Mae rhagor nag wyth mlynedd wedi mynd heibio ers y tân yn Grenfell ble y lladdwyd 72 o bobl. Heddiw mae cannoedd lawer o bobl yng Nghymru yn parhau i fyw mewn adeiladau â phroblemau diogelwch heb eu datrys, a llawer ohonynt wedi dioddef straen sylweddol a cholledion ariannol.
Mae gan Lywodraeth Cymru raglen waith ar ddiogelwch adeiladau. Yr elfen ddiweddaraf o’r gwaith hwn yw'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), sydd bellach wedi cyrraedd Cyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Mae’r Bil hwn dim ond yn canolbwyntio ar y gyfundrefn ddiogelwch yn y dyfodol ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Nid yw'n benodol yn ceisio cyflymu’r broses o gyweirio’r problemau diogelwch a nodwyd eisoes yn sgil Grenfell.
Er hynny, roedd y pwnc cyweirio yn thema fawr pan gafodd y Bil ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf, yn ogystal ag yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 17 Gorffennaf.
Yn yr erthygl hon, ystyrir cynnydd gwaith cyweirio yng Nghymru.
Y tu hwnt i gladin
Mae'r union fath o gladin a ddefnyddiwyd ar adeilad Grenfell, sef Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm neu ACM, wedi'i dynnu oddi ar bob adeilad yng Nghymru ble cafodd ei ddarganfod.
Arweiniodd trychineb Grenfell, fodd bynnag, at gymryd golwg o’r newydd ar ddiogelwch adeiladau ledled y DU, a ddatgelodd broblemau pellgyrhaeddol y tu hwnt i gladin.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn dilyn ymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu yn 2021, er mwyn nodi adeiladau y mae angen eu cyweirio.
Roedd yn gosod yr her iddi'i hun, nid yn unig o fynd i'r afael â phroblemau allanol fel cladin anniogel, ond hefyd o ddatrys problemau diogelwch y tu mewn i adeiladau ar gyfer pob adeilad preswyl 11 metr o uchder ac yn uwch.
Ym mis Tachwedd 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod 'ffordd i gael ei gyweirio' wedi’i sefydlu ar gyfer pob adeilad preswyl uchel.
Cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy 'gytundeb datblygwyr' rhwng Llywodraeth Cymru a datblygwyr mawr fel Bellway, BarrattRedrow, Persimmon a Taylor Wimpey, a ategwyd gan gontractau sy'n rhwymo'n gyfreithiol.
Erbyn mis Hydref 2022, roedd 10 o ddatblygwyr wedi llofnodi'r cytundeb ac erbyn mis Tachwedd 2024 roedd y nifer wedi cynyddu i 12.
Dengys ffigurau mwyaf diweddar y Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn y newyddlen diogelwch adeiladau ar gyfer mis Gorffennaf 2025, fod 461 o adeiladau yng Nghymru wedi’u nodi fel rhai â phroblemau diogelwch erbyn mis Gorffennaf 2025: mae 60 y cant o’r rhain yn y sector preifat a 40 y cant yn y sector rhent cymdeithasol.
O'r 461 o adeiladau hyn, roedd y gwaith diogelwch naill ai wedi’i gwblhau ar 43 y cant ohonynt neu roedd y gwaith ar y gweill.
Mae’r ganran yn is, fodd bynnag, ar gyfer y 161 o adeiladau sydd o dan gyfrifoldeb datblygwyr mawr.
Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi newid y ffordd y mae’n adrodd ar gynnydd gan ddatblygwyr. Yn wahanol i newyddlenni blaenorol ar ddiogelwch adeiladau, a oedd yn arfer adrodd ar nifer yr adeiladau, mae’r newyddlen ddiweddaraf yn nodi canran ar gyfer pob datblygwr.
Mae dadansoddiad o’r canrannau hyn yn dangos bod gwaith wedi dechrau neu wedi’i gwblhau ar 30 y cant yn unig o’r adeiladau y mae datblygwyr yn gyfrifol amdanynt.
Nid yw gwaith wedi dechrau ar y 70 y cant o adeiladau sy’n weddill, er bod gan y rhan fwyaf (62 y cant) o’r adeiladau hyn gynlluniau yn eu lle ar gyfer gwaith yn y dyfodol
Ac yng Nghymru gyfan, dim ond pedwar o’r 161 o adeiladau hyn y mae’r gwaith diogelwch wedi’i gwblhau arnynt.
Ffigur 1: Cynnydd gan ddatblygwyr, Gorffennaf 2025
Ffynhonnell: Dadansoddiad gan Ymchwil y Senedd o’r data yn newyddlen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru, Gorffennaf 2025
Sut mae hyn yn cymharu â Lloegr?
Nid yw Llywodraeth Cymru yn annog cymariaethau rhwng ei ffigurau ei hun ar gyweirio diogelwch adeiladau â’r ffigurau yn Lloegr.
Safbwynt y Llywodraeth yw nad oes modd cymharu’r ffigurau gan, yn wahanol i Loegr, fod rhaglen Cymru yn mynd y tu hwnt i gladin anniogel ac mae'n ceisio mynd i'r afael â risgiau diogelwch tân mewnol ynghyd ag allanol.
Mewn cyferbyniad, dim ond ar risgiau diogelwch tân a allai beryglu bywyd ar du allan adeiladau y mae'r drefn ddiwygio yn Lloegr wedi canolbwyntio.
Fel Llywodraeth Cymru, mae gan Lywodraeth y DU hefyd gytundeb â datblygwyr mawr i gyweirio problemau diogelwch mewn adeiladau a ddylai fod yn un o gyfrifoldebau’r datblygwr.
Mae data gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn nodi, erbyn diwedd mis Mai 2025, fod 54 o ddatblygwyr yn Lloegr wedi llofnodi cytundeb. Mae 4,683 o adeiladau yn dod o dan y contract, gan gynnwys 2,025 o adeiladau sydd wedi’u nodi fel rhai sydd â risgiau diogelwch tân a allai beryglu bywyd.
O'r 2,025 o adeiladau hynny, adroddwyd bod 49 y cant ble’r oedd gwaith cyweirio naill ai wedi dechrau neu wedi’i gwblhau ar ddiwedd mis Mai 2025, a 25 y cant ble’r oedd y gwaith wedi’i gwblhau.
Mae llawer o broblemau heb eu datrys yn Lloegr, gan gynnwys rhai adeiladau gyda chladin ACM o hyd, ond mae hwn wedi cael ei dynnu oddi ar adeiladau yng Nghymru – ond yn wahanol i Gymru, mae yno gynllun cyflymu cyweirio.
Hefyd yn wahanol i Gymru, mae dyddiad targed i adfer yr holl gladin anniogel mewn adeiladau 18 metr neu uwch yn Lloegr erbyn diwedd 2029, ac i adeiladau 11 metr neu uwch fod â dyddiadau cwblhau wedi’u nodi.
Disgwylir i’r dyddiadau targed hyn gael eu hategu gan Fil Cyweirio a fydd yn gosod dyletswydd cyfreithiol i gyweirio ar landlordiaid, yn ogystal â dirwy diderfyn neu ddedfryd o garchar am fethu â chwblhau gwaith cyweirio mewn pryd. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y Bil hwn yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y mae’r amserlen seneddol yn ei chaniatáu.
Er nad oes gan Gymru ddyddiad targed ar gyfer cwblhau gwaith cyweirio, neu sancsiynau troseddol ar gyfer methu â chydymffurfio, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i annog datblygwyr i ddechrau'r gwaith.
Ym mis Tachwedd 2024, gosododd yr Ysgrifennydd Cabinet darged o chwe mis i ddatblygwyr asesu a chynllunio gwaith cyweirio ar bob adeilad y maent yn gyfrifol amdano yng Nghymru.
Yn gynharach y mis hwn, adroddodd gerbron y Senedd fod pob datblygwr wedi cytuno i 'o leiaf fod wedi dechrau' gwaith ar eu holl ddatblygiadau yng Nghymru erbyn diwedd 2026.
Gwaith craffu yn y Senedd
Pan roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf, bu sawl Aelod yn ei holi ynghylch cynnydd araf ymddangosiadol datblygwyr wrth roi sylw i bryderon am ddiogelwch mewn adeiladau fel Altamar yn Abertawe a Doc Victoria yng Nghaernarfon.
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd wedi bod yn cwestiynu Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd datblygwyr.
Yn dilyn cyfarfod gyda'r Grŵp ymgyrchu Cladiators, ym mis Mawrth 2025 ysgrifennodd y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet i fynegi pryderon a gofyn am eglurhad ar y ffigurau.
Anfonodd yr Ysgrifennydd Cabinet ymateb ym mis Ebrill, gan ddatgan nad oedd unrhyw dorri telerau'r contract wedi digwydd rhwng datblygwyr a Llywodraeth Cymru.
Roedd llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet yn nodi ffigur uwch ar gam ar gyfer cyfran yr adeiladau lle'r oedd gwaith datblygwyr ar y gweill neu wedi'i gwblhau. Tynnodd y Pwyllgor sylw at hyn, ac ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet gydag ymddiheuriad a ffigurau newydd, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu’r ffigurau yn newyddlen ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch adeiladau.
Wedyn, rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dystiolaeth ar y Bil i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 17 Gorffennaf.
Mewn ymateb i gwestiynau ar gynnydd gan ddatblygwyr, cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw’r terfyn amser o ddiwedd 2026 ar gyfer dechrau’r gwaith wedi’i rwymo mewn cyfraith. Fodd bynnag, dywedodd un o’i swyddogion fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i gymryd camau cyfreithiol ‘os y daw hi i hynny’.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn awyddus i weld cynnydd yn y system, ond bod cymhlethdod rhai agweddau ar y gwaith yn achosi oedi.
Camau nesaf y Bil
Bydd y Pwyllgor yn clywed mwy o dystiolaeth ar y mater hwn yn ystod tymor yr hydref, a bydd yn llunio ei adroddiad yng Nghyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) erbyn 28 Tachwedd 2025.
O ystyried diddordeb parhaus yr Aelodau yng nghynnydd gwaith cyweirio yn eu hetholaethau, mae'n debygol y bydd mater cynnydd datblygwyr yn hyn o beth yn parhau i godi ei ben.
Mae rhai cwestiynau allweddol yn parhau, gan gynnwys:
- a oes angen rhaglen gyflymu gwaith cyweirio ar Gymru;
- a oes angen dyddiad targed ar gyfer cwblhau; ac
- a oes angen sancsiynau cyfreithiol cryfach arnom, fel y rhai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Lloegr, i orfodi datblygwyr i gyflymu’r gwaith.
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru