Cynllun newydd ar gyfer Cymru Sero Net

Cyhoeddwyd 02/12/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2 (2021-25) ("y Cynllun Sero Net" neu "y Cynllun") gan Lywodraeth Cymru ar 28 Hydref 2021. Mae'n nodi sut y bydd Cymru'n cyrraedd ei hail gyllideb garbon (CG2), ac yn adeiladu'r sylfeini ar gyfer Cyllideb Garbon 3 (CG3) a’r targed i leihau allyriadau erbyn 2030, yn ogystal â chyflawni sero net erbyn 2050. Mae crynodeb o’r targedau a'r cyllidebau ein herthygl ar y llwybr at allyriadau sero.

Mae'r Cynllun Sero Net yn cyflawni dyletswydd statudol Gweinidogion Cymru (o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) i baratoi a chyhoeddi adroddiad cyn diwedd 2021, gan nodi'r polisïau a'r cynigion ar gyfer bodloni CG2. Mae'n cynnwys 123 o bolisïau a chynigion ar draws yr holl bortffolios gweinidogol. Mae'r cynllun yn dilyn y cynllun cyflawni carbon isel (LDCP1) ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (CG1), Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019.

Mae'r papur briffio hwn yn crynhoi'r fframwaith datgarboneiddio yng Nghymru a’r cynnydd o ran lleihau allyriadau, ac mae’n amlinellu'r uchelgais, y polisïau a'r cynigion yn y Cynllun. Mae'n amlinellu safbwyntiau cychwynnol rhanddeiliaid a sut mae'r Cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Sero Net ehangach y DU.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru