Llyfrgell Coleg Trinity, Dublin

Llyfrgell Coleg Trinity, Dublin

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Mwy na daearyddiaeth yn unig

Cyhoeddwyd 24/11/2023   |   Amser darllen munud

Daeth ymchwiliad y Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon i ben ym mis Hydref 2023 ar ôl clywed gan gynrychiolwyr o lywodraethau, seneddau a sefydliadau ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.

Cytunodd Cymru ac Iwerddon ar gytundeb dwyochrog rhyngwladol yn 2021 o’r enw Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd. Mae Llywodraeth Cymru yn rhestru Iwerddon fel un o’i chydberthnasau â blaenoriaeth yn ei Strategaeth Ryngwladol2020.

Mae Adroddiad y Pwyllgor yn asesu effeithiolrwydd dull gweithredu Llywodraeth Cymru, ac a ddylid ei efelychu ar gyfer ei pherthnasoedd rhyngwladol eraill â blaenoriaeth. Daeth o hyd i lawer o enghreifftiau cadarnhaol o gydweithredu, yn ogystal ag ewyllys da, angerdd a brwdfrydedd sylweddol.

Mae’r Pwyllgor yn argymell gwella’r cydgysylltu, y gwelededd a’r adnoddau ar gyfer y gwaith hwn, ac mae’n gobeithio y bydd canfyddiadau’r adroddiad yn cael eu hadlewyrchu mewn cytundebau dwyochrog yn y dyfodol ac mewn cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon y tu hwnt i 2025.

Mae'r erthygl hon yn crynhoi prif ganfyddiadau'r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru iddyn nhw.

Dull gweithredu Llywodraeth Cymru

Canfu’r Pwyllgor fod “llawer o agweddau cadarnhaol ar waith presennol Llywodraeth Cymru” ond nid yw’n glir sut mae strategaethau a chynlluniau lluosog yn ymwneud ag Iwerddon yn cael eu cydgysylltu, ac nid ydynt ychwaith i’w cael mewn un man.

Dywedodd fod hyn “yn rhwystr … o ran nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru a’i deall yn llawn” a’i fod yn “methu â darparu un pwynt mynediad i unrhyw un sy’n ceisio mwy o wybodaeth. Dywedodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn “gwneud anghymwynas â’i hun drwy beidio â chasglu a chyfathrebu’r gwaith hwn mewn ffordd gydlynol”.

At hynny, nododd y Pwyllgor nad oes gofyniad penodol i Lywodraeth Cymru adrodd i’r Senedd nac i’r Pwyllgor. Dywedodd:

Heb fetrigau allweddol, monitro ac adrodd rheolaidd, nid oes unrhyw beth a all ddangos neu fod yn sail i’r gwaith cadarnhaol a buddiol sydd yn sicr yn cael ei wneud ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

Dywedodd y dylid gwneud newidiadau i “adlewyrchu statws arbennig y berthynas” yn well.

Mwy o wybodaeth, gwelededd a thryloywder

Gwnaeth y Pwyllgor argymhellion wedi’u dylunio i wella gwybodaeth, amlygrwydd a thryloywder. Mae’n gobeithio y bydd ei adroddiad yn:

nodi dechrau’r broses o daflu mwy o oleuni ar y bennod bwysig hon yn hanes y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac ar stori ryngwladol Cymru ei hun.

Yn ôl y Pwyllgor, byddai mynd i’r afael â’r materion hyn yn cynorthwyo’r Senedd, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd i ddeall gweithgarwch Llywodraeth Cymru o ran Cymru ac Iwerddon yn well. Byddai hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o gadw cysylltiadau a gwneud y mwyaf o gyfleoedd sy'n deillio o gydweithredu trawsffiniol.

Derbyniodd y Prif Weinidog rhai o argymhellion y Pwyllgor. Fe wnaeth y canlynol:

  • Cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn archwilio tudalen we bwrpasol – yn amodol ar gytundeb Llywodraeth Iwerddon – ac y bydd yn adolygu'r cynnwys presennol i wella eglurder;
  • esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys arbenigedd ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid; ac
  • amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu cysylltiadau a pholisi masnach rhwng Cymru ac Iwerddon.

Ni dderbyniwyd argymhellion eraill oherwydd:

  • Mae'r Prif Weinidog o’r farn bod y trefniadau presennol yn cynhyrchu digon o wybodaeth, gan gynnwys am swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn, a Fforwm Iwerddon-Cymru; ac
  • ni all Llywodraeth Cymru ymrwymo i adrodd ychwanegol oherwydd ei ‘chyflwr presennol, llym o ran adnoddau’.

