Yn ddwy wlad a gysylltir gan fôr ar ymyl cyfandir Ewrop, mae gan Gymru ac Iwerddon hanes a diwylliant cyffredin sy’n gyfoeth o seintiau, llenyddiaeth, ac awen cân a cherdd. Mae cartref ein cefndryd Ewropeaidd agosaf wedi’i restru yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru fel un o bum gwlad sydd â blaenoriaeth o ran ein perthynas â hi.
Ers 2021, mae cytundeb rhyngwladol rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon wedi llywio’r broses o gydweithio mewn chwe maes, gan gynnwys diwylliant, yr amgylchedd, ynni, masnach, addysg ac ymchwil. Adnewyddwyd y cytundeb hwn gan y llywodraethau dan sylw ym mis Gorffennaf 2025, ac mae’r fframwaith ar gyfer cydweithio bellach yn cael ei lywio gan Ddatganiad ar y cyd Iwerddon-Cymru 2030.
Bydd adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, sef Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Darlun o bosibilrwydd disglair, yn cael ei gyhoeddi heddiw, sef Dydd Gŵyl Padrig. Yn yr adroddiad hwn, mae'r Pwyllgor yn ailedrych ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddo yn 2023, a oedd yn asesu effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwnnw wedi'i grynhoi mewn erthygl flaenorol.
Mae'r erthygl hon yn amlinellu canfyddiadau diweddaraf y Pwyllgor.
Cytundeb newydd rhwng y DU ac Iwerddon a fydd “o fudd i Gymru”
Ym mis Mawrth 2025, cytunodd y DU ac Iwerddon hefyd ar gytundeb rhyngwladol newydd, sef Datganiad ar y Cyd y DU-Iwerddon 2030. Mae’r datganiad hwn yn darparu cyd-destun newydd ar gyfer y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, a chafodd ei ddisgrifio gan dystion fel datblygiad cadarnhaol, defnyddiol a buddiol.
Er bod y Prif Weinidog wedi gwrthod gwahoddiad y Pwyllgor i roi tystiolaeth wyneb yn wyneb, roedd y wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd ganddi yn dweud y bydd “y berthynas agosach rhwng Iwerddon a’r DU o fudd i Gymru”.
Canfyddiadau’r Pwyllgor
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi pum canfyddiad ac argymhelliad allweddol. Defnyddiwch y cwymplenni i gael rhagor o wybodaeth.
Roedd adroddiad y Pwyllgor yn 2023 yn manylu ar enghreifftiau cadarnhaol o gydweithio, yn ogystal ag ewyllys da, angerdd a brwdfrydedd sylweddol rhwng cyrff cenedlaethol, sefydliadau ac artistiaid. Roedd gan y tystion a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor farn unfrydol ynghylch y ffaith bod cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn cynrychioli perthynas ystyrlon, werthfawr a deinamig, a bod y berthynas hon yn rhan bwysig o'u gwaith.
Mae'r adroddiad newydd yn disgrifio “enghreifftiau trawiadol” o gydweithio ar draws y celfyddydau, darlledwyr, llyfrgelloedd cenedlaethol, amgueddfeydd, archifau a mwy. Unwaith eto, nodwyd bod ieithoedd yn faes pwysig.
|
Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol barhau i sicrhau bod cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn flaenoriaeth o ran ei chysylltiadau rhyngwladol, drwy ailymrwymo i Ddatganiad ar y Cyd 2030 a thrwy ymgorffori ein canfyddiadau. |
Dyma bedwerydd ymchwiliad olynol y Pwyllgor ym maes cysylltiadau rhyngwladol lle mae effeithiau Brexit ar artistiaid teithiol a gweithgarwch trawsffiniol wedi cael eu codi, gan gynnwys yr adroddiad ‘Sioc ddiwylliannol’ a gyhoeddwyd yn 2024.
Darparodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad terfynol ynghylch ei hymdrechion i helpu artistiaid teithiol ym mis Chwefror. Dywedodd Cyngor y Celfyddydau fod llywyddiaeth Iwerddon o Gyngor yr UE (rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2026) yn gyfle pwysig i ddod o hyd i atebion.
|
Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol flaenoriaethu a chodi proffil y berthynas newydd â’r UE, fel y mae’n ymwneud â diwylliant a gwaith creadigol, gan gynnwys pwyso ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion ar y cyd â’r UE ar artistiaid teithiol a chyfranogiad yn rhaglenni’r UE. |
Canfu'r Pwyllgor fod ymwybyddiaeth y tystion o’r broses o adnewyddu'r Datganiad ar y Cyd yn isel, gan gynnwys ymhlith y rhai a enwir ynddo. Er enghraifft, dywedodd Amgueddfa Cymru nad oedd wedi bod yn rhan o drafodaethau y tu hwnt i gynnal y lansiad gan Lywodraeth Cymru. Ni ymgynghorwyd â Chomisiynydd y Gymraeg na Chomisiynydd y Wyddeleg chwaith, er gwaethaf y ffaith bod adroddiad 2023 wedi galw’n benodol am eu cynnwys yn y dyfodol.
Nid yw rhai sefydliadau a gafodd eu henwi yng nghytundeb 2021 wedi'u henwi mwyach, gan gynnwys yr Urdd, er mawr syndod i’r sefydliad. Dywedodd yr Urdd y byddai wedi disgwyl cael cydnabyddiaeth am y gwaith y mae’n ei wneud. Dywedodd y Prif Weinidog fod symud oddi wrth enwi rhanddeiliaid yn rhan o ddull wedi’i diweddaru, gan nodi mai nod y dull hwn yw gwella hyblygrwydd a “galluogi cydweithio gwahanol ag amrywiaeth ehangach o sefydliadau”. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi cael eu henwi, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, a ddywedodd eu bod yn falch o gael eu crybwyll.
I'r gwrthwyneb, bu’r broses o ymgysylltu â Llywodraeth y DU o dan y cytundeb newydd rhwng y DU ac Iwerddon yn fwy cadarnhaol.
|
Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gynnwys rhanddeiliaid yn y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys drwy ddatblygu cyfleoedd ystyrlon iddynt gyfraniad at gyflawni Datganiad ar y Cyd 2030. |
Clywodd y Pwyllgor yn aml fod adnoddau wedi bod yn fater heriol. Mae’r sefyllfa hon wedi gwaethygu yn sgil y ffaith bod rhaglenni ariannu’r UE wedi dod i ben, gan gynnwys y rhaglen Interreg, sy’n werth €100 miliwn. Nid yw’r cronfeydd newydd yn gallu cymharu â’r hyn a gollwyd o ran gwerth na graddfa.
Tynnodd y Prif Weinidog sylw at nifer o ffrydiau ariannu cyfredol, gan gynnwys:
- “dros hanner miliwn o bunnoedd” mewn cyllid ar gyfer Cymru Ystwyth;
- dyraniad o £50,000 ar gyfer y swyddfa yn Nulyn ar gyfer 2025-26; a
- £68,500 i gyflawni’r Datganiad ar y Cyd.
Croesawodd y tystion gronfa newydd Llywodraeth Iwerddon ar gyfer cydweithio diwylliannol, sy’n werth €6 miliwn. Bydd y gronfa hon yn caniatáu i gyrff o Gymru, fel y Llyfrgell Genedlaethol, gyflwyno cynigion ariannu ar y cyd â'u cymheiriaid yn Iwerddon.
|
Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol sicrhau bod digon o gyllid yn cael ei ddyrannu’n flynyddol ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys i warantu y bydd Datganiad ar y Cyd 2030 yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. |
Roedd y tystion yn unfrydol o ran eu safbwynt cadarnhaol ynglŷn â dyfodol y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon. Cymharodd y darlledwr Philip King y berthynas hon â darlun o bosibilrwydd disglair.
Soniodd yr holl dystion am y posibiliadau yn eu priod feysydd. Soniodd Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd am y posibiliadau enfawr ym meysydd ynni, addysg ac arloesedd ymchwil, ac ieithoedd.
Soniodd y Llyfrgell Genedlaethol am y darganfyddiadau arwyddocaol sy'n parhau i gael eu gwneud ymhlith ei chasgliadau, gan gynnwys drafft o Gytundeb Eingl-Wyddelig 1921. Dywedodd ei bod yn “foment sydd yn mynd â ias lawr dy gefn di, yn gweld llofnod Michael Collins, Arthur Griffith, Winston Churchill, David Lloyd George ac eraill ar y drafft terfynol efo llawysgrifen ym mhob man”.
Wales-Ireland is probably the biggest international opportunity we’ve got. So, as they say, go big or go home. I would take it to a whole new level.
|
Argymhelliad 5: Dylai Pwyllgor Senedd yn y dyfodol barhau â’r gwaith rydym wedi’i wneud ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon er mwyn sicrhau bod statws arbennig y berthynas yn parhau a bod ein canfyddiadau’n cael eu rhoi ar waith. |
Y camau nesaf ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn y Senedd
Mae'r Pwyllgor yn glir bod y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yr un mor bwysig ag erioed.
Mae'r adroddiad yn nodi pa mor eang yw’r cydweithio sy'n digwydd, gyda chefnogaeth gan lywodraethau neu hebddi, ac yn talu teyrnged i ddiwylliant a hanes cyffredin y ddwy genedl. Mae'n taflu goleuni unwaith eto ar y cydweithio sy’n digwydd yn y cyfnod ar ôl Brexit, a'r heriau sy'n parhau i wynebu'r rhai sy'n ymdrechu i weithio'n drawsffiniol er mwyn cadw'r cysylltiadau hyn yn fyw.
Yn sgil sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor, mae’n amlwg mai dim ond crafu wyneb y berthynas gymhleth sy’n bodoli rhwng Cymru ac Iwerddon y mae’r adroddiad hwn. Dim ond amser a ddengys a fydd ei alwad olaf, sef bod pwyllgor Senedd yn y dyfodol yn parhau â'r gwaith hwn, yn cael ei hateb.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru