Llun o waith dur Port Talbot

Llun o waith dur Port Talbot

Cytundeb newydd - ddim yn ddelfrydol, ond gwell i'r diwydiant dur?

Cyhoeddwyd 17/09/2024   |   Amser darllen munud

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion am ei chytundeb gyda Tata Steel ar ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

O dan y cytundeb, bydd ffwrnais arc drydan newydd yn cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, y mae Tata'n dweud y bydd yn diogelu dyfodol cynhyrchu dur ac yn gwarchod 5,000 o swyddi ar draws y DU. Fodd bynnag, bydd y ffwrnais chwyth bresennol ym Mhort Talbot yn cau erbyn diwedd y mis, ac yn debyg i’r cynigion gwreiddiol, mae hyd at 2,800 o weithwyr yn wynebu colli eu swyddi ar draws safleoedd Tata ledled y DU dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Er i Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Fusnes a Masnach, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Reynolds AS, ddweud bod y cytundeb yn llawer gwell na’r hyn a gytunodd Llywodraeth flaenorol y DU â Tata y llynedd, dywedodd nad oedd yn cyflawni popeth a fyddai’n ddelfrydol yn ei farn ef.

Felly beth yw telerau’r cytundeb, sut y mae'n wahanol i’r cytundeb rhwng Llywodraeth flaenorol y DU a Tata, a beth fu'r ymateb?

Beth yw telerau’r cytundeb, a sut y mae'n wahanol i'r un blaenorol?

Yn debyg i’r sefyllfa o dan y cytundeb rhwng Llywodraeth flaenorol y DU a Tata, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu £500 miliwn i gynorthwyo Tata i osod ffwrnais arc drydan newydd ac i gau’r ddwy ffwrnais chwyth. Mae nifer o gyhoeddiadau newydd yn y cytundeb a gafodd ei derbyn yr wythnos ddiweddaf:

  • Bydd Tata yn cynnig rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i weithwyr sy’n wynebu’r risg o ddiswyddiad gorfodol fel dewis arall, gan gynnig cymwysterau cydnabyddedig. O dan y rhaglen hon, bydd Tata yn talu cyflog llawn y gweithwyr am y mis cyntaf, a swm sy’n cyfateb i £27,000 y flwyddyn am yr 11 mis dilynol.
  • Mae Tata yn cynnig pecyn ymddiswyddo gwirfoddol a fydd yn darparu 2.8 wythnos o enillion am bob blwyddyn hyd at 25 mlynedd. Bydd isafswm taliad o £15,000 pro rata ar gyfer pob gweithiwr sy’n dewis ymddiswyddo’n wirfoddol, a thaliad ‘cadw’ o £5,000.
  • Mae’r cytundeb cyllid grant yn cynnwys mecanwaith i sicrhau y bydd Tata’n talu’r buddsoddiad yn ôl os nad yw’n cyflawni ei ymrwymiadau. Os na fydd Tata yn parhau i gyflogi 5,000 o weithwyr ledled y DU ar ôl y cyfnod pontio, bydd yn rhaid iddo dalu £40,000 o'r grant yn ôl am bob swydd na chaiff ei chadw o dan y lefel hon.
  • Bydd Tata’n rhyddhau 385 erw o dir ar ei safle ym Mhort Talbot i'w werthu neu ei drosglwyddo i gyflogwyr eraill.
  • Mae Tata wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i werthuso buddsoddiad newydd mewn dur, a chytunwyd ar broses i fwrw ymlaen â hyn.

Sut y mae'r cytundeb yn cymharu â'r gwahanol gynigion a wnaed, a beth fu'r ymateb?

Pan oedd yn aelod o’r wrthblaid, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach Jonathan Reynolds AS yn feirniadol o Lywodraeth flaenorol y DU am wario hanner biliwn o bunnoedd i ddiswyddo miloedd o weithwyr dur Prydain, a dywedodd mai fandaliaeth economaidd fyddai cau’r ffwrnais chwyth bresennol tra bod technolegau newydd yn dal i ddod i’r amlwg.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi disgrifio’r cytundeb newydd fel un sy’n well i Bort Talbot na’r cynnig blaenorol, a dywedodd mai dyma’r gwelliant mwyaf y gallai’r Llywodraeth ei wneud mewn deufis. Fodd bynnag, dywedodd hefyd, pe bai wedi bod mewn sefyllfa i ddechrau trafodaethau flwyddyn yn ôl, nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth y gellir bod wedi sicrhau cytundeb gwell fyth i’r gymuned.

Roedd Llywodraeth Cymru a’r Senedd hefyd wedi galw am barhau i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru. Pasiodd y Senedd gynnig yn unfrydol ym mis Mehefin yn dweud bod cadw’r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero net. Gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd alw ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu'r gwaith o sicrhau bod ffwrnais chwyth 4 yn parhau i weithredu drwy unrhyw gyfnod pontio. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi gweithwyr ac i sicrhau dyfodol newydd ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru.

Roedd yr undebau dur wedi galw am gadw ffwrnais chwyth drwy gydol y cyfnod pontio hefyd. Cymeradwyodd undeb Community a'r GMB y cynllun aml-undeb a ddatblygwyd gan Syndex, tra bod undeb Unite wedi datblygu ei chynllun ei hun ar gyfer gweithwyr Port Talbot. Mewn datganiad ar y cyd yn ymateb i’r cytundeb, dywedodd undebau Community a'r GMB fod penderfyniad Tata i wrthod y cynllun aml-undeb yn enghraifft drasig o golli cyfle i sicrhau tegwch i’r gweithlu yn ystod y cyfnod pontio. Gwnaethant nodi eu barn, er nad yw’r cytundeb yn rhywbeth i’w ddathlu, ei fod yn ganlyniad gwell na’r cytundeb a wnaed rhwng Tata a Llywodraeth flaenorol y DU. Mae Unite wedi dweud bod arian yn cael ei fuddsoddi dipyn yn hwyrach nag y dylai oherwydd diffyg gweithredu Llywodraeth flaenorol y DU.

Pa gymorth fydd ar gael i’r gweithlu a’r gymuned ehangach ym Mhort Talbot?

Fel yr amlinellwyd eisoes, bydd Tata yn cynnig pecyn ymddiswyddo gwirfoddol, ac yn darparu cymorth i weithwyr sy’n wynebu risg o gael eu diswyddo'n orfodol. Mae hefyd yn disgwyl cyflogi 500 o weithwyr i adeiladu ei ffwrnais arc trydan newydd.

Bydd y Bwrdd Pontio yn cael £80 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata. Fis diwethaf, dyrannodd y Bwrdd £13.5 miliwn o'r arian hwn. Fe’i defnyddir i gefnogi busnesau lleol y mae Tata yn brif gwsmer iddynt, ac i helpu gweithwyr y mae’r cyfnod pontio’n effeithio arnynt i ailhyfforddi a chael sgiliau newydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i weithwyr yr effeithir arnynt drwy raglenni ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, ac mae wedi dyrannu £2 filiwn i ehangu cymhwystra ar gyfer Cyfrifon Dysgu Personol i weithwyr Tata a’r gadwyn gyflenwi. Bydd hefyd yn cefnogi pobl sydd am sefydlu eu busnes eu hunain drwy Busnes Cymru, ac efallai y gall Banc Datblygu Cymru helpu busnesau’r gadwyn gyflenwi.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd darparu pont rhwng colli swyddi a chael cyfleoedd newydd yn allweddol, ac mai ei gweledigaeth hirdymor yw newid i ddiwydiant sero net yn seiliedig ar seilwaith newydd. Dywedodd y bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr a'r porthladd rhydd Celtaidd i gynnig cyfleoedd i weithwyr a chontractwyr Tata yn y dyfodol.

A beth am gymorth i'r diwydiant dur yn y dyfodol?

Mae Llywodraeth y DU yn datblygu strategaeth ddur newydd i’w chyhoeddi yng ngwanwyn 2025, a bydd yn buddsoddi £2.5 biliwn yn rhagor yn y diwydiant. Un o’r awgrymiadau'r undebau ar gyfer buddsoddi ym Mhort Talbot yn y dyfodol oedd adeiladu melin blatiau i wneud tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr. Mae Tata hefyd wedi dweud y bydd yn ystyried yr achos ar gyfer gwaith rhydwytho haearn uniongyrchol os bydd yr amodau busnes a buddsoddiad y Llywodraeth yn foddhaol.

Mae’r dadansoddiad gan UK Steel yn nodi bod cynhyrchwyr dur y DU yn talu hyd at 50% yn fwy mewn costau trydan na chystadleuwyr yn Ffrainc a'r Almaen. Llwyddodd y cynllun British Industry Supercharger a gyflwynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i leihau prisiau trydan ar gyfer cynhyrchwyr dur, fodd bynnag dywed yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach y gellir gwneud mwy. Ychwanegodd y bydd mwy o fanylion am gynlluniau Llywodraeth y DU yn y maes hwn ar gael yn y gyllideb neu’r adolygiad o wariant.

Mae'r cytundeb terfynol a gafodd ei dderbyn yr wythnos diwethaf yn mynd i'r afael â'r ansicrwydd ynghylch dyfodol agos Port Talbot. Gyda’r safle ym Mhort Talbot yn rhoi’r gorau i gynhyrchu dur yn y ffwrnais chwyth a diswyddiadau ar y gorwel, bydd cymunedau cynhyrchu dur yng Nghymru a thu hwnt yn pendroni am y sefyllfa hirdymor, a beth yw’r posibiliadau o ran sicrhau buddsoddiad newydd yn y diwydiant.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru