Mae anghenion a dyheadau pawb yn wahanol wrth chwilio am gartref – o’r sawl sy’n prynu am y tro cyntaf, i’r rhai sy’n rhentu, i rywun sy’n chwilio am do uwch ei ben. Ond a yw Llywodraeth newydd Cymru yn gwneud digon i gwrdd ag anghenion tai'r genedl?
Nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi. Mae cyflenwad annigonol o dai yn cael effaith negyddol nid yn unig ar les unigolion, ond ar les economaidd y genedl hefyd. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth newydd Cymru roi blaenoriaeth i gynyddu'r cyflenwad o dai. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae angen adeiladu tai ar raddfa nas gwelwyd ers sawl degawd er mwyn cwrdd â’r angen a'r galw. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y cyflenwad wedi cynyddu yn ddiweddar, ond mae diffyg blynyddol o hyd at 5,000 o gartrefi. Ni welir y cartrefi ychwanegol hynny os bydd y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio ar wahân; yn hytrach, mae angen i’r sector cyfan gydweithio o dan arweiniad strategol Llywodraeth Cymru. Faint o gartrefi sydd eu hangen? Yn ôl ei ymchwil ddiweddar, awgrymodd y diweddar Dr Alan Holmans (a gâi ei gydnabod fel prif arbenigwr y DU ym maes rhagamcanu'r angen a'r galw am dai yn y dyfodol), gallai fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn ar Gymru. Mae hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd a ddisgwylir yn nifer yr aelwydydd un person. Yn 2014-15, adeiladwyd ychydig dros 6,000 o gartrefi newydd yng Nghymru. Hanner canrif yn ôl, câi tua 20,000 o gartrefi'r flwyddyn eu hadeiladu.
Tai fforddiadwy
Mae'r rhain yn cynnwys tai rhent cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn ogystal â thai canolradd. Mae tai canolradd yn golygu eiddo y mae ei bris neu ei rent yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na'r farchnad dai.
Beth yw'r rhwystrau i adeiladu tai? Gyda phrisiau tai canolrifol yng Nghymru dros chwe gwaith yn fwy na'r incwm canolrifol yn 2015 (o'u cymharu â thua thair gwaith yr incwm canolrifol ym 1999), un o'r rhwystrau mawr i berchentyaeth a'r cyflenwad o dai newydd fu'r ffaith ei bod yn anodd sicrhau cyllid morgeisi. I ymdrin â hyn, cyflwynodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru'r cynllun Cymorth i Brynu - Cymru. Mae'n cynorthwyo perchentyaeth trwy ganiatáu i'r sawl sydd â blaendal llai i brynu cartref ac mae hefyd yn cefnogi'r diwydiant adeiladu. Mae'r cynllun wedi helpu tua 3,000 o aelwydydd i brynu cartref. Fe'i hestynnwyd yn ddiweddar i 2021 ac mae posibilrwydd y bydd yn helpu hyd at 6,000 o aelwydydd yn ychwanegol. Wrth sôn am rwystrau rhag datblygu, mae datblygwyr yn cyfeirio at fiwrocratiaeth ddiangen yn y system gynllunio, costau ychwanegol oherwydd rheoliadau adeiladu, cyflenwad annigonol o dir, a'r dull a ddefnyddir i ddarparu tai fforddiadwy mewn datblygiadau newydd. Maent hefyd yn haeru bod hyn yn gwneud Cymru yn lle llai deniadol ar gyfer buddsoddi arian datblygu. Gall y ffactorau hyn effeithio ar ddichonoldeb a rhoi stop ar ddatblygiad cyn iddo ddechrau. Y ffordd ymlaen? Yn hanesyddol, swm cymharol fach yw'r arian cyhoeddus a ddyrannwyd i dai yng Nghymru. A grantiau cyfalaf yn benodol yn annhebygol o gynyddu'n sylweddol yn ystod y Pumed Cynulliad, bydd angen cydweithredu agos â'r sector cymdeithasau tai yn benodol wrth iddo chwilio am ffyrdd mwy arloesol a chynaliadwy o ariannu tai fforddiadwy. Hyd yn oed â chyllid uniongyrchol ychwanegol, ni all Llywodraeth Cymru fodloni'r angen am dai ar ei phen ei hun. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gall Llywodraeth Cymru roi arweiniad strategol a chreu amgylchedd rheoleiddiol sy'n annog ac yn hwyluso gwaith datblygu. Yn y Pedwerydd Cynulliad, ymddengys i Lywodraeth Cymru daro ei tharged o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol. A fydd y Pumed Cynulliad yn gweld targed tai fforddiadwy mwy uchelgeisiol, yn unol ag ymchwil Holmans ac, am y tro cyntaf, darged cyffredinol ar gyfer adeiladu tai? A yw hefyd yn bryd datblygu strategaeth dai genedlaethol newydd? I ryw raddau, caiff llwyddiant Llywodraeth Cymru ei asesu ar sail ystadegau crai: digartrefedd, nifer y tai a adeiledir, a pherchentyaeth. Ond gwyddom fod tai yn cael effaith eang, ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a thlodi, a bod tai hefyd yn dod â manteision ehangach o ran yr economi ac adfywio. Mewn gwirionedd, mae mwy i dai na phedair wal a tho. Yn y cyd-destun hwnnw y dylid tafoli llwyddiant polisi tai Llywodraeth nesaf Cymru. Ffynonellau allweddol- Llywodraeth Cymru, Darpariaeth Tai Fforddiadwy 2014-15 (2015)
- NLP, The Economic Footprint of House Building in Wales (Saesneg yn unig) (2015)
- Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, Future Need and Demand for Housing in Wales (Saesneg yn unig) (2015)
- Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, The Role of the Private Rented Sector in Wales (Saesneg yn unig) (2015)
- Ystadegau Cymru, Adeiladu Tai Newydd (2016)
- Ystadegau Cymru, Amcangyfrifon Stoc Anheddau (2016)
- Y Swyddfa Gymreig, Ystadegau Tai Cymru Rhif 2 1982 (Copi caled) (Saesneg yn unig) (1983)