Cynllun Adfer Natur Cymru

Cyhoeddwyd 20/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Hydref 2014 Erthygl gan Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1711" align="aligncenter" width="640"]Y Mynydd Du ger Talgarth "Y Mynydd Du ger Talgarth" Trwyddedig o dan diroedd comin creadigol ©Les Haines[/caption]

O dan y Confensiwn Rhyngwladol ar Amrywiaeth Fiolegol 1992 addawodd llywodraethau ledled y byd i atal colli bioamrywiaeth fyd-eang erbyn 2010. Methodd Cymru â gwneud hynny, ynghyd â phob llofnodwr arall i’r Confensiwn.

O ganlyniad i fethiant Cymru i gyrraedd targedau 2010, cynhaliodd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad blaenorol ymchwiliad yn 2010, i ystyried pam y methodd Llywodraeth Cymru, a gwnaeth 19 o argymhellion ar sut y gallai’r dull gweithredu o ran atal colli bioamrywiaeth yng Nghymru gael ei wella. Ers 2010, mae llywodraethau ledled y byd wedi ymrwymo i gyfres newydd o dargedau, sef targedau Aichi 2020, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i gyflawni’r nodau hyn.

Dair blynedd wedi’r ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU, cyhoeddodd partneriaeth o 25 o sefydliadau Adroddiad ar Gyflwr Natur i asesu cynnydd y DU tuag at gyflawni ei uchelgeisiau erbyn 2020. Edrychodd yr adroddiad ar statws rhywogaethau a chynefinoedd ar draws y DU, a daeth i’r casgliad, o’r 3,148 o rywogaethau a astudiwyd, roedd 60% wedi dirywio dros y degawdau diwethaf yn y DU, gydag un rhywogaeth o bob deg mewn perygl o ddiflannu. Cyhoeddwyd dogfen ar wahân a oedd yn amlinellu’r materion sy’n benodol i Gymru, lle y nodwyd yr angen am fwy o ddata fel blaenoriaeth allweddol. Yn ei ymateb i’r adroddiad, dywedodd Alun Davies AC, y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol:

Er bod yr adroddiad yn cyflwyno rhai straeon am lwyddiant cadwraeth nodedig, fel y cynnydd mewn rhywogaethau fel ystlumod pedol, y barcud coch a’r dyfrgi, mae’r adroddiad yn amlygu dirywiad dramatig a chlir amrywiaeth o rywogaethau. Mae’n amlwg na all pethau fynd yn waeth ac na allwn barhau fel yr ydym.

Flwyddyn ar ôl yr adroddiad hwn, cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd drafodaeth o amgylch y bwrdd gyda rhanddeiliaid, ar 21 Mai 2014 er mwyn asesu’r cynnydd a wnaed o ran colli bioamrywiaeth. I baratoi ar gyfer y cyfarfod hwnnw, paratodd Cyswllt Amgylchedd Cymru bapur tystiolaeth Cyflwr Natur Cymru: Blwyddyn yn Ddiweddarach. Roedd y papur yn nodi eu pryderon ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiad ac ers i Bwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad gyflwyno adroddiad. Yn benodol, roedd y papur tystiolaeth hwn, a thystiolaeth lafar y cyrff, yn galw am fabwysiadu strategaeth bioamrywiaeth glir ar gyfer Cymru. Dywedodd y sefydliadau y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu Cynllun Adfer Natur gyda thargedau mesuradwy a thargedau amser penodol ar gyfer asesu a gwarchod natur. Roedd y sefydliadau yn galw am fabwysiadu’r Cynllun ar frys er mwyn llunio penderfyniadau polisi a phenderfyniadau cyllid pwysig yng Nghymru.

Bellach, lansiwyd ymgynghoriad ar Gynllun Adfer Natur i Gymru gan Lywodraeth Cymru, a bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 3 Rhagfyr, 2014. Mae’r cynllun yn cynnwys amcanion uchelgeisiol yn ymwneud â bioamrywiaeth ac atal ei golli, yn ogystal â rhai targedau penodol ar reoli ardaloedd a ddiogelir. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y caiff y Cynllun terfynol ei fabwysiadu ar ddechrau 2015.