Ar y clawr mae llun o faner draig goch Cymru yn cyhwfan o flaen wal castell.

Ar y clawr mae llun o faner draig goch Cymru yn cyhwfan o flaen wal castell.

Cysylltiadau rhyngwladol: a fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn mabwysiadu Cenhadaeth Cymru?

Cyhoeddwyd 12/03/2026

Ddydd Mercher 18 Mawrth, bydd y Senedd yn trafod adroddiad newydd yn galw ar lywodraethau’r dyfodol i fabwysiadu Cenhadaeth Cymru – cyfres newydd o egwyddorion i lywio cysylltiadau rhyngwladol Cymru. Dyma’r adroddiad olaf ar y pwnc gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae'r adroddiad wedi'i anelu at lywodraethau'r dyfodol ond gofynnodd y Pwyllgor i'r llywodraeth bresennol ymateb i’r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel y "dasg bwysicaf”: cyflwyno Cymru i'r byd.  

Mae'r erthygl hon yn egluro deuddeg egwyddor Cenhadaeth Cymru a pham mae'r Pwyllgor yn credu y byddent yn galluogi Cymru i wireddu ei photensial rhyngwladol.

Onid Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol?

Fel gyda llawer o feysydd datganoli, nid yw'n hollol amlwg pwy sy’n gyfrifol.

Mae ‘cysylltiadau rhyngwladol’ a ‘chymorth datblygu a chydweithredu rhyngwladol’ yn faterion a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae hyn yn gadael i Lywodraeth Cymru weithredu mewn swyddogaeth ryngwladol. Er enghraifft, gall:

  • gwblhau cytundebau nad ydynt yn rhwymol gyda llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig;
  • cynnal swyddfeydd tramor; a
  • chyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy'n effeithio ar Gymru.

Mae llawer o gysylltiadau rhyngwladol y cenhedloedd datganoledig wedi bodoli ganrifoedd cyn ffurfio'r Deyrnas Unedig, megis perthynas agos Cymru ag Iwerddon, ac mae eu trefniadau modern yn adlewyrchu hyn. Mae'r rhain i'w gweld ar yr ffeithlun isod.

Yn ymarferol, mae pedair llywodraeth y DU yn cydweithio ar gysylltiadau rhyngwladol y DU. Mae Egwyddor 3 Cenhadaeth Cymru yn dweud y dylai llywodraethau'r dyfodol fabwysiadu dull rhagweithiol ac adeiladol o gydweithio.

Trefniadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

 

Cyfrifoldebau’r Cabinet

Mae'r Prif Weinidog bob amser wedi bod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol Cymru, ac eithrio pan oedd swydd gabinet benodedig yn gyfrifol amdano, sef swydd y Prif Weinidog presennol rhwng Rhagfyr 2018 a Hydref 2020.

Mae'r adroddiad yn disgrifio penderfyniad Prif Weinidogion y Chweched Senedd i beidio â mynychu'r Pwyllgor y tu hwnt i un sesiwn flynyddol fel un "hynod anfoddhaol". Mae hyn, meddai, yn “cyferbynnu’n llwyr” ag ymagwedd aelodau eraill o’r cabinet sy’n ymddangos yn rheolaidd gerbron pwyllgorau’r Senedd i ymdrin â materion rhyngwladol eu portffolios.

Mae'r pwyllgor wedi bod yn anhapus bod tri Phrif Weinidog y Chweched Senedd wedi gwrthod ymddangos yn y cnawd ar gyfer gwaith craffu ar y gyllideb. Yn ôl yr adroddiad, roedd y penderfyniad hwn, ynghyd â gwybodaeth ysgrifenedig wael, yn golygu nad oedd yr Aelodau mewn sefyllfa i graffu'n hyderus ar y swm o tua £58 miliwn a ddyrannwyd i weithgaredd rhyngwladol ers 2021. 

I fynd i’r afael â hyn, mae Egwyddor 2 yn dweud y dylai Gweinidogion y dyfodol sy’n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol fod yn destun gwaith yn yr un modd ag unrhyw aelod arall o’r cabinet. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod yn “rhaid gwella’r” broses o ddarparu gwybodaeth ariannol am weithgaredd rhyngwladol, a chaiff hyn ei gwmpasu gan Egwyddor 10.

Mae nifer y cynlluniau wedi cyflwyno “ansicrwydd a dryswch”

Er 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno chwe chynllun yn ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol. Maent wedi bod ar waith ar yr un pryd ond mae ganddynt hyd oes wahanol, fel y mae'r ffeithlun isod yn ei ddangos.

Mae gan y Strategaeth Ryngwladol bum cynllun gweithredu. Gyda'i gilydd, maent yn cynnwys tri nod cyffredinol a 278 o gamau gweithredu i'w cyflawni tan ddiwedd 2025. Mae'r Cynllun Cyflawni Rhyngwladol (Ebrill 2025) yn nodi’r "prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni dros y flwyddyn nesaf" ac mae'n cynnwys 15 nod. Dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach y byddai pob un o'r chwe chynllun yn dod i ben ym mis Mawrth 2026.

Strategaethau a chynlluniau cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru (2020-2026)

Dywedodd y Pwyllgor fod nifer y cynlluniau "yn ddifudd ac wedi cyflwyno ansicrwydd a dryswch". Cytunodd â thystion fel y Cyngor Prydeinig a siaradodd am fanteision dull â mwy o ffocws. Dywed Egwyddor 5 y dylai llywodraethau'r dyfodol fod â strategaeth gryno, glir â ffocws, wedi'i harwain gan uchelgais lefel uchel a nifer fach o nodau cyffredinol.

Diffygion wrth adrodd

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod yr wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am gyflawni blaenoriaethau rhyngwladol "yn aml yn wael, y tu hwnt i bob dirnadaeth, ac mae hynny’n rhwystredig." Gwelwyd bylchau yn yr adrodd ac ymwybyddiaeth isel “dro ar ôl tro” mewn enghreifftiau a rannwyd gan dystion i'r ymchwiliad, a dywedodd llawer ohonynt eu bod yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol, fel LinkedIn, am yr wybodaeth ddiweddaraf.  

Gan dynnu sylw at y ffaith nad yw adroddiadau Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y nodau a’r camau gweithredu sydd yn ei chynlluniau, dywedodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn gwneud “cam â hi ei hun drwy beidio â chofnodi a chyfathrebu ei gwaith mewn ffordd ystyrlon”. Roedd hyn yn golygu bod y Pwyllgor wedi cael "ei rwystro rhag gwneud penderfyniadau gwybodus", ond hefyd rhag dathlu cerrig milltir allweddol yn nhaith ryngwladol Cymru. Roedd yn cefnogi tystiolaeth sy'n esbonio pwysigrwydd adrodd wrth fynd i’r afael â chamddealltwriaeth a meithrin hyder a chefnogaeth y cyhoedd.

Dywedodd y Pwyllgor fod y Prif Weinidog wedi cyflymu’r broses o rannu gwybodaeth ers iddi fod yn ei swydd ond bod "rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gyflawni a’r hyn sydd heb ei gyflawni."

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, dywedodd y Pwyllgor y dylai trefniadau adrodd gwell fod ar waith ar ddechrau strategaeth yn y dyfodol. Roedd yn nodi gofynion sylfaenol, er enghraifft, dylai adroddiadau gwmpasu'r holl weithgarwch rhyngwladol a lefel yr wybodaeth i'w darparu i'r Senedd (a gwmpesir gan Egwyddorion 5, 6, 8 a 9).

Rhaid defnyddio adnoddau i wireddu uchelgais

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru "gyllideb gymharol fach sy’n sail i weithgaredd rhyngwladol" a’i bod yn "gyfyngedig” a bod pen draw iddi". Mae tua £58 miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gysylltiadau rhyngwladol a datblygiad rhyngwladol yn y Chweched Senedd. Yn seiliedig ar dystiolaeth o amrywiaeth ac ystod y gweithgaredd a gyflawnwyd, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod “risg amlwg bod casgliad helaeth Llywodraeth Cymru o strategaethau yn eu hymestyn yn rhy denau”.

Dywed Egwyddor 11, felly, y dylai llywodraethau'r dyfodol sicrhau bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol i wireddu eu huchelgais strategol. Mae’r farn bod cydweithio’n cynyddu cyfleoedd i’r eithaf yn un gyffredin ymhlith tystion, gan gynnwys Maint Cymru, a chynigiodd rhai tystion gyfuno adnoddau gyda Llywodraeth Cymru. Mae Egwyddorion 7 a 12 yn cymeradwyo dull Tîm Cymru o ddefnyddio adnoddau, capasiti ac arbenigedd y sector.  

A fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn mabwysiadu Cenhadaeth Cymru?

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Prif Weinidog wedi bod yn bresennol mewn unrhyw ddadl i ymateb i adroddiadau ynghylch cysylltiadau rhyngwladol ers bod yn ei swydd. Amser a ddengys a fydd y Prif Weinidog yn gwneud hynny yr wythnos nesaf.

Mae'r ddadl yn nodi adeg bwysig o ran cysylltiadau rhyngwladol Cymru. Mae'r Pwyllgor yn dweud ei fod wedi defnyddio dull gwahanol o adrodd i "wneud cyfraniad cadarnhaol ac adeiladol at ein stori ryngwladol." Efallai yn bwysicaf oll, mae'n credu y gallai llywodraethau'r dyfodol osgoi'r diffygion y mae wedi'i nodi, drwy fabwysiadu deuddeg egwyddor newydd Cenhadaeth Cymru.

Ar ôl pum mlynedd o graffu, mae wedi dod â’i thystiolaeth, ei harbenigedd a'i phrofiad ynghyd ac wedi gosod her.

Y cwestiwn nawr yw, a fydd y llywodraeth nesaf yn ei derbyn?

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru