Cynlluniau Ad-drefnu Byrddau Iechyd Lleol – y wybodaeth ddiweddaraf
Cyhoeddwyd 20/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
20 Ionawr 2014
Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cendelaethol Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei gynigion terfynol ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin Cymru. Ar ôl yr ymgynghoriad ffurfiol, bu Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda yn gohebu â’r Bwrdd Iechyd, gan nodi rhai pryderon ynghylch y cynigion. Er bod penderfyniad wedi’i wneud ynghylch rhai o’r materion, roedd materion eraill a oedd yn parhau i achosi pryder i’r Cyngor Iechyd Cymuned (Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli; a gwasanaethau newyddenedigol – yn benodol, o ran Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg). Sefydlodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Banel Craffu annibynnol i edrych yn fanwl ar yr holl ddogfennau perthnasol ac i ystyried y materion dan sylw.
Cyflwynodd y Panel ei adroddiad ym mis Medi 2013, ac roedd yr adroddiad yn cefnogi’r achos dros gyfnewid Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli, ac yn cynnig y dylid sefydlu Uned Ymarferydd Nyrsio Brys gyda chefnogaeth gan Feddygon Teulu fel model ar gyfer gofal yn yr Ysbyty yn y dyfodol. Ym mis Rhagfyr 2013, nododd y Gweinidog y bydd y model ar gyfer gofal brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn cael ei arwain yn glinigol gan feddygon a’i ddarparu ar y cyd gydag ymarferwyr nyrsio brys.
O ran y gwasanaethau newyddenedigol, er bod cynigion gwreiddiol y Bwrdd Iechyd wedi’u cymeradwyo i raddau helaeth (h.y. gwasanaeth mewn haenau ym Mronglais, Llwynhelyg a Glangwili, yn darparu gofal ar gyfer y mwyafrif helaeth o fabanod a gaiff eu geni yn y cymunedau hynny, uned newyddenedigol Lefel Dau yng Nglangwili ar gyfer genedigaethau sydd angen gofal ar lefel uwch yn ardal Hywel Dda yn ehangach, a bod y nifer fach iawn o enedigaethau cymhleth sydd angen gofal ar Lefel Tri yn parhau i gael gwasanaethau drwy’r rhai a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg), ni allai’r Panel ddod i gasgliad terfynol. Dywedodd y Panel na allai wneud penderfyniad nes bod cytundeb ar gynlluniau clir a phendant ar gyfer gwasanaethau obstetrig a gwasanaethau bydwreigiaeth ar gyfer ardal Hywel Dda. Cynigiodd y Panel, fodd bynnag, y dylai’r gwasanaeth cludiant presennol ar gyfer babanod newydd-anedig gael ei ymestyn i weithredu 24 awr y dydd pan fyddai angen am wasanaeth Lefel Dau yn codi ar sail heb ei gynllunio. Dywedodd y Gweinidog y dylai’r Bwrdd Iechyd gyflawni gwaith pellach o ran ei wasanaethau obstetrig, bydwreigiaeth a’i wasanaethau gynaecolegol, ac amlinellu’n gwbl glir sut y mae’r gwasanaethau hyn yn cysylltu â’i gynigion ar gyfer gwneud newidiadau i wasanaethau newyddenedigol, ac ar ei ymateb i gynnig y Panel i ymestyn y gwasanaeth cludiant ar gyfer babanod newydd-anedig i weithredu 24 awr y dydd. Y disgwyl oedd y byddai’r gwaith hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2013. Unwaith y bydd y gwaith ychwanegol wedi’i orffen, bydd y Panel yn ail-gynnull ac yn darparu cyngor i’r Gweinidog. Disgwylir y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Ionawr 2014.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei gynigion terfynol ar gyfer newidiadau i wasanaethau gofal iechyd yng Ngogledd Cymru mewn pedwar maes (Gwasanaethau Ardaloedd a Chymunedau; Gwasanaethau Gofal Dwys Newyddenedigol; Pobl Hŷn ag Anghenion Iechyd Meddwl; a Gwasanaethau Fasgwlaidd). Ym mis Mawrth 2013, cyfeiriodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr rai elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd at Lesley Griffiths AC, y cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i benderfynu arnynt. Ers hynny, mae’r Gweinidog, Mark Drakeford AC, wedi cael llythyr gan y Cyngor Iechyd Cymuned a’r Bwrdd Iechyd ar y cyd (ym mis Gorffennaf 2013) yn cadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb ar y materion a oedd eto i’w datrys, a bod y Cyngor Iechyd Cymuned yn fodlon bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio gyda phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus drwyddynt draw, i ddeall yn well y problemau mynediad o ran trafnidiaeth leol ac i nodi cyfleoedd ar y cyd a allai fod ar gael ar gyfer gwella.
Rhaglen De Cymru
Ym mis Mai 2013, lansiodd Rhaglen De Cymru ei dogfen ymgynghori ar ddyfodol gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gofal newyddenedigol, pediatreg cleifion mewnol a meddygaeth frys (Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys). Dywedwyd yn wreiddiol y byddai’r Byrddau Iechyd (sy’n ffurfio Rhaglen De Cymru) yn cyfarfod ym mis Hydref 2013 i wneud penderfyniad ar ganlyniad Rhaglen De Cymru. Fodd bynnag, cafodd y cyfarfod hwnnw ei ohirio oherwydd y swm sylweddol o ymatebion a gafwyd (dros 61,000), ac i roi amser i ddadansoddi’r ymatebion yn briodol.
Er ei bod yn ansicr, ar hyn o bryd, pa opsiynau y mae rhai Cynghorau Iechyd Cymuned yn eu dewis (Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Brycheiniog a Maesyfed, Caerdydd a’r Fro a Chyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf, sy’n gwasanaethu ardal Rhaglen De Cymru) mae tri Chyngor Iechyd Cymuned wedi nodi eu safbwyntiau yn glir:
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan yn dewis opsiwn 3 – pum safle: Ysbyty Athrofaol Cymru (Caerdydd), Ysbyty Treforys (Abertawe); Canolfan Gofal Critigol Arbenigol (Cwmbran); Ysbyty’r Tywysog Siarl (Merthyr Tudful); Ysbyty Tywysoges Cymru (Pen-y-Bont ar Ogwr).
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed yn dewis opsiwn 1 – pedwar safle: Ysbyty Athrofaol Cymru (Caerdydd), Ysbyty Treforys (Abertawe); Canolfan Gofal Critigol Arbenigol (Cwmbran); Ysbyty’r Tywysog Siarl (Merthyr Tudful).
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro yn dewis opsiwn 2 – pedwar safle: Ysbyty Athrofaol Cymru (Caerdydd), Ysbyty Treforys (Abertawe); Canolfan Gofal Critigol Arbenigol (Cwmbran); Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Llantrisant) (oherwydd bod y Cyngor Iechyd Cymuned yn pryderu ynghylch cynaliadwyedd y modelau 5-Canolfan).
Bu bwrdd Rhaglen De Cymru yn gweithio ar ddatblygu cyfres o argymhellion i’w cyflwyno i gyfarfodydd y bwrdd arbennig, a chytuno arnynt. Disgwylir y bydd cyfarfodydd y bwrdd iechyd arbennig ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael eu hail-drefnu ar gyfer dechrau 2014. Bydd y byrddau iechyd unigol yn ystyried argymhellion bwrdd y Rhaglen, yr holl wybodaeth arall a gasglwyd am Raglen De Cymru a’r ymgynghoriad, ynghyd â’r adborth gan y Cynghorau Iechyd Cymuned unigol pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad.