Mae dementia yn un o'r prif achosion o farwolaeth ledled Cymru a Lloegr. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 46,800 o bobl hŷn (65 oed a hŷn) yn byw gyda dementia yng Nghymru.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn perthynas â gofal a chymorth dementia a'r hyn y gallai fod angen ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Effaith dementia
Cyn y pandemig, dementia oedd prif achos marwolaethau ar draws Cymru a Lloegr.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dementia oedd yn gyfrifol am 3,530 o farwolaethau yng Nghymru yn 2021, sef y trydydd brif achos ar ôl COVID-19 a chlefyd y galon. Dementia yw'r prif achos marwolaethau menywod yng Nghymru o hyd, gyda bron ddwywaith cymaint o fenywod yn marw o ddementia na dynion yn 2021. Fodd bynnag, mae nifer y marwolaethau oherwydd dementia wedi bod yn gostwng yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2018.
Marwolaethau a achoswyd gan ddementia yng Nghymru, 2021
Ffynhonnell: Death registration summary statistics, England and Wales (2013-2021), Office of National Statistics.
Ym mis Mai 2023, nododd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cyfrifiad cenedlaethol wedi cadarnhau bod pobl yn byw i oedran hŷn, a bod Cymru yn gymdeithas sy'n heneiddio. Mae'r cyfrifiad a'r amcanestyniadau poblogaeth eraill yn awgrymu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol iawn yn nifer y bobl dros 80 oed yn ystod y degawdau nesaf.
Heneiddio yw'r ffactor risg mwyaf o ran datblygu dementia. Wrth i’r gyfran o'r boblogaeth sy'n 65 oed a hŷn gynyddu, gall poblogaeth Cymru sy’n heneiddio beri problem o ran gofal dementia. Erbyn 2040, rhagwelir y bydd nifer y bobl hŷn sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn cynyddu 70%.
Rhagwelir y bydd nifer y bobl hŷn â dementia yn cynyddu 70% erbyn 2040
Er bod dementia yn effeithio ar bobl hŷn i raddau helaeth, amcangyfrifir bod dros 42,000 o bobl o dan 65 oed yn y DU yn byw gyda dementia cynnar.
Ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd?
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ym mis Ebrill 2022 ei bod yn benderfynol i "barhau i weithio i sicrhau’r newid trawsnewidiol mewn cymorth dementia y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr iddo".
Mae Cynllun Gweithredu ar gyfer dementia 2018 i 2022 Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018) yn nodi cynlluniau i wella diagnosis, gofal a chymorth i bobl â dementia. Bydd y broses o roi’r cynllun gweithredu ar waith yn cael ei chefnogi gan £9 miliwn sydd ar gael i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn modd integredig ar draws gwasanaethau ac yn canolbwyntio ar anghenion lleol.
Cyhoeddwyd dogfen arall sy’n cyd-fynd â’r cynllun gweithredu (ym mis Medi 2021) sy’n nodi’r meysydd ffocws yn dilyn pandemig COVID-19, a’r effaith y mae hynny wedi’i chael ar bobl sy’n byw gyda dementia.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer dementia, ac mae’n parhau i asesu effaith y cynllun gweithredu ar ofal a chymorth dementia yng Nghymru. Effeithiodd y pandemig ar y gwaith hwn, y disgwylir iddo barhau tan 2023, a bydd yn llywio'r trefniadau olynol. Mae’r ddogfen sy’n cyd-fynd â’r cynllun gweithredu yn gweithredu fel ‘cynllun pontio’ tra bod y blaenoriaethau ar gyfer y trefniadau olynol yn cael eu nodi.
Mae Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru a Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru wedi cael eu cyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod yn dilyn "dull gweithredu cenedlaethol a chydweithredol” o ran cynnig sganio FDG-PET, gyda'r nod o gynyddu diagnosis effeithiol a phrydlon o ddementia.
Mae cyfleoedd dysgu a datblygu wedi cael eu darparu i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd a gofalwyr teuluol, ac mae gan ymchwil a datblygu rôl i’w chwarae hefyd o ran gofal dementia. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol sy'n arwain gwaith ymchwil fel rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd camau mewn perthynas â gofal a chymorth dementia, mae rhai materion wedi cael eu codi yn ymwneud â diagnosis ac argaeledd data.
Diagnosis o ddementia
Mae diagnosis cynnar o ddementia mor bwysig i sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall oedi o ran cael diagnosis gynyddu’r pwysau ar ofalwyr di-dâl sydd eisoes dan bwysau, a gall hefyd olygu, erbyn i unigolyn gael diagnosis, fod angen ymyrraeth fwy sylweddol arno, neu i fynd i ofal preswyl.
Rhoddodd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru wybodaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, yn ystod ei ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022). Dywedodd nad oes unrhyw ddata pendant ar y cynnydd yn y niferoedd sy’n aros am wasanaethau asesu cof ledled Cymru, a’i bod wedi clywed “tystiolaeth anecdotaidd” fod tua 4,000 o bobl yn aros am apwyntiad gwasanaeth asesu cof ddiwedd 2021 yng Nghymru.
Nododd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru hefyd fod y gyfradd diagnosis ar gyfer dementia yng Nghymru wedi gostwng i tua 50% yng nghanol y pandemig. Ar sail y dystiolaeth anecdotaidd a grybwyllwyd uchod, roedd Cymru'n debygol o ychwanegu tua 2,000 o bobl at y nifer amcangyfrifedig o 50,000 o bobl sy'n byw gyda diagnosis o ddementia yng Nghymru ym mis Ionawr 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y pwysau cynyddol ar wasanaethau asesu cof. Yn ogystal â'r £9 miliwn y cyfeiriwyd ato uchod, dyrannwyd £3 miliwn pellach o fuddsoddiad cylchol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi pobl yn ystod y broses asesu ac yn dilyn diagnosis. Mewn ymateb i argymhelliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dywedodd Llywodraeth Cymru y canlynol ym mis Mai 2022:
Mae gwella diagnosis amserol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd y cyllid newydd ar gyfer gwasanaethau diagnostig yn cael ei fonitro gan swyddogion i sicrhau ein bod yn gallu gweld effaith y cyllid hwn ar ffurf mynediad amserol at wasanaethau.
Pa ddata sydd ar gael ynglŷn â phobl sy'n byw gyda dementia?
Gellir defnyddio ffigurau gwahanol i amcangyfrif nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn defnyddio ffigurau o adroddiad a gomisiynwyd gan Gymdeithas Alzheimer's a gyhoeddwyd yn 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod "diagnosis a chofnodi amserol a chywir ar gyfer dementia yn hanfodol i ddarparu'r gofal a'r cymorth cywir”. Fodd bynnag, dywedodd Cymdeithas Alzheimer’s Cymru ym mis Mawrth 2022 fod y data mewn perthynas â dementia yng Nghymru yn ‘arbennig o wael’ ac yn ‘rhywbeth y mae angen i ni ei wella’n sylweddol’. Mae’r angen am ddata hirdymor o ansawdd da ar ddementia wedi cael ei godi hefyd yn y Cyfarfod Llawn, ynghyd â galwad am i Lywodraeth Cymru sefydlu Arsyllfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Dementia i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau dementia.
Er bod Llywodraeth Cymru'n dweud bod galwadau am Arsyllfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Dementia yn “cyd-fynd yn llwyr” â'i bwriad polisi presennol, mae’n credu y gellir cyflawni'r un canlyniadau drwy ddatblygu safonau data a chryfhau ei chysylltiadau â'r byd academaidd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y bydd y data y mae'n eu sefydlu ynghylch asesu a chymorth dementia yn cael eu hadrodd yn genedlaethol a byddant yn agored i'r un lefel o graffu â data ansawdd a pherfformiad eraill y GIG.
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau mewn perthynas â gofal a chymorth ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Fodd bynnag, bydd casgliadau'r gwerthusiad o'r Cynllun Gweithredu Dementia yn nodi a oes tystiolaeth bod y Cynllun wedi gwneud gwelliannau i wasanaethau dementia.
Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a’r cynnydd a ragwelir yn nifer y rhai â dementia, bydd gwelliannau i sicrhau diagnosis prydlon ac argaeledd data digonol yn ffactorau pwysig yn y gwaith o gynllunio’r ddarpariaeth o ran gofal a chymorth yn y dyfodol. Bydd hefyd yn bwysig bod modd monitro cynnydd Llywodraeth Cymru o ran darparu gwasanaethau dementia.
Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru