Cynlluniau i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. A fydd y Bil yn ein hachub neu ai dyma’r ergyd derfynol?

Cyhoeddwyd 07/10/2022   |   Amser darllen munud

Mae gwasanaethau bysiau yn hanfodol i lawer o bobl. Ond yng Nghymru, fel y rhan fwyaf o'r DU, mae niferoedd y teithwyr wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd, ac mae’r pandemig wedi cyflymu’r duedd hon.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn yn cynnig diwygio'r drefn lywodraethu gwasanaethau bysiau. Mae’r newid wedi’i gynllunio ers tro, a chyflwynwyd Bil ym mis Mawrth 2020, ond fe ddisgynnodd o ganlyniad i’r pandemig. Fodd bynnag, mae'r Papur Gwyn yn cynnig newid mwy sylfaenol, ac wrth i wasanaethau frwydro i oroesi, mae llawer iawn yn y fantol.

Beth sydd wedi digwydd i wasanaethau bysiau?

Mae niferoedd y teithwyr wedi bod yn lleihau ledled Prydain Fawr, y tu allan i Lundain, ers degawd. Mae llawer o ffactorau y tu ôl i’r duedd hon, fel mwy o siopa ar-lein, dewisiadau amgen i deithio ar fysiau, a newid yn agweddau'r cyhoedd. Mae cynnydd mewn tagfeydd traffig yn ffactor allweddol sy'n effeithio ar hyfywedd gwasanaethau bysiau.

Mynegai siwrnai teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad a blwyddyn (ac eithrio Llundain)

Siart yn dangos mynegai siwrnai teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad a blwyddyn ym Mhrydain Fawr (ac eithrio Llundain) rhwng 2005 a 2021. Mae'r Siart yn dangos dirywiad graddol ym mhob gwlad o tua 2008, a dirywiad serth iawn ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2021. Dechreuodd pob gwlad wella yn 2021. Ond mae niferoedd y teithwyr yn parhau i fod yn sylweddol isel. Syrthiodd Cymru ymhellach ac mae'n parhau i fod yn is na'r Alban a Lloegr.

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth

Cafodd gwasanaethau eu chwalu gan y pandemig. Mae’r galw wedi parhau’n isel yn dilyn pryderon cychwynnol ynghylch iechyd, a chyngor i beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gyllido ei Chynllun Brys ar gyfer Bysiau i gefnogi gweithredwyr.

Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn rhagweld os byddwn yn parhau ar y trywydd presennol y bydd Cymru ond yn cyrraedd 90 y cant o lefelau niferoedd y teithwyr cyn y pandemig erbyn 2030.

Rhaid i rywbeth newid os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau newid moddol.

Pam fod hyn o bwys?

Mae trafnidiaeth wyneb yn cynrychioli 14 y cant o allyriadau carbon Cymru, felly mae adfer trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol er mwyn cyrraedd ymrwymiadau newid hinsawdd.

Ond mae teithio ar fysiau yn angenrheidiol hefyd er mwyn mynd i’r afael ag amddifadedd cymdeithasol. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru fynediad at gar, a bod 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau yn anabl neu â salwch tymor hir. Mae adroddiad diweddar Sustrans Cymru yn dweud bod byw mewn tlodi trafnidiaeth yn “brofiad eang heddiw” yng Nghymru.

Canfu ymchwil gan Brifysgol De Cymru a oedd yn monitro effaith y pandemig ar fynediad at wasanaethau cyhoeddus ar fysiau mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig welodd y dirywiad mwyaf o ran mynediad o ganlyniad i Covid.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig?

Mae'r Papur Gwyn, Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â strategaeth bysiau ehangach, yn cynnig:

  • gwneud masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ofynnol ledled Cymru;
  • caniatáu i Awdurdodau Lleol greu cwmnïau bysiau trefol newydd; a
  • llacio'r cyfyngiadau ar gwmnïau bysiau trefol presennol.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn esbonio sut mae’r sector bysiau ym Mhrydain Fawr, y tu allan i Lundain, wedi cael ei ddadreoleiddio ers 1986. Y gweithredwyr sy’n gyfrifol am gynllunio'r rhan fwyaf o wasanaethau, y tocynnau a’r prisiau teithio. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau rhwydwaith effeithiol, ond dim ond pwerau cyfyngedig (a chyllid) sydd ganddynt i lenwi bylchau yn y farchnad.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dweud:

…. mae’r ffactorau hyn yn creu cyd-destun cymhleth ar gyfer cynllunio a darparu trafnidiaeth gyhoeddus, gyda chyfrifoldebau darniog, sy’n golygu nad yw’r sector bysiau’n gallu ymateb i heriau gostyngiad tymor hir yn nifer y defnyddwyr mewn ffordd gydlynol a strategol.

Masnachfreinio yw elfen allweddol y Papur Gwyn. Byddai'r sector cyhoeddus yn cynllunio’r gwasanaethau, gydag awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig rhanbarthol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddylunio rhwydweithiau i ddiwallu anghenion y cyhoedd gan ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael. Byddai gweithredwyr yn gwneud cais am gontractau i redeg gwasanaethau yn unol â gofynion yr awdurdod masnachfreinio.

Llywodraeth Cymru, yn hytrach nag awdurdodau lleol, fyddai’r ‘awdurdod masnachfreinio’. Byddai'n ysgwyddo’r risg o ran refeniw, yn cael incwm o werthiant tocynnau, ac yn talu ffi i’r gweithredwyr.

Mae'r Papur Gwyn hefyd yn cynnig rhoi caniatâd i awdurdodau lleol redeg eu gwasanaethau bysiau eu hunain - mae hyn wedi’i wahardd ar hyn o bryd ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

A yw hyn yn wahanol i'r Bil blaenorol?

Gorfododd y pandemig Lywodraeth Cymru i dynnu’r Bil Gwasanaethau Bws (Cymru) yn ôl ym mis Mawrth 2020.

Darparodd y Bil hwnnw ddau 'offeryn' statudol i awdurdodau lleol - 'Cynlluniau Partneriaeth Cymru' a 'Chynlluniau Masnachfreinio Cymru'. Roedd y ddau yn ddiweddariadau i ddulliau statudol presennol.

Yn wahanol i gynlluniau'r Papur Gwyn, nid oedd y naill na'r llall yn orfodol. Byddai awdurdodau lleol eu hunain yn awdurdod masnachfreinio pe baent yn penderfynu ar y dull hwnnw.

Fel y Papur Gwyn, byddai Bil 2020 wedi dileu cyfyngiadau ar weithrediadau bysiau awdurdodau lleol. Rhoddodd sylw hefyd i’r wybodaeth a ddarperir gan weithredwyr bysiau.

Disgrifiodd papur Ymchwil y Senedd ym mis Mawrth 2020 ddatblygiad Bil 2020.

Beth sy'n digwydd mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr?

Mae llawer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt yn defnyddio modelau math masnachfraint. Fodd bynnag, ar hyn o bryd Llundain yw'r unig ran o Brydain Fawr sy'n defnyddio masnachfreinio.

Mae deddfwriaeth ddiweddar yn yr Alban a Lloegr wedi ceisio diwygio trefniadau llywodraethu gwasanaethau bysiau. Fodd bynnag, nid yw'r naill Ddeddf na'r llall yn gwneud masnachfreinio yn orfodol.

Yn Lloegr, mae Deddf Gwasanaethau Bysiau 2017  yn rhoi'r opsiwn i Awdurdodau Cyfun â Maer weithredu masnachfreintiau. Mae angen rheoliadau i ganiatáu i awdurdodau lleol eraill wneud hynny. Roedd hefyd yn deddfu ar gyfer 'Partneriaethau Ansawdd Uwch' a 'Phartneriaethau Gwell', ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth. Yn wahanol i’r cynigion ar gyfer Cymru, mae'n atal awdurdodau lleol rhag creu cwmnïau bysiau trefol newydd.

Ar hyn o bryd, mae Manceinion Fwyaf yn gweithredu masnachfreinio, yn dilyn her gyfreithiol, ar ôl dechrau'r broses yn 2017. Mae Rhanbarth Dinas Lerpwl, Awdurdod Cyfun Swydd Gaergrawnt a Peterborough, Awdurdod Cyfun Gorllewin Swydd Efrog ac Awdurdod Cyfun De Swydd Efrog hefyd yn ystyried y dull hwn.

Pasiodd Senedd yr Alban Ddeddf Trafnidiaeth (Yr Alban) 2019, sy’n rhoi’r dewis i awdurdodau lleol fasnachfreinio, neu ddefnyddio Partneriaethau Gwella Gwasanaethau Bysiau. Fodd bynnag, nid yw’r pwerau hyn wedi cael eu defnyddio eto. Mae Deddf yr Alban hefyd yn caniatáu cwmnïau bysiau awdurdodau lleol ac yn mynd i'r afael â darparu gwybodaeth.

Beth mae rhanddeiliaid wedi ei ddweud?

Nid yw canlyniad yr ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi eto. Serch hynny, canfu ymchwiliad i ddyfodol gwasanaethau bysiau a threnau Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd farn gymysg am y cynigion.

Dywedodd Yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well fod y Papur Gwyn yn weledigaeth uchelgeisiol iawn sydd i'w groesawu, ond amlygodd yr angen am gyllid ac arbenigedd yn y sector cyhoeddus.

Mewn tystiolaeth lafar, roedd y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn gyffrous iawn, a dywedodd bod ei haelodau:

… really welcome the aspiration of delivering public buses and an integrated public transport network as a public service, rather than something that is driven by the totally rational aspiration that you need to make money.

Roedd gweithredwyr bysiau a llywodraeth leol, er eu bod yn croesawu agweddau ar y cynigion, wedi mynegi pryderon. Yn benodol, roedden nhw'n cwestiynu fforddiadwyedd ac argaeledd sgiliau'r sector cyhoeddus i gynllunio rhwydweithiau.

Nododd gweithredwyr risgiau i weithredwyr bysiau busnesau bach a chanolig. Heb unrhyw sicrwydd o sicrhau masnachfraint, roedden nhw hefyd yn poeni am yr effaith ar fuddsoddiad gweithredwyr, gan gynnwys mewn bysiau trydan, o ystyried nad oes unrhyw sicrwydd y bydd gweithredwr yn ennill masnachfraint.

Roedd llywodraeth leol yn gweld risgiau o ran gwahanu cynlluniau gwasanaethau bysiau lleol oddi wrth gludiant ysgol a fyddai’n parhau i fod yn gyfrifoldeb awdurdodau lleol. Holodd hefyd beth fyddai effaith caffael canolog ar ddemocratiaeth leol, ac a fyddai unrhyw gwmnïau bysiau trefol newydd yn cael eu creu.

Pwysleisiodd y corff gwarchod teithwyr Transport Focus fod teithwyr yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth a ddarperir, nid y trefniadau llywodraethu. Ansawdd y gwasanaeth, felly, fydd y prawf yn y pen draw.

O ystyried pwysigrwydd gwasanaethau bysiau, mae llawer yn y fantol. A fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei gwobrwyo am ei huchelgais neu a fydd yn talu pris uchel? Dim ond amser a ddengys.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru