Cyhoeddwyd 14/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
14 Mehefin 2016
Erthygl gan Nia Seaton. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English |
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael pwerau i ddatblygu cynllun morol ers 2009, ond mae hi eto i fwrw’r maen i’r wal. Saith mlynedd yn ddiweddarach, a fydd cynllun morol yn cael ei fabwysiadu yn y Pumed Cynulliad?
Mae moroedd tiriogaethol Cymru yn cwmpasu
rhyw 32,000 cilomedr sgwâr, sy’n golygu bod ardal forol Cymru lawer yn fwy na'i thir. Mae moroedd Cymru yn bwysig oherwydd eu dylanwad amgylcheddol ac economaidd ill dau. Dyma foroedd ac ynddynt
129 o safleoedd cadwraeth natur forol sydd wedi'u dynodi am eu pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, tra’u bod hefyd yn cynnal gweithgarwch economaidd pwysig megis pysgota, y diwydiant llongau, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy.
Ers nifer o flynyddoedd, mae rhanddeiliaid wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ffordd fwy strategol o ofalu am yr amgylchedd morol, er mwyn rheoli gwahanol elfennau sy’n aml yn cystadlu â’i gilydd. Cafodd Llywodraeth Cymru bwerau i ddatblygu cynllun morol o dan
Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Fodd bynnag, nid yw wedi mabwysiadu cynllun o’r fath hyd yma.
Beth yw cynllunio morol a pham fod hyn yn bwysig?
Mae
Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn Ddeddf nodedig sy'n rhoi i weinyddiaethau ar draws y DU y gallu cyfreithiol angenrheidiol i fabwysiadu cynlluniau gofodol ar gyfer eu moroedd. Nod y Ddeddf yw annog dull mwy strategol o ddiogelu a datblygu'r amgylchedd morol. Gallai hyn warchod ardaloedd cadwraeth morol pwysig y DU yn ogystal â helpu’r gwledydd i fanteisio ar botensial economaidd y moroedd mewn ffordd gynaliadwy.
Pwrpas cynllun morol yw nodi ar sail ofodol yr amcanion strategol sydd gan lywodraeth ar gyfer ei moroedd, a nodi hefyd ble a sut y bydd yn rheoli gwahanol elfennau sy'n cystadlu â’i gilydd am adnoddau morol. Er enghraifft, gall cynllun nodi pa ardaloedd o'r môr fydd yn cael eu diogelu ar gyfer cadwraeth natur, pa ardaloedd fydd yn cael eu diogelu ar gyfer y sector pysgota a pha ardaloedd fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer ynni adnewyddadwy morol. Mae rhanddeiliaid o bob sector yn dadlau bod cynlluniau o'r fath yn rhoi mwy o sicrwydd ac yn eu galluogi i gydweithio'n fwy effeithiol.
Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
O dan Ddeddf 2009 mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau ar gyfer rhanbarth glannau Cymru (0-12 milltir fôr) a rhanbarth y môr mawr (o 12 milltir fôr at y ffin ag Iwerddon).
Dechreuodd y gwaith i
ddatblygu cynllun morol ar gyfer Cymru yn 2011 pan aeth Llywodraeth Cymru ar y pryd ati i ymgynghori ar hyn. Y nod ar y cychwyn oedd cael fersiwn gyntaf y cynllun yn barod erbyn diwedd 2012 neu ddechrau 2013.
Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru
ddrafft cychwynnol o gynllun ym mis Tachwedd 2015. Ymgynghorwyd a gwahoddwyd sylwadau anffurfiol ar hwn tan ddiwedd Ionawr 2016. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ei bwriad i ymgynghori'n ffurfiol ar gynllun drafft yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o gael cynllun terfynol yn barod erbyn diwedd 2016 neu ddechrau 2017.
Galwodd dau bwyllgor gwahanol yn y Pedwerydd Cynulliad, sef y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r
Pwyllgor Menter a Busnes, ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i ddatblygu cynllun morol. Teimlai'r ddau bwyllgor mai cael cynllun o'r fath oedd y ffordd orau o sicrhau bod Cymru yn diogelu ei hamgylchedd naturiol ond hefyd yn manteisio i’r eithaf ar botensial ei heconomi forol.
Nododd
adroddiad cyntaf y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn 2013 fod rhanddeiliaid yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn aml yn trin yr amgylchedd a'r economi forol fel rhywbeth atodol yn unig. Nododd
adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn 2016 bryderon rhanddeiliaid bod y feddylfryd hon yn dal i barhau bedair blynedd yn ddiweddarach.
O ystyried pwysigrwydd y mater, awgrymodd yr adroddiad y gallai Aelodau'r Pumed Cynulliad graffu ar y cynnydd a wneir tuag at fabwysiadu cynllun, yn ogystal â chraffu ar sut y bydd y cynllun yn cael ei weithredu maes o law.
Ffynonellau allweddol