Mae yna anghytuno parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y graddau y mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) (y Cytundeb ar Amaethyddiaeth) yn fater sydd wedi’i gadw yn San Steffan. Mae'r blog hwn yn amlinellu gwahanol fodelau rhyngwladol o ymgysylltu rhwng llywodraethau canolog ac is-genedlaethol ar drafodaethau a chytundebau masnach, er mwyn rhoi enghreifftiau o'r trefniadau mewn llefydd eraill.
Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynrychioli holl Aelod-wladwriaethau'r UE yn y mwyafrif o gyfarfodydd y WTO. Fodd bynnag, ar ôl Brexit, bydd y DU yn negodi ei amserlenni ei hun gyda'r WTO. Mae’r graddau y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys wedi dod yn fater dadleuol fel rhan o'r ddadl ehangach o amgylch fframweithiau'r DU a chymhwysedd deddfwriaethol ar ôl Brexit.
Mae Bil Amaeth Llywodraeth y DU yn cynnwys cymal sy'n ymwneud â Chytundeb y WTO ar Amaethyddiaeth (cymal 26). Mae'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ar ddosbarthiad cymorth ariannol ar draws y DU ac yn gosod terfynau gwario, gan gynnwys terfynau cymorth unigol ar draws y gweinyddiaethau datganoledig. Ceir rhagor o wybodaeth am reolau WTO a chymorth amaethyddol mewn blog gan Dr Ludivine Petetin.
Mae Cymal 26 o'r Bil Amaeth yn berthnasol ledled y DU ond nid oes angen cydsyniad deddfwriaethol gan y deddfwrfeydd datganoledig ar hyn o bryd, gan adlewyrchu safbwynt Llywodraeth y DU bod darpariaethau’r WTO wedi’u cadw’n llwyr. Mae Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi pwysleisio'r berthynas cryf rhwng pwerau'r WTO a chyfrifoldebau datganoledig o ran cymorth amaethyddol. Dywedodd wrth Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad ar 5 Tachwedd bod safbwynt Llywodraeth y DU ar y WTO yn 'llinell goch' a dywedodd na allai argymell bod y Cynulliad yn rhoi caniatâd i'r Bil pe na bai Llywodraeth y DU yn newid ei safbwynt. Mae Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros yr Economi Wledig, Fergus Ewing, wedi ymateb i Fil Amaethyddiaeth y DU gyda phryderon tebyg ynghylch y diffyg cydsyniad deddfwriaethol sy'n ofynnol ar gyfer darpariaethau'r WTO.
Astudiaethau achos
Mae'r papur hwn yn disgrifio tri model ar gyfer cynnwys llywodraethau datganoledig mewn trafodaethau masnachol:
- Rôl gyfyngedig ar gyfer llywodraethau is-genedlaethol; y llywodraeth ganolog sydd â'r holl bŵer (Enghraifft: Unol Daleithiau America);
- Y llywodraeth ganolog sy'n gyfrifol am unrhyw drafodaethau ynghylch cytundebau masnach, ond cynhelir gwaith ymgynghori manwl â llywodraethau is-genedlaethol (Enghraifft: Canada); a
- Cynrychiolwyr is-genedlaethol yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol mewn trafodaethau sy'n ymwneud â meysydd sydd o fewn eu cymhwysedd (Enghraifft: Gwlad Belg).
Rydym yn manylu ar yr enghreifftiau hyn isod. Er bod yr holl wledydd hyn yn wahanol i'r DU o ran eu trefniadau cyfansoddiadol, gallai'r modelau dan sylw roi cipolwg inni o'r rôl y gallai Cymru ei chwarae ym mholisi masnach y DU yn y dyfodol.
1. Rôl gyfyngedig ar gyfer llywodraethau is-genedlaethol; y llywodraeth ganolog sydd â'r holl bŵer (Enghraifft: Unol Daleithiau America)
Yn yr Unol Daleithiau, nid oes gan y llywodraethau taleithiol fawr ddim o rôl mewn perthynas â thrafodaethau masnach rhyngwladol. Cyngres yr Unol Daleithiau sydd â'r holl bŵer i gymeradwyo cytundebau masnach sy'n cael eu negodi gan yr Arlywydd ac i greu deddfwriaeth sy'n caniatáu iddynt gael eu gweithredu. Er bod y Gyngres yn gyfrifol am ddiogelu buddiannau'r taleithiau, nid oes llawer o fecanweithiau sefydliadol ar gyfer cynnwys llywodraethau is-genedlaethol mewn penderfyniadau. O ganlyniad, ychydig iawn o allu biwrocrataidd sydd gan y rhan fwyaf o daleithiau yn America i ddylanwadu ar bolisi masnach ryngwladol.
Mae'r Arlywydd yn enwebu Cynrychiolydd Masnach yr Unol Daleithiau (USTR) i gydlynu a chynnal trafodaethau ar eu rhan. Er bod gan y cynrychiolydd masnach reolaeth dros drafodaethau masnach yr Unol Daleithiau, mae'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Bolisi Rhynglywodraethol (IGPAC) yn darparu cyngor at ddibenion llywio ei benderfyniadau. Dyma un o'r ychydig ffyrdd y gall y taleithiau ddylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi masnach cenedlaethol.
Mae'r IGPAC yn bwyllgor cynghorol ar faterion masnach sy'n darparu cyngor ac arweiniad polisi cyffredinol i'r cynrychiolydd masnach ar faterion masnach sy'n ymwneud â chyfrifoldebau'r llywodraethau taleithiol. Mae'r IGPAC yn cynnwys aelodau y mae ganddynt arbenigedd mewn materion masnach, buddsoddi a datblygu cyffredinol. Penodir aelodau o daleithiau ac ardaloedd yr Unol Daleithiau, ac o gyrff llywodraethol eraill nad ydynt yn gyrff ffederal. Eu rôl yw hyrwyddo buddiannau a blaenoriaethau'r taleithiau. Serch hynny, mae aelodaeth yr IGPAC yn gyfyngedig; dim ond yn ôl disgresiwn y cynrychiolydd masnach y caiff aelodau fynediad at ddogfennau a deunyddiau negodi.
Ochr yn ochr â'r Pwyllgor, mae gan sefydliadau eraill fel cwmnïau a sefydliadau lobïo ddylanwad sylweddol. Yn ogystal, mae rhai taleithiau yn ceisio dylanwadu ar bolisi masnach yr Unol Daleithiau drwy bwyllgorau'r Gyngres, yn sgil y ffaith bod gan y Gyngres awdurdod goruchwylio sylweddol o ran monitro gweithrediadau'r Arlywydd a'r cynrychiolydd masnach.
2. Y llywodraeth ganolog sy'n gyfrifol am unrhyw drafodaethau ynghylch cytundebau masnach, ond cynhelir gwaith ymgynghori manwl â llywodraethau is-genedlaethol (Enghraifft: Canada)
Y llywodraeth ffederal sy'n gyfrifol am negodi cytundebau masnach ar ran Canada. Fodd bynnag, cynhelir gwaith ymgynghori manwl â thaleithiau Canada cyn i drafodaethau masnach fynd rhagddynt. Mae cynrychiolwyr o'r taleithiau'n bresennol yn ystod y trafodaethau, er mwyn iddynt gael cyfle i gyfrannu atynt.
Mewn achosion lle mae rhwymedigaethau yn ymestyn i feysydd sydd o fewn cylch gorchwyl y llywodraethau taleithiol, mae cyfansoddiad Canada'n nodi'n glir bod cydymffurfiaeth yn gorwedd o fewn awdurdodaeth y taleithiau yn unig. Fodd bynnag, nid yw llywodraethau taleithiol yn atebol mewn achosion lle nad ydynt yn cydymffurfio. Gan nad oes gofyn i'r llywodraethau taleithiol gydymffurfio, er nad yw'n ofynnol i'r llywodraeth ffederal ymgynghori â'r taleithiau, yn ymarferol, maent yn cydweithio'n agos â hwy er mwyn ceisio sicrhau bod y llywodraethau taleithiol yn cyflawni unrhyw rwymedigaethau y mae Canada'n eu gwneud.
Yn benodol, mae'n bosibl y bydd y trafodaethau a gafwyd mewn perthynas ag amaethyddiaeth o dan y Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr (cytundeb CETA) yn arbennig o berthnasol i unrhyw drafodaethau a geir ynglŷn â rôl Cymru mewn trafodaethau ar berthynas y DU â'r UE. Cafodd taleithiau Canada eu cynnwys mewn trafodaethau ar gytundeb CETA rhwng Canada a'r Undeb Ewropeaidd. Cafodd taleithiau Canada gyfle i ddylanwadu ar eiriad cytundeb CETA mewn nifer o feysydd pwysig, a cheisiodd y llywodraeth ffederal ddarparu ar gyfer buddiannau'r gwahanol daleithiau, o gofio'r ffaith eu bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth ag agweddau allweddol o gytundeb CETA, fel amaethyddiaeth.
Cafodd y 10 llywodraeth daleithiol a'r tair llywodraeth diriogaethol sy'n bodoli yng Nghanada rôl uniongyrchol yn y trafodaethau a gafwyd ar gytundeb CETA. Ymgynghorwyd â hwy ar delerau'r adroddiadau a gyhoeddwyd ar y cyd, yn ogystal â'r mandad negodi. Cafodd y llywodraethau taleithiol a thiriogaethol fynediad at ddogfennau briffio a oedd yn rhoi trosolwg o'r broses drwy gydol y trafodaethau, a bu cynrychiolwyr y taleithiau yn ymgysylltu'n anffurfiol â'i gilydd, a chyda'r llysgenhadon o Ganada.
Mae Alberta yn enghraifft o sut y dylanwadodd un o'r llywodraethau taleithiol ar gytundeb CETA. Roedd y llywodraeth daleithiol am leihau rhwystrau a chynyddu allforion grawn i Ewrop. Yn y pen draw, cafodd y dyheadau hyn eu hadlewyrchu yng nghytundeb CETA.
3. Cynrychiolwyr is-genedlaethol yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol mewn trafodaethau sy'n ymwneud â meysydd sydd o fewn eu cymhwysedd (Enghraifft: Gwlad Belg)
Mae'r trefniadau cyfansoddiadol yng Ngwlad Belg yn gymhleth, gyda'r tair haen o lywodraeth yn y wlad—ffederal, rhanbarthol a chymunedol—yn gyfrifol am eu maes cymhwysedd eu hunain, er bod peth gorgyffwrdd. Yn ôl cyfansoddiad Gwlad Belg, mae'r llywodraeth ffederal a'r llywodraethau rhanbarthol a chymunedol yn gyfrifol am y polisïau a ddyroddir iddynt yn y cyfansoddiad. Ac eithrio rhai polisïau cyffredinol ar fasnach dramor sy'n gorwedd ar y lefel ffederal, y rhanbarthau a'r cymunedau sy'n gyfrifol am faterion rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'u cymwyseddau priodol. Mae'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gydlynu a Materion Ewropeaidd yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr ffederal, rhanbarthol a chymunedol i drafod a chytuno ar safbwynt a mandad cyffredin ar gyfer trafodaethau masnachol. Yna, mae'r safbwynt y cytunwyd arno ar gyfer Gwlad Belg yn cael ei fynegi i Gyngor yr Undeb Ewropeaidd gan y Gweinidog Ffederal dros Faterion Tramor. Mewn achosion lle mae cytundebau masnach yn ymdrin â materion sydd o fewn awdurdodaeth y gwahanol haenau o lywodraeth, rhaid i bob lefel o lywodraeth y mae ei chymhwysedd yn berthnasol i'r cytundeb roi ei chydsyniad iddo. Yn ogystal, rhaid i'r seneddau rhanbarthol gadarnhau cytundebau o'r fath.
Unwaith eto, mae cytundeb CETA yn enghraifft dda o sut y gall hyn weithio'n ymarferol. Roedd yn ofynnol i bob un o Aelod-wladwriaethau'r UE gymeradwyo'r cytundeb. Ym mis Hydref 2016, fodd bynnag, cafodd y cytundeb ei atal dros dro gan Wlad Belg yn sgil y ffaith bod senedd ranbarthol Wallonia wedi atal llywodraeth ffederal Gwlad Belg rhag rhoi caniatâd i'r broses fynd rhagddi. Yn y pen draw, rhoddodd senedd Wallonia ei chefnogaeth i gytundeb CETA. Er na chafodd y cytundeb ei newid, sicrhaodd cynrychiolwyr Wallonia fod 36 o warantau ac eglurhadau yn cael eu hychwanegu mewn perthynas â materion a oedd yn ymwneud ag amaethyddiaeth a buddsoddi.
Erthygl gan Katy Orford a Peter Hill, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ffynhonnell: Canolfan polisi cyhoeddus Cymru, Cyfraniad Llywodraethau Is-genedlaethol mewn Trafodaethau Masnach Rhyngwladol