Cyhoeddwyd 03/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
3 Mehefin 2014
Erthygl gan Alexander Royan, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1273" align="alignnone" width="682"]

Llun gan Wikimedia. Trwydded Creative Commons.[/caption]
Mae ffermio organig wedi’i seilio ar
gyfres gaeth o egwyddorion sy’n anelu at gynhyrchu bwyd iach o safon uchel, gan sicrhau ar yr un pryd y ceir yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd naturiol. Yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), llywodraethir y diwydiant organig gan
reoliadau sy’n gyffredin ledled yr UE .
Cyhoeddwyd cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 24 Mawrth 2014, i newid y gyfundrefn reoleiddio bresennol o ran cynhyrchu a labelu cynhyrchion organig, a allai effeithio ar ddatblygiad ffermio organig yng Nghymru.
Daw’r cynigion yn dilyn adolygiad, a oedd yn codi pryderon nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol wedi aros yn wastad â’r twf yn y sector organig, a’i bod mewn gwirionedd bellach yn atal ffermwyr rhag mentro i’r farchnad organig.
Y Rheoliad arfaethedig
Y prif amcanion a nodir yn y Rheoliad arfaethedig yw:
- cael gwared ar y rhwystrau i ddatblygiad cynhyrchu organig cynaliadwy yn yr UE;
- sicrhau cystadleuaeth deg ar gyfer ffermwyr a gweithredwyr;
- cynnal neu wella hyder defnyddwyr mewn cynnyrch organig.
Mae’r Rheoliad yn cynnig y bydd yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni drwy symleiddio rheolau cynhyrchu, newid systemau rheoli i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar risg, a thrwy gysoni rheolau cynhyrchu ar draws aelod-wladwriaethau’r UE.
Yn ogystal, byddai’r Rheoliad newydd yn dileu’r angen am archwiliadau blynyddol o’r modd y mae ffermwyr yn cydymffurfio â rheolau cynhyrchu, ac yn cyflwyno ardystiad grŵp ar gyfer ffermwyr bach, i annog rhagor o ffermwyr i ymuno â chynllun organig yr UE.
Effaith bosibl ar Gymru
Ym mis Mehefin 2010, roedd dros
1,000 o ffermydd organig yng Nghymru, ac roedd oddeutu 8% o’r cyfanswm arwynebedd tir amaethyddol yn cael ei reoli’n organig neu’n cael ei droi’n dir dan reolaeth organig. Mae’r gyfran hon yn uwch na’r gyfran yn Lloegr (4%), yr Alban (3%) a Gogledd Iwerddon (1%).
Y meysydd allweddol sydd o ddiddordeb i Gymru yn y Rheoliad fydd:
- Y cynigion i ddaliadau fod yn organig yn unig: ar hyn o bryd, caiff ffermwyr organig dyfu cynnyrch confensiynol ochr yn ochr â chynnyrch organig os gellir dangos bod hynny’n angenrheidiol i gadw’u busnes yn hyfyw. Fodd bynnag, o dan y Rheoliad arfaethedig, bydd yn rhaid i ffermwyr organig reoli eu daliadau yn eu cyfanrwydd yn organig. Caniateir cyfnod pontio penodol, nad yw wedi’i nodi eto, er mwyn i ffermwyr addasu eu harferion.
- Tynnu’r eithriadau porthiant anorganig: Mae’r Rheoliad newydd yn nodi bod yn rhaid rhoi porthiant organig yn unig i dda byw organig. Mae hyn yn dileu’r caniatâd i ddefnyddio porthiant confensiynol dros dro, fel porthiant a gaiff ei ddarparu mewn cyfnod o dywydd garw.
Ymateb y Llywodraeth
Ar 25 Mawrth amlinellodd Llywodraeth y DU
rai pwyntiau cadarnhaol posibl a allai ddeillio o’r cynigion ar gyfer sector organig y DU, gan gynnwys camau gweithredu a ddiffiniwyd am beidio â chydymffurfio â’r cynigion, a fyddai’n arwain at
sefyllfa gyfartal ar draws Aelod-wladwriaethau’r UE.
Fodd bynnag, mynegodd Llywodraeth y DU bryder arbennig ynghylch cynigion i ddileu lwfansau ar gyfer
ffermydd confensiynol-organig cyfochrog gan ei fod yn ystyried bod y mathau hyn o fusnesau yn fwy cyffredin yn y sector organig yn y DU nag yn unman arall yn yr UE.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae wedi ymgynghori â DEFRA ar y rheoliadau drafft, i sicrhau bod pryderon y gwledydd datganoledig yn cael eu mynegi yn y trafodaethau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.
Ymatebion rhanddeiliaid allweddol
Cyhoeddodd Organic Farmers & Growers (OF&G) Ltd
eu bod o blaid y cynigion, gan dynnu sylw at y manteision i’r sector yn sgîl symleiddio rheoliadau a chael gwared ar rwystrau deddfwriaethol.
Ar y llaw arall, roedd
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn fwy beirniadol, ac roedd yn ystyried bod y Rheoliad presennol eisoes yn llym iawn. Mae’r NFU o’r farn y gallai’r Rheoliad arfaethedig fygwth twf yn y sector. Mae’r Copa-Cogena - sef grŵp cydweithredol o dros 90 o ffermwyr a sefydliadau amaethyddol yn yr UE yn cytuno â’r farn hon.
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio Diweddariad Polisi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am gynnwys y cynigion, a’r cyd-destun yng Nghymru, ac mae hwn i’w weld ar wefan y Cynulliad
yma.