Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy drafft hir ddisgwyliedig ym mis Gorffennaf 2022. Mae’r cynllun yn cyflwyno dull uchelgeisiol newydd o ran cymorth i amaethyddiaeth ar ôl Brexit a allai newid ffermio a thirweddau yng Nghymru yn ddramatig.
Yn seiliedig ar yr egwyddor o reoli tir yn gynaliadwy, byddai’r cynllun yn gwobrwyo ffermwyr am gymryd camau gweithredu i ymdrin â’r argyfyngau natur a hinsawdd ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Gellir dadlau bod y polisi hwn yn mynd y tu hwnt i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, o ran cefnogi gwaith ehangach i wella gweithgarwch rheoli tir.
Mae’r papur briffio hwn yn adrodd hanes y cyfnod sy’n arwain at gyhoeddi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft, gan gynnwys y blaenoriaethau y mae rhanddeiliaid wedi’u nodi drwy gydol y broses ymgynghori. Mae'n crynhoi'r cynllun sy'n dod i'r amlwg a'r ymatebion iddo, yn ogystal â’r trefniadau o ran cyfnod pontio ac ymgynghoriadau ychwanegol.
Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru