Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Cynlluniau Ad-drefnu Byrddau Iechyd Lleol - Diweddariad
Cyhoeddwyd 24/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Erthygl wedi’i ysgrifennu gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Ym mis Rhagfyr 2011 lansiodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei ymarfer ymgysylltu cyn ymgynghori, Eich iechyd, Eich Dyfodol, a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2012. Rhoddodd yr ymarfer gwrnado ac ymgysylltu nifer o opsiynau posibl ar gyfer diwygio'r bwrdd iechyd gan wahodd barn ac adborth ar y cynigion. Lansiwyd yr ymgynghoriad ffurfiol, Eich Iechyd Eich Dyfodol - Ymgynghori â'n Cymunedau, ym mis Awst 2012 a daeth i ben ar 29 Hydref 2012. Cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei gynigion terfynol ym mis Ionawr 2013. Ar ôl yr ymgynghoriad ffurfiol bu gohebiaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Iechyd Cymuned (CIC) Hywel Dda lle y cododd y CIC rai pryderon ynghylch y cynigion. Er bod rhai materion wedi eu datrys mae rhai materion eraill sy'n parhau i fod yn destun pryder i'r CIC (Gwasanaethau Newyddenedigol - yn benodol mewn perthynas ag Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg; a gwasanaethau Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli). Mae Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi sefydlu Panel Craffu i edrych ar bob dogfennaeth berthnasol ac ystyried y materion. Bydd y Panel yn rhoi cyngor ac yn gwneud argymhellion ar y gwasanaethau dan sylw a bydd y Gweinidog yn gwneud ei benderfyniad ar sail hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn cynnal nifer o adolygiadau o wasanaethau penodol. Datblygwyd senarios posibl ar gyfer newid gan glinigwyr ac fe'u cyflwynwyd i'r Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2012. Gyda chytundeb y CIC, penderfynodd y Bwrdd Iechyd gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau sylweddol mewn pedwar maes (Gwasanaethau Ardaloedd a Chymunedau; Gwasanaethau Gofal Dwys Newyddenedigol; Pobl Hŷn ag Anghenion Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Fasgwlaidd) y bydd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arnynt. Lansiwyd yr ymgynghoriad ffurfiol, Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid, ym mis Awst 2012 a daeth i ben ar 28 Hydref 2012. Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd ei gynigion terfynol ar gyfer newidiadau i wasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd. Ym mis Mawrth 2013, cyfeiriodd CIC Betsi Cadwaladr elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd i'r cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC, i'w penderfynu. Ar ôl cyfarfodydd ar wahân rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o'r CIC a'r Bwrdd Iechyd, roedd y ddwy ochr yn credu bod ffordd ymlaen i ddatrys y materion hyn. Ers hynny mae'r Gweinidog newydd, Mark Drakeford AC, wedi cael llythyr ar y cyd gan y CIC a'r Bwrdd Iechyd sy'n cytuno eu bod wedi dod i gytundeb ar y materion a oedd eto i'w datrys. Bellach, mae'r CIC yn fodlon, yn amodol ar ganlyniad boddhaol y prosesau monitro ac adolygu a amlygwyd ganddo, ei fod wedi dod i gytundeb yn lleol ar elfennau o gynigion y Bwrdd Iechyd yr oedd wedi'u cyfeirio at y Gweinidog i'w penderfynu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.Rhaglen De Cymru
Sefydlwyd Rhaglen De Cymru ym mis Ionawr 2012. Mae Bwrdd Rhaglen De Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr i edrych ar sut y dylai rhai gwasanaethau ysbytai arbenigol gael eu darparu yn y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar bedwar gwasanaeth ysbyty - gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gofal newyddenedigol, pediatreg cleifion mewnol a meddygaeth frys (Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys). Mae'r pum bwrdd iechyd (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro; Bwrdd Iechyd Cwm Taf; a Bwrdd Iechyd addysgu Powys), sy'n gwasanaethu pobl sy'n byw yn Ne Cymru a De Powys, wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wella ansawdd y gofal yn yr arbenigeddau hyn ac i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu o ran y gweithlu. Ym mis Medi 2012 lansiodd Rhaglen De Cymru ei dogfen ymgysylltu â'r cyhoedd, Cydweddu â’r gorau yn y byd – Yr her sy’n wynebu gwasanaethau ysbyty yn Ne Cymru, a ddaeth i ben ar 19 Rhagfyr 2012. Lansiwyddogfen ymgynghori lawn Rhaglen De Cymru, sy'n amlinellu'r opsiynau ar gyfer dyfodol y pedwar gwasanaeth ysbyty, ym mis Mai 2013 a daeth i ben ar 19 Gorffennaf 2013. Bydd Byrddau Iechyd yn gwneud eu penderfyniadau terfynol yng nghyfarfodydd eu Byrddau ym mis Hydref 2013. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.Erthygl wedi’i ysgrifennu gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.