynadwy ag yn y blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, er bod y data diweddaraf yn adrodd gostyngiad mewn enillion mewn termau real, mae'r IFS yn dweud bod data treth CThEF, a allai fod yn fwy cywir, yn awgrymu bod enillion yn parhau i fod yn gymharol debyg.

Pa lywodraeth sy'n gwneud beth, a sut maent yn mynd i’r afael â thlodi?

Mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y ill dwy yr ysgogiadau i fynd i'r afael â thlodi. Llywodraeth y DU sy’n gwneud y mwyafrif helaeth o benderfyniadau ynghylch treth, nawdd cymdeithasol a chyfraith cyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ysgogiadau polisi ac ariannol o fewn ei phwerau datganoledig i fynd i'r afael â thlodi.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwario £5 biliwn i fynd i'r afael â thlodi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ei phrif fentrau ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yn cynnwys:

Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd twf economaidd yn codi safonau byw pawb. Mae ei chynllun Make Work Pay yn rhan allweddol o hyn, a'i nod yw mynd i'r afael â chyflog isel, amodau gwaith gwael, a gwaith ansicr. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Hawliau Cyflogaeth ac isafswm cyflog statudol uwch, a bydd yn cyflwyno mesurau pellach i wella hawliau cyflogaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwaith.

Hefyd, sefydlodd Llywodraeth y DU dasglu tlodi plant, sydd wrthi’n datblygu Strategaeth Tlodi Plant y DU i'w chyhoeddi y gwanwyn hwn. Bydd y tasglu yn defnyddio nifer o ysgogiadau i geisio lleihau tlodi plant, gan gynnwys lleihau costau, cefnogi aelwydydd i gynyddu eu hincwm ac ystyried diwygiadau i nawdd cymdeithasol i gefnogi pobl i weithio a lliniaru tlodi.

Beth arall sydd angen ei wneud?

Er bod rhai rhanddeiliaid yn dweud bod strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir, mae rhai hefyd wedi beirniadu ei dull o fynd i'r afael â thlodi. Mae’r Comisiynydd Plant a nifer o sefydliadau eraill yn teimlo’n "siomedig iawn" nad yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy i leihau tlodi plant. Mae Oxfam Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth gwrth-dlodi a sefydlu Comisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb. Wrth edrych ar bolisïau penodol, canfu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd nad yw buddsoddiad yn y Rhaglen Cartrefi Clyd "yn agos at yr hyn sydd ei angen i gyfateb i faint yr her o roi terfyn ar dlodi tanwydd". Dywed Sefydliad Bevan fod data diweddar am gostau gofal plant yn dangos faint mwy o waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod system gofal plant Cymru yn mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn hytrach nag yn eu gwaethygu.

Mae nawdd cymdeithasol yn ysgogiad hanfodol ar gyfer lleihau tlodi, gyda Sefydliad Joseph Rowntree yn dadlau nad yw twf economaidd a thwf cyflogaeth yn ddigonol i leihau tlodi. Cafwyd galwadau i Lywodraeth y DU gael gwared ar y terfyn budd-dal dau blentyn, sy'n atal rhieni rhag hawlio Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Plant ar gyfer mwy na dau o blant a gafodd eu geni ar ôl 6 Ebrill 2017. Mae hyn yn effeithio ar fwy na 65,000 o blant yng Nghymru, sef 11% o'r holl blant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi codi yr angen i fynd i'r afael â'r terfyn dau blentyn “ym mhob cyfarfod o dasglu tlodi plant y pedair gwlad”. Mae’r IFS wedi disgrifio dileu'r terfyn dau blentyn fel yr un polisi mwyf effeithiol o ran cost ar gyfer lleihau nifer y plant sy’n byw islaw’r ffin tlodi. Mae’r Resolution Foundation wedi dweud bod cadw’r terfyn yn anghydnaws â Strategaeth Tlodi Plant ddilys.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio ei phwerau nawdd cymdeithasol i liniaru'r terfyn dau blentyn o 2026. Mae hefyd wedi cyflwyno Taliad Plant yr Alban, sef taliad o £27.15 yr wythnos fesul plentyn dan 16 oed sy’n cael ei roi i deuluoedd sy'n cael budd-daliadau penodedig. Mae Llywodraeth yr Alban yn amcangyfrif y bydd y taliad yn lleihau tlodi plant yn yr Alban gan bedwar pwynt canran yn 2025-26.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau i gyflwyno taliad tebyg yn barhaol. Fodd bynnag, mae'n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i "ddeall yn well pa adnoddau cyllidol a deddfwriaethol ac adnoddau eraill” y byddai eu hangen i wneud taliad o'r math hwn. Mae Sefydliad Bevan wedi dweud bod Llywodraeth Cymru naill ai'n penderfynu bod yr angen i leihau tlodi plant yn rhagori ar y setliad datganoli presennol, ac yn ceisio pwerau a chyllid ychwanegol, neu'n derbyn y bydd yr ymagwedd bresennol at nawdd cymdeithasol yn arwain at fwy o dlodi.

Mae tlodi wedi bod yn her hirsefydlog y mae pob Llywodraeth Cymru wedi’i hwynebu ers dechrau datganoli. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach yn wynebu sefyllfa arbennig o anodd - mae Sefydliad Joseph Rowntree yn rhagweld mai Cymru fydd â’r cyfraddau tlodi a thlodi plant uchaf o blith gwledydd y DU yn 2029 os na fydd gweithredu pellach.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru