cy

cy

Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE: cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru

Cyhoeddwyd 27/01/2025   |   Amser darllen munudau

Mae cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn cael eu rheoli'n bennaf gan ddau gytuniad allweddol:

Mae'r Cytundeb Ymadael yn pennu'r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.

Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu eu perthynas newydd.

Mae’r Cytundeb Ymadael yn cynnwys Protocol Gogledd Iwerddon, a addaswyd gan Fframwaith Windsor. Mae’r Protocol a’r Fframwaith ill dau mewn grym ond yn aml cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel Fframwaith Windsor.

Mae'r ddau gytuniad yn cynnwys materion datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu gweithredu, megis pysgodfeydd, iechyd, yr economi a'r amgylchedd.

Mae’r meysydd a gaiff eu cwmpasu gan y ddau gytuniad i’w cael yn y rhan fwyaf o adrannau o Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’u rhwymedigaethau a'u goblygiadau.

Mae ein ffeithlun yn dangos lle mae cyfrifoldebau gweinidogol yn cyffwrdd â phrif rannau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (CMC), y Cytundeb Ymadael (CY) a/neu Fframwaith Windsor (FW).*

Cylch sy'n cynnwys tair haen yw'r ffeithlun. Mae'r haen ganolog yn dangos pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, mae'r haen ganol yn dangos eu cyfrifoldebau perthnasol o ran y DU-UE ac mae'r haen allanol yn dangos rhannau cyfatebol y cytuniadau.

 

*Mae'r ddau gytuniad yn gymhleth iawn ac yn cynnwys elfennau trawsbynciol. Crëwyd y ffeithlun hwn gan Ymchwil y Senedd er mwyn dangos Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n bennaf cyfrifol am bob prif faes.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

 

Cyhoeddwyd 22/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2025