Cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 – beth sydd i ddod?

Cyhoeddwyd 23/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2021-22 (y Gyllideb) ar 21 Rhagfyr 2020. Mae'n amlinellu newidiadau sylweddol i drethi datganoledig yng Nghymru ynghyd â’r cyllid y bydd pob un o adrannau Llywodraeth Cymru yn ei gael. Cyhoeddir y Gyllideb yng nghyd-destun cryn ansicrwydd ynghylch cyfeiriad pandemig COVID-19 a'r cyllid cysylltiedig y byddai Llywodraeth Cymru yn ei gael o ganlyniad i ddyraniadau gwariant ychwanegol y gallai fod eu hangen yn Lloegr.  Mae ansicrwydd hefyd ynglŷn â chysylltiadau masnachu ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Y prif ffigurau

Mae’r Gyllideb yn cadarnhau y bydd £766 miliwn yn cael ei ddarparu drwy gyllid canlyniadol Barnett mewn perthynas â COVID-19 yn 2021-22. Mae hyn yn llai na'r £5 biliwn mewn cyllid canlyniadol y mae Cymru wedi’i gael hyd yn hyn yn ystod 2020-21, gan fod nifer o gynlluniau cyllido COVID-19 yn Lloegr wedi dod i ben. Yn dibynnu ar sut mae’r pandemig yn datblygu, mae'n bosibl y bydd cyllid canlyniadol ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru erbyn i'r Gyllideb Derfynol fod yn barod i'w chyhoeddi, neu yn ystod 2021-22.

Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu £420 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a £176 miliwn i fynd i’r afael â’r pwysau ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r Gyllideb hefyd yn cynnwys y dyraniadau a ganlyn:

  • £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai;
  • £20 miliwn i gefnogi teithio llesol;
  • Dros £20 miliwn i fynd i’r afael â phwysau demograffig o ran addysg chweched dosbarth ac addysg bellach;
  • £8.3 miliwn i gefnogi diwygio'r cwricwlwm;
  • £9.4 miliwn i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau ac ysgolion;
  • £274.7 miliwn ar gyfer buddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd a metros;
  • £36.8 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol, gan fynd â chyfanswm y gyllideb i £200 miliwn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod;
  • £5 miliwn i ddatblygu'r Goedwig Genedlaethol ac i fuddsoddi mewn bioamrywiaeth.

Cafodd Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2021-22 gan Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi ar 22 Rhagfyr 2020, gyda £4.65 biliwn o gyllid i awdurdodau lleol mewn cyllid refeniw craidd a chronfeydd cyfraddau annomestig, ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofiwch ddarllen blog Senedd Ymchwil ar y pwnc hwn, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Dyraniadau Adrannol

Mae'r ffeithlun isod yn amlinellu'r dyraniadau yn ôl portffolio yn y Gyllideb, gyda chymariaethau â Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

Fel arfer, byddai ffigurau'r Gyllideb yn cael eu cymharu â'r Gyllideb Atodol ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn yr achos hwn, byddai hyn yn golygu cymhariaeth â'r Ail Gyllideb Atodol 2020-21, a gyhoeddwyd ar 20 Hydref 2020. Oherwydd effaith gwariant untro ychwanegol o ganlyniad i COVID-19 yn ystod 2020-21, a adlewyrchir yn y Cyllidebau Atodol ar gyfer 2020-21, mae ein cymariaethau isod yn defnyddio’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, gan fod hyn yn rhoi llinell sylfaen fwy perthnasol wrth gymharu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae cyllideb refeniw craidd dyranedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 oddeutu £16.5 biliwn, a dyrennir y rhan fwyaf ohono i wariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cyllid ychwanegol sylweddol ar draws yr holl bortffolios, gyda'r cynnydd mwyaf sylweddol yn nhermau ariannol ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£425 miliwn) a Thai a Llywodraeth Leol (£268 miliwn). Mae'r Gyllideb hefyd yn darparu ar gyfer pecyn cychwynnol o £77 miliwn mewn cyllid COVID-19, i gefnogi prydau ysgol am ddim ac i sicrhau y gall y rhaglen olrhain cysylltiadau barhau i weithredu.

Codi mwy o refeniw o 'ail gartrefi'

Mae'r dogfennau sy'n cyd-fynd â'r Gyllideb yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu'n bennaf gan grant bloc gan Lywodraeth y DU, ond bod datganoli pwerau treth yn golygu y bydd tua 17 y cant o wariant Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu o refeniw trethi yn 2021-22.

Un newid sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2021-22 yw y bydd y cyfraddau preswyl uwch o’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu cynyddu ar eiddo ychwanegol, neu 'ail gartrefi'. Mae hwn yn dâl ychwanegol a all fod yn gymwys ‘lle mae unigolyn, sydd eisoes yn berchen ar un neu ragor o eiddo preswyl, yn prynu eiddo preswyl pellach’.

Ar y trothwy prisiau isaf, ar eiddo gwerth hyd at £180,000, mae'r gyfradd wedi cynyddu i 4 y cant, i fyny o 3 y cant. Mae'r bandiau eraill i gyd wedi cynyddu 1 y cant, yn amodol ar gytundeb yn y Senedd, a fydd yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020, o'i gymharu â'r cyfraddau blaenorol sydd wedi bod ar waith ers 1 Ebrill 2019.

Pris

Trothwy

Cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir

(1 Ebrill 2019 i 21 Rhagfyr 2020)

Cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir

(22 Rhagfyr 2020 ymlaen)

£0 i £180,000

3%

4%

Rhwng £180,000 a £250,000

6.5%

7.5%

Rhwng £250,000 a £400,000

8%

9%

Rhwng £400,000 a £750,000

10.5%

11.5%

Rhwng £750,000 a £1,500,000

13%

14%

£1.5 miliwn a mwy

15%

16%

Rhagwelir y bydd y newid hwn yn codi £14 miliwn o refeniw treth ychwanegol. 

Beth nesaf?

Bydd gan lawer o Bwyllgorau'r Senedd gyfnod prysur ym mis Ionawr, yn holi Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru ynghylch beth mae’r gyllideb arfaethedig hon yn ei olygu ar gyfer eu portffolios. Bydd eu hadroddiadau ac adroddiadau'r Pwyllgor Cyllid yn cael eu trafod ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror 2021, gyda'r sesiwn yn cael ei darlledu'n fyw ar SeneddTV.

Y cynllun yw i'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22 gael ei chyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a'i thrafod ar 9 Mawrth 2021, cyn i Gyllideb Llywodraeth y DU gael ei chyhoeddi y mis hwnnw.

 

Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru