Siambr gwag yn y Senedd

Siambr gwag yn y Senedd

Dadl Llywodraeth Cymru: Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg: Pigion

Cyhoeddwyd 18/11/2025

Cyn y ddadl yn y Senedd ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2024-25 (18 Tachwedd), rydym yn gosod rhywfaint o gefndir perthnasol ac yn nodi gwybodaeth allweddol.

  • Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn craffu ar berfformiad, rheolaeth ariannol a swyddogaethau rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg yn flynyddol
  • Mae cyllideb y Comisiynydd wedi wynebu gostyngiadau cyson mewn termau real dros nifer o flynyddoedd, ac mae'r dyraniad yn y gyllideb yn sylweddol is (£3.48m) na'r gyllideb a ddyrannwyd i'r Comisiynydd pan sefydlwyd y sefydliad gyntaf (£4.1m).
  • Roedd y Comisiynydd wedi nodi’n flaenorol y byddai problemau i'w sefydliad pe na bai cyllid ychwanegol ar gael. Yn ystod y flwyddyn adrodd, gadawodd 4 aelod o staff drwy gynllun ymadael gwirfoddol.
  • Er bod y Comisiynydd yn disgwyl cynnydd cyllidebol yn unol â chwyddiant, o ychydig dros 2% ar gyfer 2026-27, dywedodd wrth y Pwyllgor Diwylliant y byddai hyn yn “ddigonol, gobeithio, inni gwrdd â chodiadau costau byw ein swyddogion ni... ond dim byd arall mewn gwirionedd—o ran datblygu ein gweithgareddau.”
  • Mae delio â chwynion am fethiannau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn cael ei hystyried yn rhan bwysig o'i swyddogaeth reoleiddio. Ond yn sgil gostyngiad yn nifer y cwynion yn 2024-25, a'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio i'r rhan fwyaf ohonynt, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith 
  • Serch hynny, ymatebodd y Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd yn gadarn i feirniadaeth o’r fath, gan nodi eu bod yn “disgwyl, ac yn gobeithio, i niferoedd cwynion ostwng os ydy perfformiad yn gwella” a bod “yna sawl elfen i reoleiddio llwyddiannus.”
  • Fe ymatebodd y Comisiynydd i feirniadaeth hefyd gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill ei bod wedi “colli ei ffordd” mewn perthynas â rheoleiddio, gan ddatgan yn ei barn hi bod rheoleiddio yn ganolog i’w gwaith.
  • Serch hynny, roedd y symudiad tuag at ‘gyd-reoleiddio’, hynny yw, lle mae sefydliadau’n cymryd mwy o gyfrifoldeb ac yn hunan-reoleiddio, a lle mae’r Comisiynydd yn darparu mwy o gymorth ataliol, yn ôl y Comisiynydd, yn benderfyniad oedd yn seiliedig ar egwyddor, ac ddim yn benderfyniad wedi eu yrru gan gyfyngiadau cyllidebol.
  • A chyda hyd at 40 o Gymdeithasau Tai ar fin dod o dan y gyfundrefn safonau, dim ond cynyddu llwyth gwaith y Comisiynydd y bydd hyn mwy na thebyg yn ei wneud ar adeg pan fo ei chapasiti staffio wedi lleihau.
  • Dywedodd y Comisiynydd mai dyma oedd un rheswm dros symud i system reoleiddio yn seiliedig ar “asesiad risg”, gan ddarparu mwy o gefnogaeth i sefydliadau sy’n tanberfformio.

Gallwch wylio dadl y Senedd ar adroddiad y Comisiynydd yn fyw ar SeneddTV ar 18 o Dachwedd.

Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.