Brexit yn ail-lunio cysylltiadau

O ran Brexit, dywedodd Is-gennad Cyffredinol Llywodraeth Iwerddon, Denise McQuade, wrth y Pwyllgor:

[it] has already brought change and it will undoubtedly alter and reshape the Ireland-Wales relationship in the coming years.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dweud ei bod yn amlwg bod Brexit wedi cael effaith ac y bydd yn parhau i gael effaith. Clywodd am newidiadau sy’n “heriol ac yn anodd eu llywio” ond gwelodd hefyd enghreifftiau o “sefydliadau yn cydweithio’n dda, wedi’u hysgogi gan angerdd cyffredin, arloesedd a ffocws o’r newydd”.

Mae gweinidogion, seneddwyr a sefydliadau am gadw'r cysylltiadau a ddatblygwyd yn ystod aelodaeth y DU o'r UE. Dywedodd y Prif Weinidog fod gwaith ar y gweill i “sicrhau nad yw’r llwyddiannau a geir drwy’r Rhaglen Iwerddon-Cymru yn cael eu colli”, a meddai Conswl Cyffredinol:

what we want to do is work together to make sure that all of those links we have, those people-to-people links, trade, business, culture, community, all of that, that that all keeps going as smoothly as possible, despite Brexit.

Uchelgais yn wyneb adnoddau cyfyngedig

Daeth pwysigrwydd adnoddau i'r amlwg yn gyflym wrth i'r mwyafrif o ymatebwyr, gan gynnwys y Prif Weinidog, leisio pryderon am golli cyllid yr UE, a ffyrdd cynaliadwy ymlaen. Rhoddodd y Prif Weinidog enghraifft:

We had €100 million in the last [EU inter-territorial cooperation budget]; all of that is gone. We are providing a very modest amount of money, £150,000, through Agile Cymru.

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, dywedodd fod y swm hwn eisoes wedi'i ymrwymo i brosiectau y flwyddyn ariannol hon, ac y byddai ymrwymiadau ym mlwyddyn ariannol 2024-25 yn gofyn am ailflaenoriaethu cyllidebau eraill.

Gan gydnabod yr her o ariannu’r dyfodol uchelgeisiol y mae llawer yn ei ddymuno, argymhellodd y Pwyllgor y dylai llywodraethau Cymru ac Iwerddon ymrwymo cyllid sy’n gymesur â’u huchelgais y tu hwnt i 2025. Derbyniodd y Prif Weinidog hyn mewn egwyddor, gan ddweud:

  • Mae'r llywodraethau'n trafod mecanwaith ar gyfer cymorth ar y cyd; ac
  • mae Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu cydweithredu ag Iwerddon drwy Agile Cymru ac mewn trafodaethau rhynglywodraethol y DU ar gyllid newydd gan yr UE.

Bydd y Pwyllgor yn chwarae ei ran

Myfyriodd y Pwyllgor ynghylch y ffaith fod ganddo yntau hefyd ran bwysig i'w chwarae yn y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys drwy hyrwyddo gwaith rhyngseneddol gydag Oireachtas Iwerddon ac ar draws y Senedd ei hun.

Dywedodd fod yr adroddiad yn nodi'r cam cyntaf yn ei gyfraniad at wella cysylltiadau Cymru-Iwerddon a'i fod yn cynnwys y camau nesaf drwy gydol yr adroddiad. Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

bydd yn rhaid i lywodraethau, seneddau a sefydliadau cenedlaethol ein gwledydd ymdrechu i greu mwy byth o gysylltiadau ar yr adeg hollbwysig hon yn yr hanes a rennir rhyngom.

Gwersi a ddysgwyd ar gyfer y dyfodol

Derbyniodd y Prif Weinidog ddau argymhelliad pwysig ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at gysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol.

Yn gyntaf, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gynnwys canfyddiadau’r adroddiad hwn o’r cychwyn cyntaf lle mae’n mabwysiadu ymagwedd debyg at berthnasoedd rhyngwladol eraill â blaenoriaeth.

Yn ail, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i adolygu tystiolaeth yr ymchwiliad i lywio penderfyniadau ar gydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl 2025. Dylid bwrw ymlaen â'r gwersi hyn a'u hailgymhwyso i berthnasoedd rhyngwladol â blaenoriaeth yn y dyfodol.

Cytunodd y Prif Weinidog i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor ac i ddwyn ei dystiolaeth i ystyriaeth lawn wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Gallai’r rhain fod yn ymrwymiadau sylweddol ar gyfer cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon y tu hwnt i 2025 ac yng ngoleuni cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cytundebau gyda Fflandrys, Baden-Württemberg, Ontario a mwy.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru