Darllen rhwng y llinellau: Sgiliau llythrennedd plant Cymru

Cyhoeddwyd 12/11/2021   |   Amser darllen munud

Ddydd Mawrth (16 Tachwedd), bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad yn y Senedd ar lafaredd a darllen plant. Mae'r erthygl hon yn trafod pryderon ynghylch datblygiad lleferydd ac iaith plant ifanc iawn a chynnydd yn erbyn blaenoriaeth hirsefydlog Llywodraeth Cymru o wella sgiliau llythrennedd ymhlith disgyblion hŷn.

Pwysigrwydd datblygu lleferydd yn ystod y blynyddoedd cynnar

Mae Siarad gyda fi, sef cynllun dwy flynedd (2020-2022) Llywodraeth Cymru i wella’r gefnogaeth a roddir i ddatblygiad lleferydd, iaith a sgiliau cyfathrebu plant rhwng 0 a 4 blwydd 11 mis oed, yn nodi:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygiad plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn cynnwys caffael sgiliau iaith a lleferydd a llafaredd sy’n sail i’w gallu i ddysgu, darllen, ysgrifennu a datrys problemau. Ceir cysylltiad cryf rhwng y datblygiad hwn a llwyddiant plentyn yn yr ysgol a’i allu i ymuno â’r gweithlu.

Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd wedi adrodd bod cyfyngiadau’r coronafeirws wedi gwaethygu’r oedi wrth gaffael sgiliau iaith a lleferydd ymhlith plant ifanc. Hyd yn oed cyn y pandemig, mynegodd rhanddeiliaid bryderon bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod y tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau iaith a lleferydd erbyn iddynt ddechrau'r ysgol gynradd.

Noddodd gwaith ymchwil gan Achub y Plant yn 2016 fod bron i wyth o bob deg (79 y cant) o athrawon dosbarth derbyn yng Nghymru yn aml yn gweld bod plant sy'n ymuno â'u hysgol yn ei chael hi'n anodd siarad mewn brawddegau llawn. Dywedodd 89 y cant o'r athrawon a arolygwyd fod plant sy'n dechrau yn y dosbarthiadau derbyn sydd ar ei hôl hi o ran caffael sgiliau lleferydd ac iaith yn syrthio ymhellach ar ôl yn eu dysgu.

Yn ôl adroddiad blaenorol gan Achub y Plant yn 2015, mae plant sy'n cael trafferthion gyda’u lleferydd ac iaith yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn aml yn dal i fod y tu ôl i'w cyfoedion o ran sgiliau llythrennedd allweddol yn 11 oed. Mae Cyflwyniad gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd i’r Senedd yn 2017 yn rhoi mwy o fanylion am bryderon ynghylch datblygiad wrth gaffael sgiliau iaith a lleferydd, gan gynnwys pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn ac effaith negyddol tlodi.

Blaenoriaethu llythrennedd ymhlith plant o oedran ysgol

Mae gwella llythrennedd disgyblion ysgol wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ers i’r Gweinidog Addysg ar y pryd ddisgrifio canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009 fel ysgytwad i system hunanfodlon”. 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru raglenni llythrennedd a rhifedd a fframwaith dilynol yn 2013, gyda'r nod o godi’r safon o ran disgwyliadau ynghylch cyrhaeddiad disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd. Llafaredd, sef y gallu i fynegi'ch hun yn rhugl ac yn ramadegol gywir mewn lleferydd, oedd un o elfennau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a gafodd ei ymgorffori’n ddiweddarach yn y cwricwla ar gyfer Cymraeg a Saesneg.

Hefyd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru brofion cenedlaethol ar gyfer darllen a rhifedd (a esblygodd yn asesiadau personol), a gyflawnir yn flynyddol gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9.

Bydd llythrennedd yn parhau i gael ei flaenoriaethu yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan ffurfio un o dri sgil trawsgwricwlaidd statudol, ochr yn ochr â rhifedd a chymhwysedd digidol. Felly, mae'n ganolog i barhad agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ysgolion.

Pa mor dda yw sgiliau darllen pobl ifanc 15 oed yng Nghymru?

Mae darllen yn un o dri phrif barth y profion PISA, y mae Cymru wedi cymryd rhan ynddynt ers 2006. Mae’r profion PISA, sy'n cael eu cynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bob tair blynedd, yn graddio systemau addysg gwledydd yn seiliedig ar berfformiad sampl o bobl ifanc 15 oed.

Mae'r ddelwedd isod yn dangos sut y mae’r sgôr a roddir i sgiliau darllen yng Nghymru wedi amrywio yn ystod y pum cylch PISA ers 2006. Yn y canlyniadau diweddaraf (2018), sgôr darllen Cymru (483) oedd yr isaf yn y DU o hyd, gan fod yn is o’i chymharu â sgorau gwledydd eraill y DU a chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd na'r sgorau ar gyfer y ddau barth arall, sef mathemateg a gwyddoniaeth. Cymru oedd â’r sgôr isaf yn y ddau barth hynny hefyd.

Sgorau PISA Cymru yn 2018 ac yn y cylchoedd blaenorol

Mae'r ddelwedd hon yn dangos perfformiad Cymru ym mharthau Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth PISA yn 2018.  Mae'n dangos bod sgorau Cymru yn is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.  Mae Cymru yn bellach ar ei hôl hi o ran darllen na mathemateg a gwyddoniaeth. Mae'r ddelwedd hefyd yn dangos sgorau Cymru yn y tri pharth yn 2006, 2009, 2012, 2015 a 2018. O ran darllen, mae sgôr Cymru wedi mynd i fyny ac i lawr rhwng pob cylch, sy’n golygu bod y sgôr ychydig yn uwch yn 2018 nag yr oedd yn 2006. Gostyngodd sgôr mathemateg Cymru rhwng 2006 a 2009 ac eto rhwng 2009 a 2012, cyn codi yn 2015 a 2018. Gostyngodd sgôr gwyddoniaeth Cymru rhwng 2006 a 2009, a gostyngodd ymhellach yn 2012 a 2015, cyn cynyddu ychydig yn 2018.

Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Cyflawniad disgyblion 15 oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2018 (2019)

Oherwydd mai darllen oedd y prif barth yn 2018, sy'n golygu y bu mwy o brofion a mwy o ddadansoddiad o’r canlyniadau, mae yna lawer o wybodaeth yn yr adroddiad swyddogol ar canlyniadau PISA Cymru yn 2018 (gweler pennod 2). Dyma rai pwyntiau allweddol:

  • Er na fu llawer o welliant yn sgôr Cymru ar gyfer darllen ers 2006, ceir arwyddion o welliant cymharol. Yn 2018, cafodd 22 o wledydd sgorau sylweddol uwch na Chymru. Mae hyn yn cymharu â 30 gwlad a oedd yn perfformio'n well na Chymru yn 2015, 31 yn 2012 a 29 yn 2009.
  • Am y tro cyntaf ers i’r profion PISA ddechrau, nid oedd sgôr darllen Cymru yn 2018 yn wahanol mewn modd ystadegol arwyddocaol i gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (mae gan hyn gymaint, os nad mwy, i'w wneud â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gostwng ag sydd ganddo i’w wneud â sgôr Cymru yn cynyddu).
  • Roedd pedair elfen i’r dull o werthuso sgiliau darllen yn mhrofion PISA yn 2018, sef: “canfod gwybodaeth”, “dealltwriaeth”, “gwerthuso a myfyrio”, a “rhuglder darllen”. Sgoriodd Cymru yn gymharol dda (o'i chymharu â'i sgôr darllen yn gyffredinol) yn y categorïau “canfod gwybodaeth” a “gwerthuso a myfyrio” ac yn gymharol wael o ran “dealltwriaeth”. O ran “rhuglder darllen”, sgoriodd disgyblion Cymru yn uwch wrth sganio dogfennau a oedd yn cynnwys sawl darn o destun na'r dogfennau a oedd yn cynnwys un darn o destun yn unig.
  • O ran darllen, perfformiodd merched Cymru yn well na’r bechgyn, fel ym mhob gwlad arall a gymerodd ran. Yng Nghymru, roedd y gwahaniaeth hwn yn ystadegol arwyddocaol, yn wahanol i'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn mathemateg a gwyddoniaeth.

