Dadl ar y Gyllideb Ddrafft

Cyhoeddwyd 05/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

05 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cynhelir dadl ynghylch Cyllideb Ddrafft 2017-18 Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016. Arweiniodd y Pwyllgor Cyllid y gwaith craffu yn y Cynulliad ac mae wedi cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn: Adroddiad ar y gyllideb. Ers i’r Gyllideb Ddrafft gael ei gosod, cyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, UK Autumn Statement (Saesneg yn unig), y bydd £442m o arian cyfalaf ychwanegol dros gyfnod 2016-17 i 2020-21 a £35.8m o refeniw ychwanegol rhwng cyllideb refeniw 2016-17 a 2019-20. Mae rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (Saesneg yn unig) wedi cynyddu eu hamcangyfrifon o ran chwyddiant ac wedi lleihau eu hamcangyfrifon o ran twf economaidd ar gyfer 2017. Mae’r ffeithluniau hyn yn dangos y penawdau amlycaf yng nghyllideb ddrafft 2017-18. Mae’r ffeithlun yn dangos prif ffigurau cyllideb ddrafft 2017-18.draft-budget-2017-18-changes-welsh-01