Roedd gan Lywodraeth flaenorol Cymru darged y byddai Cymru yn cyrraedd 500 yn ei sgôr PISA erbyn 2021 (bydd y cylch hwn o brofion bellach yn digwydd yn 2022 oherwydd y pandemig). Mae hyn yn gofyn am gynnydd o 17 pwynt o gymharu â’r sgôr ar gyfer darllen yn 2018. I roi hyn yn ei gyd-destun, cynyddodd sgôr darllen Cymru chwe phwynt rhwng 2015 a 2018.

Beth mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant, yn ei ddweud?

Eleni, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar gynnydd plant rhwng 3 ac 11 oed wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg a Chymraeg. Yn ôl yr adroddiad:

  • Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn ac yn datblygu’u medrau iaith a llythrennedd yn effeithiol;
  • Fodd bynnag, er gwaethaf gwelliannau mewn agweddau ar siarad, darllen ac ysgrifennu, mae safonau iaith a llythrennedd mewn ysgolion cynradd yn ddigon tebyg i’r rheini yr adroddwyd arnynt yn 2016;
  • Safonau ysgrifennu dysgwyr mewn llawer o ysgolion cynradd yw’r gwannaf o’r pedair medr iaith (sef gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu) o hyd;
  • Yn y rhan fwyaf o leoliadau ac ysgolion cynradd, mae agweddau cadarnhaol gan ddysgwyr at ddatblygu medrau iaith a llythrennedd. Fodd bynnag, mae mwynhad dysgwyr wrth ddarllen yn dirywio yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol gynradd. Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae hyn yn fwy amlwg ymhlith bechgyn a dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig;
  • Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg agweddau cadarnhaol tuag at ddatblygu eu medrau Cymraeg. Maent yn falch o gyfathrebu yn y Gymraeg, ac yn deall gwerth a budd datblygu eu medrau Cymraeg.

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19, ysgrifennodd Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Estyn ar y pryd am bwysigrwydd siarad a gwrando ar sgiliau llythrennedd disgyblion: 

Yn gyffredinol, nid yw disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael digon o gyfleoedd bob amser i gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy’n canolbwyntio’n benodol ar siarad, er enghraifft i wella eu gallu i gwestiynu, herio ac adeiladu ar gyfraniadau eraill trwy drafodaeth. Mewn ysgolion llai effeithiol, gwelir gwrando a siarad fel medrau sy’n cefnogi darllen ac ysgrifennu, yn hytrach nag fel medrau y mae angen eu datblygu eu hunain. Yn aml, mae ymyriadau a sylwadau athrawon yn canolbwyntio’n benodol ar yr hyn y mae disgyblion yn siarad amdano yn hytrach nag ar y ffordd y maent yn ei ddweud hefyd.

Sut i ddilyn datganiad y Gweinidog

Disgwylir i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad ar lafaredd a darllen plant yn y Senedd oddeutu 16.15 ddydd Mawrth 16 Tachwedd. Gellir gwylio’r datganiad yn fyw neu ar ôl y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV. Bydd trawsgrifiad o’r datganiad ar gael ar ffurf Cofnod y Trafodion tua 24 awr ar ôl i Gyfarfod Llawn y Senedd ddod i ben.

Efallai y bydd gan Aelodau a rhanddeiliaid ddiddordeb mewn nodi a yw'r Gweinidog yn cyfeirio at y targed o gyrraedd 500 pwynt yn sgôr darllen Cymru yn y profion PISA ac a yw Llywodraeth Cymru yn parhau i anelu at y targed hwnnw.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru